Rheilffordd y Canolbarth: Rhybudd i deithwyr yn sgil cau rhannau

Mae'r gwaith yn Nhalerddig yn parhau
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd i deithwyr i wirio cyn teithio ar reilffordd y Cambrian o ddydd Llun ymlaen.
O 17 Mawrth bydd rhannau o'r llinell trwy ganolbarth Cymru yn cau ar gyfer gwaith gan Network Rail.
Yn y cyfamser mae'r A470 gerllaw yn parhau i fod ar gau hefyd - ar gyfer gwaith atgyweirio i'r wal sydd wedi dymchwel yn Nhalerddig.
Bydd yn rhaid i blant ysgol o Garno a Thalerddig, oedd wedi bod yn dal trên i'r ysgol ers i'r ffordd gau, ddod o hyd i ffordd arall o deithio i Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth.
Ond bydd bysiau yn cymryd lle'r trenau mewn rhai ardaloedd, ac mae hynny'n "rhyddhad" meddai cynghorydd Talerddig, Ifan Edwards.

Y gwaith yn Nhalerddig
Bydd £15m yn cael ei fuddsoddi yn y rheilffordd ar gyfer gwaith sy'n cynnwys adnewyddu'r bont a chwynnu tyfiant.
Mae disgwyl i'r lein fod ar gau am 16 diwrnod, a bydd bysiau yn cymryd lle'r trenau yn yr ardaloedd yma:
Rhwng Y Drenewydd ac Aberystwyth o ddydd Llun 17 Mawrth tan 09:00 ddydd Gwener 21 Mawrth.
Rhwng Machynlleth a Phwllheli o ddydd Llun 17 Mawrth tan 09:00 ddydd Gwener 21 Mawrth.
Rhwng Amwythig a Machynlleth o 18:00 ddydd Gwener 21 Mawrth tan ddydd Mercher 2 Ebrill.
'Tro pedol'
Dywedodd Ifan Edwards, cynghorydd lleol Talerddig, mai "tro pedol" ydy'r cynlluniau yma mewn gwirionedd, a'i fod yn "be' oedden ni eisiau o'r dechrau - iddyn nhw roi bus pwrpasol i godi nhw fyny yn Carno, Talerddig ac wedyn mynd ar y ffordd gefn".
Ychwanegodd bod plant yr ardal weithiau'n cyrraedd yr ysgol yn hwyr ar ôl gorfod teithio ar y trên: "Felly mae'n rhyddhad bod gallu mynd ar y bws yn golygu eu bod nhw'n [plant] gallu cyrraedd yr ysgol yn gynt."
Dywedodd bod rhieni yn falch hefo'r penderfyniad hefyd: "Oedd twr o rieni hefo dipyn o ofn mewn gwirionedd o weld eu plant yn mynd ar y rheilffordd.
"Oedd y bus yn pigo nhw fyny am 08:20, ac wedyn oedden nhw'n aros yng Nghaersws am beth amser cyn dal y trên. Wrth gwrs plant ar ben eu hunain, oedd yn rhoi pryder i rieni."
Un effaith o'r problemau trafnidiaeth yn yr ardal, meddai Mr Edwards, ydy cael gweld safon dreifio pobl yn gyffredinol - oherwydd y defnydd uwch o ffyrdd cefn cul.
"Ma' rhywun wedi dod i ddeall pa mor sâl ydy safon gyrru gwahanol bobl.
"A faint o bobl sydd ddim yn medru backio nôl dyddie yma - ma'r safon dreifio wedi mynd yn ddrwg iawn ynde."
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd17 Ionawr
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
Dywedodd Network Rail y bydd y gwaith adnewyddu traciau yng ngorsaf Machynlleth yn agor y drws i drenau newydd.
Ychwanegodd llefarydd ar eu rhan, eu bod yn ddiolchgar i deithwyr: "Hoffem ddiolch i deithwyr am eu hamynedd – a'u hannog i wirio'u teithiau cyn teithio."