Movember 'mor bwysig' i ddyn a gollodd ei dad yn ifanc
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Rygbi Prifysgol Caerdydd yn anelu i dorri eu record codi arian ar gyfer yr elusen Movember am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Bu farw tad un o'r myfyrwyr drwy hunanladdiad a dywed bod yr elusen, sy'n cefnogi 1,320 o brosiectau iechyd meddwl ar draws y byd, yn bwysig iddo.
Cafodd ‘Movember’ ei sefydlu gan ddau ffrind o Awstralia nôl yn 2003.
Mae’r chwaraewyr rygbi ar frig y tabl codi arian ar draws Prydain.
Cododd y clwb dros £33,000 y llynedd.
Pan oedd Alex Ray, o Abertawe, yn 13 oed, bu farw ei dad drwy hunanladdiad. Mae ymdrechion y clwb wedi bod yn gysur iddo, meddai.
Dywedodd ei fod yn benderfynol i gymryd rhan yn yr ymgyrch.
"Mae iechyd meddwl dynion wastod wedi bod yn bwnc pwysig iawn i mi.
"Cyn i mi ddod i’r brifysgol, o’n i wastod yn barod i gymryd rhan.
"Mae’n bwysig bod ni’n gofyn sut allwn ni ddechrau siarad am bethau yn fwy.
"Mae pobl yn gyfarwydd â chuddio teimladau, a mae’n hawdd i ddim sylwi bod pobl yn stryglo."
Mae Tomi Booth, 21 oed o Lantrisant yn ffrind ac yn gyd-chwaraewr i Alex.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd y maswr bod yr ymgyrch bob tro yn gymorth i’r sawl sy’n cuddio eu teimladau.
"O'n i 'di sylweddoli bod mwy o bobl nag o’n i’n meddwl falle gyda problemau ac eisiau siarad am rywbeth.
"Ma' fe'n rhoi siawns i bawb ymddiried yn ei gilydd," meddai.
Mae’r tîm wedi cynnal sawl her i godi arian gan gynnwys dringo Pen-y-fan a chynnal dawns fawreddog.
Stigma o fewn rygbi
Er bod sawl un o’r heriau yn rhai hwyliog dywed Tomi bod natur y codi arian yn annog pobl i gymryd rhan.
"Ma 'na fath o stigma lle mae iechyd meddwl bob amser yn negatif.
"Os ma bois yn 'neud rhywbeth i godi ymwybyddiaeth mewn ffordd ddiddorol bydd hi'n haws wedyn i drafod y pwnc.”
Er i Tomi gyfaddef nad yw’n “lico siarad gyda phobl am be sy’n mynd 'mlan tu fewn", oddi ar y cae, dywedodd bod cael pobl yna i wrando yn "hollbwysig".
"Pryd chi’n gallu gweld pawb o gwmpas chi yn siarad amdano fe, mae’n neud i chi teimlo, fel chi’n gallu ymddiried ynddyn nhw," ychwanegodd.
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2024
Yn ôl George MacDonald, 21 o Lanelli, mae rygbi yn gamp llawn "stigma" lle nad yw chwaraewyr yn "siarad lan".
"Mae pawb yn meddwl bod rhaid cuddio gyda rygbi, ond ma llawer o’r bois i gyd yn yr un cwch."
Ers i'w hymgyrch ddechrau, mae'r mis diwethaf wedi annog rhai o'r bechgyn i siarad gyda'i gilydd, meddai George. .
“Ma’r sgwrs yn gwneud i bobl siarad lan,” dywedodd.
Ar ôl gweld ei frawd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, mae Sam Sommers, ysgrifennydd elusen y clwb, o’r farn bod angen i bobl siarad am yr hyn sy'n eu poeni.
“Y rheswm ma 'na stigma yw bod dynion yn meddwl bod rhaid iddyn nhw edrych ar ôl pawb arall, i fod yr un sy’n arwain.
“Dydyn nhw ddim eisiau dangos unrhyw wendid fel sa fe yn beth gwael. Rwy’n credu bod e’n cymryd mwy o gryfder a gwytnwch i ddangos dy wendidau a ochr mwy emosiynol.
“Dyw’r byd ddim yn deall [iechyd meddwl] dynion, dyna pam ma’ hwn mor bwysig."
Mae tîm rygbi'r brifysgol bellach yn gweithio tuag at sefydlu pwyllgor iechyd meddwl i gefnogi aelodau o’r clwb.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.