'Problemau mawr' i bentrefi bach o achos gwaith trwsio twll A470

Lori yn sownd ar ffordd gul a dyn mewn dillad llachar yn ceisio ei helpu.
Disgrifiad o’r llun,

Mae gyrwyr wedi bod yn anwybyddu arwyddion sydd wedi'u codi i geisio atal problemau

  • Cyhoeddwyd

Mae dargyfeiriad o 70 milltir ar yr A470 ym Mhowys yn achosi "problemau mawr" i bobl sy'n byw mewn pentrefi cyfagos.

Yn Ionawr, dechreuodd y gwaith ar atgyweirio twll yn Nhalerddig gyda disgwyl iddo gymryd hyd at 12 wythnos.

Roedd pryderon am y cynnydd posib mewn cerbydau ar ffordd gefn trwy bentrefi Talerddig a Phont Dolgadfan, wrth i bobl geisio osgoi dargyfeiriad swyddogol.

Cafodd ffordd yr B4518 ei rhwystro am gyfnod yr wythnos diwethaf ar ôl i lori fynd i drafferthion arni, gan anwybyddu arwyddion y cyngor cymuned.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r gwaith yn parhau yn unol â'r disgwyl, a bydd manylion gyrwyr sy'n troseddu yn cael eu rhoi i'r heddlu.

Twll mawr gyda tarmac wedi cwympo i afon islaw.
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd twll yn ffordd yr A470 ym mis Tachwedd 2023

Ers mis Ionawr, does dim gwasanaethau bws uniongyrchol rhwng Machynlleth a'r Drenewydd gyda phlant lleol yn defnyddio gwasanaethau trên i gyrraedd ysgolion cyfagos.

Ers hynny, mae Network Rail wedi cyhoeddi y bydd y rheilffordd rhwng Aberystwyth a'r Amwythig yn cau am 16 diwrnod, gan achosi rhagor o darfu.

Bu problemau hefyd gyda'r cynnydd mewn traffig ar ffordd gefn rhwng pentrefi Talerddig a Phont Dolgadfan, gyda'i ymylon tirglas meddal, ac mae cerbydau wedi bod yn mynd yn sownd.

Eifion Davies
Disgrifiad o’r llun,

Does dim digon o gyfathrebu wedi bod, meddai Eifion Davies

Fe ddywedodd Cadeirydd Cyngor Cymuned Llanbrynmair, Eifion Davies bod cau yr A470 "yn achosi problemau mawr".

"Dydy ddim yn hawdd i'r artics a'r loriau mawr yma i refersio yn ôl ac wedyn maen nhw'n gorfod cael help bobl leol," meddai.

"Roedd gyrrwr o ddwyrain Ewrop yn sownd yma wythnos diwethaf ac fe yrrodd y sat-nav hi ar hyd y ffordd gefn yma sydd ddim yn addas.

"Rydyn ni'n teimlo bod angen mwy o bresenoldeb bob pen i'r ffordd gefn er mwyn rhoi cyngor i yrwyr loriau mawr. Gallai Cyngor Powys a Llywodraeth Cymru fod wedi cyfathrebu hyn yn well, ac egluro beth sy'n mynd ymlaen.

"Pan mae 'na gerbydau mawr fel hyn yn teithio ar ffordd fach, mae angen gwneud yn siŵr nad oes difrod i gartrefi pobl ac hefyd mae'n bwysig sicrhau diogelwch i bawb sy'n teithio ar y ffordd."

Mae'r Aelod o'r Senedd (AS) dros Sir Drefaldwyn, Russell George yn dweud bod y "materion sylweddol" wedi gadael "teuluoedd mewn limbo".

"Mae'r trefniadau ynglŷn â chau'r ffordd hon wedi bod yn annerbyniol, heb fawr o gydgysylltu, os o gwbl, rhwng Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, a Network Rail.

"Mae trigolion, busnesau, cymudwyr a myfyrwyr bellach yn wynebu anawsterau teithio difrifol, heb unrhyw atebion clir yn eu lle.

"Rwy'n annog y Prif Weinidog i ymyrryd a sicrhau bod cynllun wrth gefn priodol yn cael ei roi ar waith fel mater o frys."

'Pasio manylion gyrwyr i'r heddlu'

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates bod y contractwr yn gweithio ar benwythnosau "i gyflymu cwblhau'r gwaith".

"Mae adnoddau ychwanegol i reoli'r mannau cau rhwng dydd Llun a dydd Gwener wedi'u cytuno a'u gweithredu.

"Yn ogystal, mae arwyddion ychwanegol ar hyd y ddynesiad at y mannau cau wedi'u gosod ac yn cael eu gwirio'n aml drwy gydol y dydd.

"Bydd manylion gyrwyr HGV sy'n ceisio trafod y rhwydwaith ffyrdd sirol, sy'n destun cyfyngiad pwysau o 7.5t, yn cael eu trosglwyddo i Heddlu Dyfed-Powys.

"Rydym yn diolch i drigolion a modurwyr am eu hamynedd tra bod y gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud."

Pynciau cysylltiedig