Gai Toms: 'Dwi ddim wedi sgwennu fy albwm gorau eto'
- Cyhoeddwyd
Mae Gareth J. Thomas o Ffestiniog wedi bod yn ffigwr amlwg ym myd cerddoriaeth Cymraeg ers bron i 30 mlynedd.
Yn gyntaf gyda'r band Anweledig, wedi hynny dan yr enw Mim Twm Llai, wedyn efo'r band Brython Shag, ac wrth gwrs dan yr enw rydyn ni yn ei 'nabod orau, Gai Toms.
Ar 1 Medi, ar rhaglen arbennig ar Radio Cymru fe siaradodd Ffion Dafis gyda Gai am ei fywyd a'i yrfa gerddorol.
“Odd ’na fand yn Tanygrisiau o’r enw Y Mistêcs, rhyw 500 llath o fan hyn yn Cambrian Teras – odd’na sŵn mawr yn yr atig yn fanno. Yn chwarae o’dd ffrindiau hŷn na fi, sef Kaz Bentham, Asa Bentham, Phil Jones, Dan Poeth a Neil Wayne y canwr.
"Heavy metal, gwalltiau hirion, roc trwm... ac ‘nathon nhw gasét efo Fflach, ac fe brynodd mam y casét i mi i gefnogi’r ‘ogia. Hwnnw oedd y drws mawr – ‘Waw, cerddoriaeth Cymraeg rock & roll!’, ac i gymharu efo’r traddodiad capel odd hwn yn apelio dipyn mwy i fi."
Dylanwadau cynnar
Roedd dylanwadau Gai pan yn hogyn ifanc yn gymysgedd o fandiau Cymraeg a Saesneg.
“Pan oddan ni’n yr ysgol uwchradd oddan ni’n gwrando ar Ffa Coffi Pawb, Hanner Pei, Aros Mae... oddo’n mind-expanding go iawn, ac diolch i recordiau Ankst mwy na’m byd, achos nhw odd yn rhoi’r albwms anhygoel 'ma allan i’r bandiau ifanc cyffrous ‘ma. Ond oedd hynny law yn llaw hefyd efo bandiau fel Stone Roses a Happy Mondays – oddan ni wedi tyfu allan o roc a heavy metal, a mynd mewn i bethau mwy arbrofol.
“Fel unigolion odd gen ti Rhys, Ceri, Oz ac Alwyn yn Anweledig, ac oddan ni gyd fewn i’r sîn Gymraeg. Oddan ni’n gwneud gigs mewn ysgolion a gweld bandiau fel Tŷ Gwydr a Beganifs, a pan oddan ni ‘chydig yn hŷn mynd i weld bandiau tu hwnt i Stiniog.
"Odd’na fand ‘chydig bach mwy indie na’r Mistêcs, o’r enw’r Cylchoedd Hyd, ac oedd fy nghefnder i ar ochr fy nhad, Gary yn chwarae’r bas i nhw. Felly, oedd hwnnw’n rhyw ddylanwad arall arna i - 'os allith Gary chwarae’r gitâr, falla alla i chwarae gitâr’...
“Roedd fy chwaer, Elaine, yn ddylanwad arna i hefyd. Oedd gen hi gitâr clasurol yn ei lloft, a pan odd hi’n mynd allan o’n i’n mynd i’w llofft hi i chwarae gitâr a mynd drwy ei vinyls hi – pethau fel U2. Ond yn ganol records fel 'na oedd gen ti fandiau fel Maffia Mr Huws."
“Alla i ddim rhoi fy mys ar yr union ateb i sut nes i droi’n gyfansoddwr neu’n gerddor – mae’n gymysgedd o gwahanol bethau dydi, foed o’n dylanwad fy mam ar y piano, fy chwaer efo’r records, bandiau lleol a chyfoedion. Ond hefyd yn y cefndir oedd gen ti Llwybr Llaethog. Roedd tad Kaz ac Asa Bentham, Ben, yn aelod o’r Llwybr Llaethog ar y pryd, ac odd’na wastad drymiau ac offerynnau yn tŷ Kaz, ac yn tŷ Phil roedd ei rieni i fewn i’r Beatles."
