Teithwyr yn poeni am 'dri mis hir iawn' wrth i ran o'r A470 gau

A470
Disgrifiad o’r llun,

Fe gwympodd rhan o wal o dan yr A470 ger Talerddig i mewn i afon yn Nhachwedd 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae trigolion wedi mynegi pryder cyn i ran o'r A470 sy'n cysylltu gogledd a de Cymru gau am 12 wythnos, gan greu dargyfeiriad hir o 70 milltir.

Ym mis Tachwedd 2023 fe gwympodd rhan o wal o dan yr A470 ger Talerddig ym Mhowys i mewn i afon, gan adael twll ar ochr y ffordd.

Fe gafodd gwaith atgyweirio brys - oedd yn ddatrysiad dros dro - ei gynnal er mwyn ailagor y ffordd.

Ond bellach mae angen cynnal y gwaith o adeiladu sylfeini'r mur cynhaliol newydd, fydd yn golygu cau'r ffordd o ddydd Llun, 20 Ionawr.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn deall y bydd y gwaith yn achosi oedi ac maen nhw'n cynghori gyrwyr i gynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lisa Thomas yn arwain dau gylch meithrin, ar ddwy ochr yr ardal fydd ar gau

Un o'r rheiny fydd yn gweld effaith yw Lisa Thomas, sy'n arweinydd ar ddau gylch meithrin yng Ngharno a Llanbrynmair - sydd ar y naill ochr i'r ardal fydd yn cau.

"Mae'n mynd i gael effaith fawr. Ni'n gorfod newid oriau agor y cylch i rai byrrach," meddai.

Fel arfer, mae Ms Thomas yn treulio'r bore yng Nghylch Meithrin Carno, a'r prynhawn yn Llanbrynmair.

"Dwi ddim yn gallu cyrraedd erbyn yr amser mae'r cylch fel arfer yn agor. Bydd effaith ar y plant ac ar rieni," meddai.

"Mae'r oriau yma'n funded, a byddan nhw'n cael lot llai o oriau na'r hyn maen nhw fel arfer yn cael.

"Dwi'n rili poeni oherwydd dydy dwy awr ddim yn ddigon i ni 'neud unrhyw beth gyda'r plant.

"Does dim llawer o blant yn Cylch Meithrin Llanbrynmair beth bynnag, ac os ni dim ond yn gallu agor am ddwy awr, mae'n mynd i rili effeithio pwy sy'n mynd i ddod."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y dargyfeiriad swyddogol yn mynd â cherbydau ar lwybr hir ar hyd ffyrdd 'A' cyfatebol, drwy Gaersws, y Drenewydd a'r Trallwng

Mae arwyddion yn rhybuddio am gau'r ffordd mor bell i ffwrdd â'r Trallwng.

Y bwriad oedd cynnal y gwaith atgyweirio cyn y Nadolig, ond fe gafodd ei oedi yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên yn y canolbarth.

Bu farw Tudor Evans, 66 oed o Gapel Dewi ger Aberystwyth, wedi'r ddamwain ac fe gafodd 15 o bobl eraill eu hanafu.

Bydd y ffordd ar gau i gerbydau, gan gynnwys y gwasanaethau brys.

Mae mynediad drwy'r gwaith yn cael ei ganiatáu ar gyfer cerddwyr a beicwyr trwy gydol y cyfnod o gau'r ffordd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Heledd, yma gyda'i thad Ifan, yn wynebu taith o "tua dwy awr y dydd" yn ychwanegol i fynd i'r ysgol

I nifer o ddisgyblion a myfyrwyr yr ardal, mae'n oriau yn fwy o deithio bob dydd.

Un o'r rheiny yw Heledd, sy'n ddisgybl yn Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth.

"Mae'n adio tua dwy awr y dydd, ac mae'n ddiwrnod lot hirach, blinedig, yn enwedig os ydyn ni'n gwneud pethau allgyrsiol ar ôl ysgol," meddai.

"Mae'r tywydd hefyd yn ffactor. Byddwn ni'n gwlychu yn aros am ddau fws a thrên yng Nghaersws a dal annwyd.

"Dydi o ddim yn berffaith o bell ffordd."

'Tri mis hir iawn'

Dywedodd Gwenlli, sydd hefyd yn ddisgybl yn Ysgol Bro Hyddgen, bod y cynlluniau amgen yn "rhwystredig".

"Mae pawb yn teimlo'n rhwystredig am y peth achos [bod defnyddio trenau i gludo plant ysgol] yn gymaint o fethiant tro diwethaf.

"Roedd trenau yn rhedeg yn hwyr, yn cael eu canslo.

"Does neb yn meddwl bod o'n mynd i weithio eto ac mi fydd yn dri mis hir iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenlli yn poeni a fydd trenau'n ymarferol i fynd i'r ysgol, tra bod ei thad Pennant yn pryderu am y defnydd o'r ffordd gefn tra bo'r A470 ar gau

Mae ffordd arall o fynd trwy bentref Talerddig, ond fe achosodd y cynnydd mewn traffig ar y ffordd fach broblemau pan gafodd yr A470 ei chau o'r blaen.

Y tro hwn, bydd cyfyngiadau pwysau dros dro mewn grym er mwyn atal modurwyr rhag chwilio "am lwybrau gwyro amgen" nad ydynt yn "addas ar gyfer eu cerbydau".

Pryder am 'lanast' ar y ffordd gefn

Dywedodd Pennant Jones, tad Gwenlli ac aelod o Gyngor Bro Llanbrynmair: "Mae pobl yn anesmwyth am y defnydd o'r ffordd gefn.

"Does dim amheuaeth y bydd 'na lanast, a phobl yn mynd yn styc a bydd 'na broblemau.

"Rydyn ni fel cyngor bro yn trio paratoi trwy godi arwyddion i ddweud ble mae 'na lefydd pasio er mwyn bod y rheiny sydd yn ddiarth i'r ffordd yn deall i beidio mynd i'r gwair."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Elwyn Vaughan yn annog gyrwyr i osgoi defnyddio'r ffordd gefn

Mae Cyngor Powys wedi gosod cyfyngiad pwysau o 7.5 tunnell i gerbydau ar y ffordd gefn gul, ac mae'r cynghorydd sir Elwyn Vaughan yn dweud y dylai gyrwyr "osgoi defnyddio'r ffordd gefn" os yn bosib.

"Dwi'n gobeithio bydd y cyfyngiad yma yn lleddfu rhywfaint o'r pwysau," meddai.

"Mae'n mynd i gael effaith yn ddi-os, ond mae pobl yr ardal hefyd yn derbyn bod hi'n bwysig bod y gwaith yn cael ei wneud."

Bydd y ffordd ar gau i gerbydau am 24 awr y dydd rhwng 20 Ionawr a 11 Ebrill 2025.

Pynciau cysylltiedig