Ymdrechion i herio'r penderfyniad i ryddhau Gafoor wedi methu
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl y bydd llofrudd Lynette White yn cael ei ryddhau o'r carchar ar barôl yn sgil methiant ymdrechion i herio penderfyniad y Bwrdd Parôl.
Cafodd Jeffrey Gafoor ei garcharu yn 2003 am lofruddiaeth Lynette White ym 1988.
Fe gafodd Gafoor ei garcharu am oes gyda gorchymyn iddo dreulio o leiaf 13 mlynedd dan glo. Daeth y cyfnod yna i ben yn 2016.
Ym mis Hydref daeth Bwrdd Parôl i’r casgliad ei bod hi'n ddigon saff i ryddhau Gafoor, a hynny ar ôl gwrthod pum cais blaenorol.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Ar ôl ystyried yn ofalus, yn anffodus dydyn ni heb ddod o hyd i unrhyw reswm cyfreithiol i herio penderfyniad y Bwrdd Parôl."
- Cyhoeddwyd18 Hydref
- Cyhoeddwyd17 Hydref
- Cyhoeddwyd3 Hydref
Cafodd Lynette White ei thrywanu dros 50 o weithiau mewn fflat yn nociau Caerdydd ar Ddydd Sant Ffolant 1988.
Aeth pump o ddynion gerbron llys yn 1990 wedi'u cyhuddo o'i lladd.
Cafodd tri ohonyn nhw - Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller, a ddaeth yn adnabyddus fel Tri Caerdydd - eu carcharu am oes yn 1990, cyn cael eu rhyddhau ar apêl yn 1992.
Yn 2003 fe wnaeth Heddlu De Cymru ddefnyddio technoleg DNA newydd i'w harwain at y llofrudd go iawn.
Cyfaddefodd Gafoor iddo drywanu Ms White mewn ffrae dros £30.
Arweiniodd yr ymchwiliad cychwynnol i farwolaeth Ms White at un o’r achosion llys troseddol hiraf ym Mhrydain erioed.
'Ddim yn syndod'
Dywedodd John Actie, un o'r dynion gafodd eu cyhuddo ar gam o lofruddio Lynette White, ei fod o wedi gofyn i fargyfreithiwr herio'r penderfyniad i ryddhau Gafoor.
"Ro'n i'n disgwyl hyn, dydi o ddim yn syndod. Dwi wedi 'neud fy ngorau.
"Roedden nhw wastad ei ryddhau, does dim byd yn fy synnu ragor."
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Mae'n meddyliau gyda theulu a ffrindiau Lynette White wrth iddyn nhw brosesu'r newyddion anodd yma.
"Fe fydd o (Gafoor) yn destun amodau trwydded llym, a bydd yn cael ei oruchwylio yn ofalus ar ôl iddo gael ei ryddhau.
"Os ydyw'n torri'r rheolau, yna bydd yn dychwelyd i'r carchar."