Pan anwyd Gai roedd ei dad eisoes yn 50 oed, yn chwarelwr, yna'n yrrwr loris a bysus.
"Fel plentyn o'n i isio mwy o arweiniad cerddorol. Ro'n i'n ei gael trwy fy chwaer, ond ath hi i'r coleg ym Mangor, ond doedd Dad ddim yn fy mwydo i efo cerddoriaeth, yn dweud wrtha i wrando ar hyn a llall, na Mam chwaith.
"Ond ddos i adra o'r coleg un diwrnod pan oedd fy nhad ddim yn disgwyl i fi ddod, ac odd o'n gwrando ar miwsig Nat King Cole. ‘Nath o 'rioed ddeud wrtha i bod o'n hoff o'i fiwsig o, ac dyna'r tro cyntaf i ni wrando ar fiwsig efo'n gilydd, pan o'n i tua 18 neu 19."
Creu sŵn newydd
Roedd cerddoriaeth cynnar Gai yn bair o wahanol fathau o gerddoriaeth.
"Oddan ni'n ymwybodol bo' ni'n mynd lawr y trywydd indie, ond mi roedd 'na elfennau cerddorol eraill yn rhan o'r dylanwad, sêr reggae, Paul Simon, roots a blues. Am ryw reswm nathon ni ddechrau arbrofi efo'r sŵn na, funk. Dwimbo be oedd o, ond oddan ni'n mwynhau reggae, ac yn mwynhau funk mwy na trio bod yn cŵl efo'r indie.
"O'n i ac Alwyn yn Coleg Dolgellau (chweched dosbarth), ac oedd ganddon ni ddarlithydd o'r enw Siri - dawnswraig o Norwy. Odd hi'n 'nabod y gwr 'ma o'r Gambia, Karamo, a ddoth o i'r Coleg i wneud gweithdy offerynnau taro efo ni. Dwi'n meddwl mai fo 'nath newid y llwybr i ni, a ddoth o i garej Rhys yn Llan Ffestiniog a helpu ni ffeindio'n sŵn ni.
"Ond mi roedden ni'n ffans o Maffia a Geraint Jarman, a oedd yn ddylanwad reggae. Ond odd reggae ni bach yn wahanol, bach mwy Affricanaidd falla, bach o gerddoriaeth y byd - os ti'n gwrando ar Dawns y Glaw ti'n clywad y gitâr 'na... Paul Simon, Graceland, y dylanwad yna."
"Oddan ni'n awyddus iawn i fynd tu hwnt i Gymru. Oddan ni 'di bod yn y cymoedd a 'di cal gigs ffantastig yno, a wedi bod yn Lerpwl, Llundain ac Iwerddon. Ac yn y cyfnod yna pan oddan ni'n byw efo'n gilydd athon ni i Lydaw a chael taith ffantastig fanna. Ond oddan ni isio mynd yn bellach i Ewrop, a falla rhyw gyfnewidfa i Affrica neu rwbath.
"Dwi'n meddwl os 'sa Anweledig yn bodoli heddiw fysa'r adnoddau a'r cyfleoedd yna i ni wrach 'neud rwbath ohono fo. Doedd y cyfleon ddim cweit be ydyn nhw dyddiau 'ma - oddan ni'n byw ar ddim rili, ac odd rhaid ni gael swyddi, a wedyn dirywiodd y band."
'Neges bositif' Anweledig
Roedd Gai yn awyddus nid yn unig i greu sŵn gwahanol i Anweledig, ond bod y neges yn wahanol, gan ddangos Blaenau mewn goleuni newydd.
"Dwi'n meddwl y peth mwya' 'nath Anweledig oedd rhoi gogwydd gwahanol ar Stiniog. 'Dan ni'n siarad am yr 80au a 90au, diweithdra a phroblemau cymdeithasol.
