'Dim pryder' wedi sïon am ddyn amheus yng Nghaernarfon

Heddlu Ffynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud nad oes rheswm i gymuned Caernarfon bryderu yn dilyn sïon am ddyn amheus yn yr ardal.

Dywedodd y llu eu bod yn ymwybodol o sïon ar y cyfryngau cymdeithasol dros y dyddiau diwethaf bod dyn wedi bod yn ceisio denu plant i'w gerbyd yn yr ardal.

Yn ôl yr heddlu, maen nhw wedi cynnal ymchwiliad trylwyr ac yn dweud nad oedd unrhyw ymgais wedi'i wneud i hudo plant.

Maen nhw'n pwysleisio felly nad oes angen i'r gymuned boeni.

Dywedodd yr arolygydd Andy Davies bod y llu yn annog y cyhoedd i adrodd unrhyw ddigwyddiad tebyg yn uniongyrchol i'r heddlu, yn hytrach na rhannu amheuon ar gyfryngau cymdeithasol.

Pynciau cysylltiedig