Cwestiynau yn parhau wrth i safle tirlenwi dadleuol ailagor
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr yn erbyn safle tirlenwi dadleuol yn Sir Benfro yn dweud fod cwestiynau yn parhau ynglŷn â sut y bydd y safle'n cael ei fonitro a'i reoleiddio yn y dyfodol.
Ers mis Hydref 2023, mae pobl wedi bod yn cwyno am arogleuon gwael o safle Withyhedge ger Hwlffordd.
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fod Resources Management UK Ltd (RML) - y cwmni sy'n gyfrifol am y safle - wedi cyflwyno newidiadau i geisio mynd i'r afael â'r broblem, a bod disgwyl i waith ailddechrau yno yn fuan.
Ond mae grŵp Stop the Stink yn dweud fod angen sicrwydd o ran sut y bydd ansawdd yr aer yn cael ei fonitro yn ogystal ag eglurder o ran unrhyw sancsiynau posib am broblemau'r gorffennol.
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
- Cyhoeddwyd26 Mehefin
- Cyhoeddwyd17 Hydref
Ddydd Iau, mae 'sesiwn galw heibio' yn cael ei chynnal yn Hwlffordd er mwyn rhoi cyfle i gymunedau ddod i wybod mwy am y cynlluniau ar gyfer dyfodol safle Withyhedge.
Fe fydd cynrychiolwyr o'r Tîm Rheoli Digwyddiadau amlasiantaeth - sy'n cynnwys CNC, Cyngor Sir Penfro, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda - yn bresennol er mwyn ymateb i unrhyw gwestiynau neu bryderon.
Dywedodd Cadeirydd y Tîm Rheoli Digwyddiadau, Caroline Drayton, eu bod yn awyddus i roi sicrwydd i drigolion bod cynlluniau ar waith i fonitro'r safle yn agos dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
“Mae pob un o bartneriaid y Tîm Rheoli Digwyddiadau yn deall pa mor annifyr yw’r cyfnod hwn i drigolion sydd wedi cael eu heffeithio gan aroglau o Safle Tirlenwi Withyhedge o'r blaen," meddai.
“Byddwn yn diweddaru'r gymuned ar newidiadau a wnaed gan RML i wella eu dull o weithredu ar y safle a'r camau y bydd aelodau'r Tîm Rheoli Digwyddiadau yn eu cymryd i oruchwylio gweithgareddau yn y safle tirlenwi wrth symud ymlaen.
"Bydd partneriaid y Tîm Rheoli Digwyddiadau hefyd yn darparu mwy o gyd-destun o ran y gwaith monitro ansawdd aer a negeseuon iechyd cysylltiedig."
Mewn datganiad fore Iau, dywedodd grŵp Stop the Stink eu bod yn cydnabod y buddsoddiad pellach y mae RML wedi ei wneud i wella'r safle, ond eu bod yn awyddus i gael mwy o eglurder am rai materion.
"Mae Stop the Stink eisiau deall sut yn union fydd y safle yn cael ei reoleiddio yn y dyfodol er mwyn sicrhau nad oes unrhyw arogleuon drwg pellach yn cael eu rhyddhau," meddai'r grŵp mewn datganiad.
"Hoffwn wybod hefyd pa sancsiynau, os o gwbl, fydd yn cael eu cyflwyno yn sgil achosion blaenorol o dorri amodau trwydded - rhywbeth a wnaeth achosi cymaint o bryder i'r gymuned leol."
Fe fydd y sesiwn galw heibio yn cael ei chynnal rhwng 15:00 a 19:00 ddydd Iau yn Neuadd Eglwys Spittal, Hwlffordd.