"Ac odd'na rwbath tu fewn i bob un ona ni isio brwydro yn erbyn hynny - a bo' ni'n cael stic o hyd am y glaw. A dyna di'r gan Dawns y Glaw - 'pawb yn dweud fod hi’n bwrw glaw yn Blaenau Ffestiniog, wir i chi mae hi’n braf o hyd yn Blaenau Ffestiniog', a'r braf ydy'r enaid, ac os da ni'n braf tu fewn allwn ni lwyddo yn y byd. Dwi'n meddwl bo hynny'n neges eitha positif i griw mor ifanc gyfleu.
"Roedd Dewi Prysor yn reolwr arnon ni ar y pryd, a fo ddoth fyny efo'r teitl 'sombreros yn y glaw'. Oedd Prys yn ddylanwad mawr arno ni, cyflwyno miwsig newydd i ni, trefnu gigs, 'nabod pobl yn y Fro Gymraeg.
"Mae Rhys Mwyn yn un arall 'nath roi cyfle i ni... mae 'na gymaint o bobl i ddiolch am roi ffydd yno ni, i fentro a rhoi ein stamp ar y byd."
"Ma ‘na gân o'r enw Victor Parker gan Meic Stevens, ‘gwen fawr o dan yr hen het ddu..’ ac o’n i’n meddwl ma’ ‘na gymeriadau fel ‘na yn Stiniog, Robin Pant Coch efo het trilby ar ei ben, ac os oedd Meic Stevens yn gallu neud cân am gymeriadau yng Nghaerdydd neu Solfa, alla i sgwennu am gymeriadau Stiniog. Dwi’n gweld Meic Stevens fel artist, ei gitâr o fel cynfas, a’i eiriau o fel y lliwiau neu’r paent, a dyna oedd yr ysbrydoliaeth i fi."
Meurig Thomas oedd enw tad Gai, a chafodd y llysenw Mim Twm. Yna roedd ei chwaer yn cael ei 'nabod fel Mim Twm Bach, ac o ganlyniad fe gymrodd Gai y llysenw Mim Twm Llai.
“‘Nes i dri albwm Mim Twm Llai, yna 'nes i golli fy nhad yn 2003 ac wedyn o’n i ddim yn teimlo bod o’n iawn i ddefnyddio ei enw o. Felly, o ran parch 'nes i ollwng yr enw Mim Twm Llai a jest bod yn fi’n hun, Gareth Thomas – Gai Toms.
"Yn 2008 gath y label Sbensh ei greu, a gwneud record cysyniadol a chreu set dryms allan o junk."
'Chwaerae teg i Stiniog'
Mae Gai o'r farn bod ardal Ffestiniog yn cael ei hanwybyddu ar brydiau, am sawl rheswm.
“Hyd heddiw dydi'r gymuned (Stiniog) ddim yn cael yr un cyfleon ac ddim yn cael yr un chwarae teg oherwydd ble mae o yn ddaearyddol.
"Y gwahaniaeth mewn dosbarth a ballu - y dosbarth canol, y dosbarth uwch, ond yn Stiniog roedd y rhan fwya’ yn dosbarth gweithiol ac roedd hynny’n rwbath i ymfalchïo ynddo. Dyna 'wrach sy’n ein gwneud ni ‘chydig yn wahanol yn Stiniog, bo’ ni dal efo’r edefyn dosbarth gweithiol ‘na.
“Ffactor arall ydi, os ti’n mynd i ffwrdd, fel dywed Tom Waits ‘I didn’t know what the East was like until I moved to the West’. Ac dyna ddigwyddodd i ni, athon ni o ‘ma, a sylweddoli waw ma’ ‘na botensial fan hyn. Dyna sy’n bwysig am fynd allan i deithio a phrofi’r byd, a trio dod a rwbath yn ôl a gwneud y lle’n well.”
Gwobr cyfraniad oes yn 'deimlad od'
Fe enillodd Gai wobr 'Cyfraniad Arbennig' yng Ngwobrau'r Selar, 2023.
