Cefnogwyr Cymru yn gobeithio am 'haf bythgofiadwy' yn y Swistir

Mae carfan Cymru eisoes wedi cael croeso cynnes gan blant lleol yn eu safle ymarfer yn Weinfelden
- Cyhoeddwyd
Mae cefnogwyr fydd yn teithio i wylio Cymru yn Euro 2025 yn dweud eu bod yn gobeithio am "haf bythgofiadwy" a "phencampwriaeth i'w chofio" yn y Swistir.
Mae disgwyl i filoedd o gefnogwyr deithio i wylio merched Cymru yn cystadlu ym mhencampwriaeth yr Ewros am y tro cyntaf.
Dyma'r tro cyntaf i dîm y merched gyrraedd cystadleuaeth o'r fath, ac mae nifer o gefnogwyr yn edrych ymlaen yn arw at eu cefnogi yno.
Bydd gêm agoriadol Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd yn Lucerne ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf.
Fe fydd y ddwy gêm arall yn y grŵp yn St Gallen, yn erbyn Ffrainc ar 9 Gorffennaf, ac yna Lloegr ar 13 Gorffennaf.
'Doedd pêl-droed ddim i ferched'
Mae Gwenllian Llwyd o Gwmann yn Sir Gâr yn dweud ei bod yn gwireddu breuddwyd cael mynd i weld tîm y merched yn chwarae yn un o'r pencampwriaethau mawr.
"Mae'n anhygoel. Pan o'n i'n dechrau chwarae pêl-droed, doedd pêl-droed ddim i ferched - ddim yn beth mor fawr," meddai.
"Ro'n i wedi dechrau chwarae gyda thîm bechgyn, felly ma' gweld lle mae e nawr a faint ma' hwnna wedi datblygu pêl-droed i ferched.
"Ni'n mynd am bythefnos, yn y camperfan fel teulu i watcho'r gemau. Ni'n mynd i'r tair gêm.
Ychwanegodd ei bod yn "gyffrous - gobeithio bydd llawer o gefnogwyr mas 'na".
"Fi'n siŵr bydd e'n un i'w gofio!"

Dywedodd Gwenllian Llwyd, sy'n chwarae pêl-droed i Aberystwyth, fod y bencampwriaeth yn "codi statws pêl-droed yng Nghymru"
Ychwanegodd Gwenllian: "Ni 'di gweld y dynion yn chwarae yng Nghwpan y Byd a nawr mae'r menywod yn cael yr Euros - ma' jyst yn codi statws pêl-droed yng Nghymru yn gyfan gwbl."
Dywedodd bod ei chwaer fach yn edrych ymlaen hefyd.
"Mae wedi tyfu lan gyda phêl-droed merched yn normal, ac yn rhywbeth sy'n cael ei weld yn fyd-eang."
Wrth sôn am obeithion y tîm, dywedodd eu bod "mewn grŵp heriol" ond "fi'n credu bod yr angerdd yn enfawr felly ma' hwnna'n mynd i roi'r hyn sy'n ychwanegol [iddyn nhw].
Aeth ymlaen i ddweud bod y timau eraill yng ngrŵp Cymru wedi cael y profiad o gystadlu yn yr Ewros yn y gorffennol.
"I Gymru mae e'n rhywbeth newydd ac yn rhywbeth cyffrous, gobeithio bydd yn hybu nhw ymlaen."

Mae Carwyn a'i gariad, sy'n Saesnes, yn mynd i'r Swistir i wylio gêm Cymru yn erbyn Lloegr
Un arall sy'n edrych 'mlaen at fynd i'r Swistir yw Carwyn Hughes o Lanfairpwll ar Ynys Môn.
Dywedodd Carwyn ei fod ef a'i gariad - sy'n Saesnes - yn mynd yno i wylio gêm Cymru yn erbyn Lloegr.
"Bydd bach o rivalry ond 'da ni'n eistedd ochr Cymru," meddai.
Mae Carwyn yn gweithio i Leeds United fel hyfforddwr gôl-geidwad, ac er bod ganddo brofiad gyda thîm y merched yno, dyma fydd y tro cyntaf iddo fynd i weld un o gemau merched Cymru.
Dywedodd fod "yr atmosffer yn fwy friendly" yn gyffredinol mewn gemau pêl-droed merched.
"Mae pobl yn licio cael sgwrs cyn y gêm ac mae'r cylch yn reit fach - lot o bobl yn 'nabod ei gilydd."
'Cefnogi nhw bob cam'
Ar ôl iddo weld cyhoeddiad carfan Cymru, dywedodd ei fod "bwysig" cael Sophie Ingle yn rhan o'r tîm "i helpu'r chwaraewyr ifanc".
O ran gobeithion Cymru, dywedodd: "Dwi'n meddwl fod yr underdog status yn siwtio Cymru - fel 'nôl yn Euro 2016 efo'r dynion, a gobeithio ma' beth wnaethon ni yn 2016 yn digwydd eto yn y Swistir.
"Tro cynta' i ferched i fod mewn major competition a bydd o'n uffar o step fyny iddyn nhw, ond fyddan ni yma i backio nhw bob cam i bob gêm, a gobeithio mwy na tair gêm!"

Dyma'r tro cyntaf i Alys (dde) a'i ffrindiau fynd dramor i wylio Cymru'n chwarae
Mae Alys Rees eisoes wedi cyrraedd y Swistir gyda chriw o ffrindiau.
Dywedodd eu bod yn "teithio o Genefa i Zurich ac yn lwcus iawn wedi cael ticedi munud olaf i wylio gêm Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd yn Lucerne".
Dywedodd mai dyma fydd y tro cyntaf iddi weld y tîm yn chwarae dramor.
"Dwi'n edrych 'mlaen at weld yr awyrgylch, cyfarfod ffans eraill ac ambell beint yn yr haul gobeithio!
"Mi fydd yn brofiad grêt a dwi'n edrych ymlaen at weld cynrychiolaeth o ferched Cymru yn yr Ewros!
"Mae cyrraedd y twrnament wedi bod yn gamp enfawr, ond pwy a ŵyr, efallai mai tro'r merched i gael haf bythgofiadwy yw hi, fel Ewros 2016 i dîm y dynion."

Dyma'r chwech o ferched sy'n rhan o griw #FelMerch yr Urdd
Ond nid mynd yno i wylio'r gemau yn unig fydd rhai o gefnogwyr Cymru.
Bydd chwe aelod o'r Urdd yn mynd yno i arddangos eu talent gyfoes gwerin cyn gêm gyntaf Cymru yn Lucerne.
Mae'r grŵp yn cynnwys Catrin, Lea, Nel, Cadi a'r ddwy chwaer Luned ac Esther.
Dywedodd Cadi: "Ma' tîm merched Cymru wedi ysbrydoli cymaint o ferched Cymru a 'da ni'n edrych ymlaen at roi Cymru ar y map.
"'Da ni'n perfformio cwpl o weithiau ar y stryd ac mewn derbyniadau, felly cadwch lygaid allan amdanom ni!"
Ychwanegodd Esther eu bod yn "perfformio traddodiadau Cymru a rhannu ein diwylliant i wledydd eraill.
"Mae'n gymaint o fraint bo' ni'n cael bod yna efo nhw [y tîm]."