Gobaith cael 50% yn fwy o drenau ar hyd y gogledd

Trên mewn gorsaf
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r cynlluniau yn cynyddu nifer y trenau ar brif linell y gogledd o ddwy i dair yr awr

  • Cyhoeddwyd

Bydd gwasanaethau trenau yng ngogledd Cymru yn cynyddu 50% erbyn 2026, gyda nifer y trenau yn cynyddu o ddwy i dair yr awr, medd Llywodraeth Cymru.

Daw hyn yn sgil cynllun i wella diogelwch ar y brif linell rhwng Llandudno a Lerpwl.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys cau pedair croesfan reilffordd er mwyn galluogi trenau i deithio'n gynt.

Ond dyw hi ddim yn glir eto a fydd y cynllun a gyhoeddwyd yn flaenorol gan lywodraeth Rishi Sunak i drydaneiddio'r linell yn mynd yn ei flaen dan lywodraeth newydd y DU.

Mae'r cynigion diweddaraf yn cynnwys cau dwy groesfan ym Mhrestatyn ac un arall ger Pensarn, Abergele, lle bydd pont droed newydd yn cael ei hadeiladu i gymryd lle'r croesfannau presennol i gerddwyr.

Byddai hyn yn golygu bod modd codi’r terfyn cyflymder, gan wella amseroedd teithio a chapasiti'r gwasanaeth.

'Cynnydd enfawr mewn capasiti'

Mae'r gwaith yn cael ei arwain gan Trafnidiaeth Cymru (TC) a Network Rail, fel rhan o fenter ehangach sy'n cael ei chefnogi gan fuddsoddiad o £800m mewn trenau newydd ar draws Cymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates fod y prosiect yn cynrychioli hwb mawr i drafnidiaeth yng ngogledd Cymru.

"Rwy'n falch iawn bod gennym bellach gynlluniau cadarn ar waith i gyflawni'r cynnydd enfawr hwn mewn capasiti rheilffyrdd ar gyfer gogledd Cymru," meddai.

"Bydd yr uwchraddiadau diogelwch hyn yn galluogi Trafnidiaeth Cymru i gynyddu cysylltedd yn sylweddol, gyda llawer mwy o wasanaethau a dewis go iawn o ran trafnidiaeth i gymunedau yng ngogledd Cymru."

Ychwanegodd fod y gwaith yn enghraifft o’r cydweithio rhwng llywodraethau Llafur Cymru a'r DU i wella’r isadeiledd trafnidiaeth ar draws y rhanbarth.

Yn ogystal â chau'r croesfannau, mae gwaith uwchraddio gorsafoedd yn cael ei wneud yng ngorsaf Y Fflint, gan gynnwys llochesi newydd, ystafelloedd aros, cyfleusterau toiledau ac ardal eistedd, yn ogystal â gosod pont droed newydd hygyrch.

Bydd y gwaith hwn yn darparu mynediad heb risiau am y tro cyntaf yn Y Fflint.

Goblygiadau 'dwy lywodraeth yn cydweithio'

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens fod y datblygiad yn "enghraifft o'r hyn sy'n digwydd pan fod dwy lywodraeth yn cydweithio, yn siarad â'i gilydd, yn datrys problemau, ac yn creu atebion".

Dywed Ms Stevens nad oedd llywodraeth Rishi Sunak erioed wedi darganfod y £1bn yr oedd wedi cyhoeddi ar gyfer trydaneiddio rheilffyrdd gogledd Cymru.

Ar ôl i'r Blaid Lafur ennill yr etholiad cyffredinol, dywedodd fod ysgrifennydd trafnidiaeth newydd y DU wedi cyhoeddi "adolygiad o'r holl arian cafodd ei wario ar y seilwaith gan y llywodraeth flaenorol".

"Mae gen i bob amheuaeth y byddwn yn darganfod nad yw'r biliwn o bunnau yn bodoli," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Jo Stevens mai dyma sy'n digwydd pan fo dwy lwydoraeth yn cydweithio

Dywedodd ysgrifennydd gogledd Cymru y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar:

"Mae de Cymru yn derbyn llinellau rheilffordd newydd gwerth £1bn tra bod gweinidogion Llafur yng Nghaerdydd ond yn buddsoddi £50m yng ngogledd Cymru, ac mae'r Llywodraeth Lafur y DU wedi gohirio'r prosiect trydaneiddio gwerth £1bn.

"Tra ein bod yn croesawu'r newyddion am fwy o drenau o ogledd Cymru, mae'r diffyg buddsoddiad i seilwaith rheilffyrdd yn yr ardal yn hollol annerbyniol".