Taylor Swift yn cyfrannu at fanc bwyd Caerdydd

Taylor SwiftFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y rhodd yn "gwneud gwahaniaeth enfawr" yn ôl pennaeth y banc bwyd

  • Cyhoeddwyd

Mae'r seren bop fyd-enwog Taylor Swift wedi rhoi rhodd "hael" i fanc bwyd Caerdydd, wedi iddi berfformio yn y brif ddinas yr wythnos ddiwethaf.

Mae'r gantores wedi bod yn cyfrannu at fanciau bwyd lleol tra'n teithio'r byd gyda'i thaith 'Eras'.

Fe ddywedodd pennaeth elusen Banc Bwyd Caerdydd iddi gytuno â thîm Taylor Swift i beidio â datgelu maint y rhodd.

"Ond mi oedd e'n rhodd hael fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr," meddai.

'Tanlinellu'r angen am fanciau bwyd'

Ychwanegodd y prif weithredwr Rachel Biggs: "Ry'n ni wrth ein boddau fod Taylor Swift wedi penderfynu cefnogi Banc Bwyd Caerdydd, rhywbeth fydd yn cael effaith bositif a phellgyrhaeddol ar y ddinas."

Fe wnaeth yr elusen ddarparu dros 20,000 o becynnau argyfwng y llynedd.

"Mae rhodd a chefnogaeth Taylor wedi tanlinellu'r angen cynyddol am fanciau bwyd," medd Ms Biggs.

"Ble bynnag yr y'ch chi yng Nghymru, 'dw i'n eich hannog chi i gyfrannu at eich banc bwyd lleol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth dros 70,000 o bobl i Gaerdydd i wylio taith Eras Taylor Swift

Fe wnaeth sioe Taylor Swift yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf ddenu dros 70,000 o bobl i'r ddinas.

Fe wnaeth y gantores gyfarch y dorf yn Gymraeg, gan gychwyn ei chyngerdd yn Stadiwm Principality drwy ddweud: "Shwmae!"

Aeth ymlaen i estyn "croeso i daith Eras" cyn datgan mai dyma oedd ei sioe gyntaf erioed yng Nghymru.

Roedd yna ymadrodd Cymraeg arall nes ymlaen gan un o'i dawnswyr, sef "ych a fi" yn ystod y gân We Are Never Ever Getting Back Together.

Pynciau cysylltiedig