Dau yn gwadu achosi marwolaeth dyfarnwr rygbi ym Mhowys

Rhys JenkinsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Rhys Jenkins yn dilyn gwrthdrawiad ger Y Trallwng fis Tachwedd

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn o Fanceinion wedi gwadu achosi marwolaeth dyfarnwr rygbi mewn gwrthdrawiad ym Mhowys y llynedd.

Bu farw Rhys Jenkins, 41 o Lyn-nedd, Castell-nedd Port Talbot, wedi gwrthdrawiad ar yr A483 ddydd Sadwrn, 16 Tachwedd.

Fe gafodd ei fab naw oed, Ioan, ei anafu yn y digwyddiad hefyd a bu'n rhaid ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty am driniaeth.

Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Gwener bod Abubakr Ben Yusaf, 29, a Umar Ben Yusaf, 34, mewn cerbydau ar wahân ar y ffordd, i'r de o'r Trallwng.

Plediodd y ddau yn ddieuog i dri chyhuddiad gwahanol, ac mae disgwyl iddyn nhw wynebu achos llawn ym mis Medi.

Yn rhoi teyrnged iddo ar y pryd, dywedodd teulu Mr Jenkins ei fod yn "yn ŵr, tad a dyn teulu ffyddlon" a bod ei farwolaeth yn "gwbl ddinistriol".

Roedd hefyd yn uchel ei barch o fewn y byd rygbi, ac wedi dyfarnu gemau ar draws Cymru ac yn Seland Newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Un o'r diffynyddion - Umar Ben Yusaf - yn gadael y llys ddydd Gwener

Yn ystod gwrandawiad a barodd am 20 munud, fe siaradodd y ddau ddiffynnydd ond i gadarnhau eu manylion personol, ac i bledio'n ddieuog i bob cyhuddiad.

Clywodd y llys bod ddau yn optometryddion, ac yn gwneud gwaith locwm yn aml yng Nghymru.

Maen nhw wedi eu cyhuddo o achosi marwolaeth Mr Jenkins trwy yrru'n beryglus, o achosi marwolaeth tra'n gyrru heb yswiriant ac o achosi anafiadau difrifol i Ioan Jenkins.

Er nad yw'r achos llawn wedi dechrau, clywodd y llys bod Abubakr Ben Yusaf yn gyrru BMW X3 coch ac Umar Ben Yusaf yn gyrru Audi S4 glas yn ardal Belan, rhwng Y Trallwng a'r Drenewydd, pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Fe gafodd amodau mechnïaeth eu haddasu fel bod y ddau yn gallu parhau â'u gwaith yn y system iechyd hyd nes i'r achos ddechrau ar 8 Medi.

Pynciau cysylltiedig