Dechrau'r cam olaf o adfer pier Bangor ar ôl 'wyth mlynedd hir'

Cafodd Pier y Garth ym Mangor ei agor yn 1896
- Cyhoeddwyd
Mae cymal olaf y gwaith o adfer pier adnabyddus yn y gogledd wedi dechrau ddydd Llun, ar ôl i apêl lwyddo i godi £46,000 tuag at y gwaith.
Wedi'i agor yn 1896, mae Pier y Garth ym Mangor yn safle rhestredig Gradd II, a dyma'r ail bier hiraf yng Nghymru - 1,500 troedfedd o hyd.
O'r pier mae'n bosib gweld dros Afon Menai, Ynys Môn, Llandudno a mynyddoedd Eryri ac mae wedi ennill gwobrau fel Pier y Flwyddyn yn 2022.
Mae gwaith i ddiogelu'r pier am y degawdau nesaf wedi dechrau ers 2017, ond er mwyn ariannu cymal olaf y gwaith fe lansiwyd ymgyrch codi arian fis Awst.
Dywedodd Avril Wayte, cadeirydd Cyfeillion Pier Garth Bangor, fod y gefnogaeth i'r apêl wedi bod yn "hollol anhygoel", a'u bod wedi codi mwy o arian na'r targed o £40,000.

Mae'r gwaith ar y cymal olaf yn dechrau ddydd Llun, "wyth mlynedd hir yn ddiweddarach", medd Avril Wayte
Dywedodd Ms Wayte fod y Pier y Garth yn "brydferth ac yn wirioneddol anhygoel, beth bynnag fo'r tywydd".
Esboniodd fod y pier wedi cael ei ailagor yn yr 1980au, "ar ôl bod ar gau am flynyddoedd lawer".
"Ni chafodd gwaith ei wneud ar ôl hynny, tan 2017 – pan gychwynnodd gwaith trwsio mawr arno," meddai.
Yn siarad fore Llun, dywedodd mai "heddiw ydy dechrau cam olaf y gwaith a ddechreuodd yn 2017 – wyth mlynedd hir yn ddiweddarach".
Ni fydd y gwaith yn tarfu ar ymwelwyr, yn ôl Ms Wayte, gan fod y gwaith sydd i'w gwblhau o dan y pier - ar y gwaith metel.
- Cyhoeddwyd4 Awst
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2022
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2022
Wedi wynebu bygythiadau o gael ei ddymchwel dros y blynyddoedd, Cyngor Dinas Bangor sydd bellach yn berchen ar y pier ac yn ei gynnal, wedi iddyn nhw ei brynu am 1c yn 1975.
Mae cyngor y ddinas hefyd yn buddsoddi £40,000 i dalu am ran olaf y gwaith.
Cwblhawyd rhaglen adfer gwerth £1m ar rannau o'r strwythur yn 2022, gyda chefnogwyr y pier yn nodi y byddai'r gwaith diweddaraf yma yn ffurfio cam olaf y prosiect.
Mae'r Cynghorydd Medwyn Hughes wedi dweud yn y gorffennol fod y gwaith gyda'r pwrpas o wneud y pier "yn ddiogel ar gyfer y 25 mlynedd nesaf".
"Y pier ydi'r prif atyniad ym Mangor gyn belled a dwi'n y cwestiwn, fe gawsom ni dros 100,000 o ymwelwyr y llynedd sy'n nifer sylweddol," meddai Mr Hughes pan gafodd yr apêl ei lansio.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.