“Mae’n un i ti adlewyrchu, a sylweddoli ‘ia dwi wedi bod o gwmpas ers dipyn’- Anweledig, Mim Twm Llai, Gai Toms... Ond mae o’n reddfol i fi, dwi heb fynd allan o’r ffordd i neud o. Felly mae cael gwobr o’r fath, am gyfraniad arbennig, ma’n teimlo’n od achos dio ddim yn teimlo fel rhywbeth arbennig, a dwi ddim yn gwybod be’ arall fyswn i wedi gallu ei wneud.
“Mae ‘di cymryd amser i mi ymfalchïo ynddo fo (y wobr), ond eto’r edefyn dosbarth gweithiol ‘na – ydw i’n haeddu hyn? Mae hynny yno fi, a hefyd dwi’n ymwybodol bod ‘na lot o bobl wedi gwneud mwy na fi. Ond dwi’n gwerthfawrogi’r wobr yn fawr iawn, ac mae o ‘di rhoi rhyw ail wynt i mi hefyd, i feddwl alla i wneud mwy – mae ‘na fwy i ddod, dio ddim yn achos i ymddeol.”
Rhyddhau albwm Saesneg
Yn 2015 fe ryddhaodd Gai ei albwm Saesneg gyntaf; The Wild, The Tame and The Feral.
“Gath o ddim ymateb da iawn yn y sffêr Gymraeg" meddai Gai, "gyda bobl yn gofyn ‘be ma hwn yn neud yn canu’n Saesneg?’. Ond mae gen i ddylanwadau Eingl-Americanaidd, a dwi’n meddwl swni’n mynd lawr yn dda yn America, ond i wneud hynny fyswn i angen asiant a rheolwr a bobl i hyrwyddo, ac mae’r petha ma’n costio.
“Mae ‘na elfen yno fi isio ella mentro tu hwnt, cyn i fi fynd yn rhy hen, ond i wneud hynny mae isio cael petha’n iawn, a dyna fy ngwendid i – dydw i ddim yn ddyn busnes naturiol, artist ydw i. Mae ‘na ran ona i’n teimlo pam nes i ddim mentro’n iau, i lwyddo yn Saesneg neu beth bynnag. Ond ma’ ‘na ran mawr iawn ona i’n falch bo fi’n cyflenwi diwylliant yn y Gymraeg – ac yn y byd digidol mae’n bosib hefyd lledu’r neges yn Gymraeg."
Y Wasg Gymraeg
Mae gan Gai deimladau cryfion ynglŷn â chyflwr newyddiaduraeth Cymru pan mae'n dod i ddelio â cherddoriaeth.
“Dwi’n teimlo bod ‘na wendid mawr yn y byd newyddiadurol yn gyffredinol, bod ‘na ddim digon o sylw on the pulse i’r byd canu Cymraeg. Gena ni ambell i gylchgrawn sy’n trio’i gorau, a pob parch iddyn nhw. Mae hynny’n un peth, ond mae’r ffordd o adolygu albwm yn grefft yn ei hun, ac mae ‘na brinder o bobl sy’n crafu dan y wyneb yn y Gymraeg.
"Hefyd, mae ‘na ‘chydig bach o ffilter yn mynd mlaen, bod ‘na unigolion llwyddiannus yn y byd radio neu teledu yn licio rhoi eu portread nhw o beth ydy cerddoriaeth Gymaeg, ac os ti ddim yn rhan o’r ddelwedd yna ma nhw’n trio’i bortreadu mae’n anodd cael dy bîg i fewn. Mae’n heriol, a dwi ddim yn teimlo mod i’n rhan o’r entourage yna falla – pam? Dwi ddim yn gwybod, mae hwnna’n PhD o fewn ei hun.”
Y dyfodol
Er ei fod wedi bod yn y diwydiant ers blynyddoedd mae Gai'n teimlo bod ganddo llawer mwy i'w gynnig yn ei yrfa gerddorol.
“Mae ‘na fwy i ddod dwi’n meddwl, dwi ddim wedi sgwennu fy albwm gorau eto - mae ‘na fwy yn'o fi."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd20 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2023