Y Ceidwadwyr yn mynnu ymddiheuriad wedi fideo Ysgrifennydd Cymru

jo stevens
Disgrifiad o’r llun,

Mae Swyddfa Cymru yn mynnu nad yw Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, wedi torri cod y gwasanaeth sifil

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Ceidwadwyr wedi cyhuddo Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, o ddwyn anfri ar Swyddfa Cymru drwy ddefnyddio cyfleusterau'r adran er "budd gwleidyddol".

Dywedodd Ysgrifennydd Cymreig yr Wrthblaid, Byron Davies, fod cyfweliad gyda'r gweinidog , dolen allanolyn Swyddfa Cymru yn torri rheolau'r gwasanaeth sifil - rheolau sy'n atal defnydd o adnoddau swyddogol ar gyfer dibenion plaid wleidyddol.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: “Roedd yr Ysgrifennydd Gwladol yn amlinellu polisi’r llywodraeth yn sgil adnewyddu y berthynas rhwng llywodraethau’r DU a Chymru."

Ym mis Mai roedd hi'n ymddangos bod Ysgrifennydd Ceidwadol Cymru ar y pryd, David TC Davies, wedi defnyddio swyddfa'r llywodraeth i feirniadu Llywodraeth Cymru - digwyddiad a gafodd ei feirniadu gan Stevens.

Galw am 'ymchwiliad cyflym'

Mae Byron Davies - sy'n cael ei adnabod fel yr Arglwydd Davies o Benrhyn Gŵyr - wedi ysgrifennu at Stevens yn gofyn am esboniad ac ymddiheuriad.

Ysgrifennodd: “Yn y fideo a bostiwyd yn gynharach yr wythnos hon [ar y cyfryngau cymdeithasol] dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru: ‘Roeddwn i’n glir iawn ynglŷn â’r hyn yr oeddem ni, fel llywodraeth, eisiau ei gyflawni a’r hyn yr oeddwn am ei gyflawni yn y rôl hon ar ran Swyddfa Cymru sef ailsefydlu’r berthynas gyda Llywodraeth Cymru, gan gefnu ar berthynas o ffraeo, llawn tensiwn’.”

Ychwanegodd yr Arglwydd Ceidwadol: “Mae’r fideo, a gafodd ei ffilmio y tu mewn i’r adran a’i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol, yn wleidyddol iawn ei natur.

“Mae’n ysgytwol gweld adnoddau sy’n cael eu hariannu gan y trethdalwr yn cael eu camddefnyddio er budd plaid wleidyddol.”

Dywedodd fod y weithred yn torri cod y gwasanaeth sifil ac, "felly, galwaf am ymchwiliad cyflym i ganfod pam y caniatawyd sefyllfa o'r fath".

'Y cod yn ddim yn berthnasol i weinidogion'

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: “Amlinellodd yr Ysgrifennydd Gwladol bolisi’r llywodraeth ynglŷn ag ailsefydlu y berthynas rhwng llywodraethau’r DU a Chymru.

"Does dim byd amhriodol mewn mynegi gofid am ymddygiad y weinyddiaeth flaenorol a'r diffyg parch oedd ganddi tuag at Lywodraeth Cymru a datganoli."

Aeth ymlaen i ddweud bod cod y gwasanaeth sifil yn berthnasol i weision sifil, nid gweinidogion.

Pynciau cysylltiedig