Rhybudd bod afonydd Cymru yn 'marw a dirywio'
- Cyhoeddwyd
Mae Archesgob Cymru yn rhybuddio bod afonydd Cymru “yn marw a dirywio” ar drothwy uwch-gynhadledd yr Eglwys yng Nghymru i lygredd mewn afonydd.
Yn ôl y Parchedicaf Andrew John mae angen clustnodi mwy o gyllid er mwyn gwella isadeiledd systemau yng Nghrymu, gan alw ar Dŵr Cymru a’r llywodraeth i wneud mwy.
Fe wnaeth Dŵr Cymru ryddhau carthion i afonydd, llynnoedd a moroedd Cymru am dros 916,000 o oriau'r llynedd, yn ôl data swyddogol.
Dywedodd Dŵr Cymru eu bod yn buddsoddi £4bn dros gyfnod o bum mlynedd, gyda hanner hynny yn mynd tuag at prosiectau i wella’r amgylchedd.
'Afonydd yn dirywio ac yn marw'
Mae disgwyl bron i 100 o bobl ddod ynghyd ddydd Iau a dydd Gwener mewn uwchgynhadledd yng Nghaerdydd fydd yn trafod yr “argyfwng afonydd”.
Mi fydd y gynhadledd yn ymgais i ddod â rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru ynghyd er mwyn creu maniffesto.
“Y gwir yw ma’n afonydd ni yn dirywio ac yn marw”, meddai’r Archesgob Andrew John.
“Os nad yda ni’n newid y ffordd ‘da ni’n delio â dŵr yn y maes amaeth a’r cwmnïau dŵr hefyd, mi fyddwn i’n gweld cynnydd mewn prisiau a hefyd yr holl awyrgylch yn dioddef.
“Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb mewn modd llawn hyder, gydag egni ac wrth gwrs gyda chyllid.”
Yn ôl ffigyrau fe wnaeth Dŵr Cymru ryddhau carthion i afonydd, llynnoedd a moroedd Cymru am dros 916,000 o oriau yn 2023.
Mae hynny'n gyfystyr â thros 20% o'r holl oriau o ollyngiadau i ddyfroedd Cymru a Lloegr.
Ond yn ôl Dŵr Cymru maen nhw bellach yn buddsoddi cyllid sylweddol er mwyn diogelu afonydd a moroedd Cymru.
Ar eu safle trin yn Nhreborth, Bangor mae’r dŵr gwastraff yn cyrraedd, yn cael ei drin ac yna yn cael ei ollwng i’r Fenai.
Ac yma mae Victoria Collier o’r cwmni yn esbonio maint y buddsoddiad newydd.
“Mae gennym ni gynllun buddsoddi uchelgeisiol”, meddai.
“Rydym am fuddsoddi £4bn dros y pum mlynedd nesaf efo £2.5bn o’r swm yna ar wella’r amgylchedd.”
“Un o’r heriau mwya' i ni yw seilwaith sy’n heneiddio felly ‘da ni’n buddsoddi hefyd £1m i gynnal a chadw ac uwchraddio'r seilwaith," meddai.
Mae hynny’n cynnwys cynllun gwerth tua £20m i ddatblygu cronfa storm newydd ym Mangor fydd yn llenwi pan fydd tywydd garw er mwyn osgoi llygredd yn gollwng i’r Fenai.
Mae’r cwmni yn disgwyl iddo leihau nifer y gollyngiadau o 87 i tua 10.
- Cyhoeddwyd10 Hydref
- Cyhoeddwyd27 Medi
- Cyhoeddwyd8 Awst 2021
Yn yr un ddinas, mae gan Brifysgol Bangor un o’r adrannau mwyaf blaenllaw sy’n ymchwilio i lygredd mewn afonydd a moroedd Cymru, yn ôl yr Athro Prysor Williams sy’n uwch-ddarlithydd.
“Mae’n her enfawr”, meddai.
“Mae’n bwynt, mae’n her i fwy na just un sefydliad, i un busnes neu un diwydiant.
“Mae angen partneriaethau yn cyd-weithio i ddod o hyd i atebion ar y cyd.”
Mae’r Athro Williams hefyd yn nodi bod gwaharddiad newydd bellach wedi dod i rym sy’n atal ffermwyr rhag gwasgaru slyri mewn ymgais i rwystro carthion rhag llifo i afonydd.
Mae’n dweud am y tro ei bod hi’n rhy gynnar i weld a yw’r cynllun yn llwyddo.
Er nad cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru ydy ariannu unrhyw brosiectau i uwchraddio systemau, fe ddywedodd llefarydd eu bod yn cydnabod yr heriau.
“Mae gwella ansawdd dŵr yn hanfodol i wneud Cymru yn lle llewyrchus, hapus ac iach i fyw ac ymweld.
“Y mis diwethaf fe wnaethom lansio adolygiad eang ar y cyd gyda Defra i mewn i bolisi a rheoleiddio yn y sector."