Rhan o'r A470 i gau am bron i dri mis ddiwedd Ionawr

cwymp wal
Disgrifiad o’r llun,

Fe gwympodd rhan o wal o dan yr A470 ger Talerddig ddiwedd 2023

  • Cyhoeddwyd

Bydd rhan o ffordd yr A470 ar gau ym Mhowys rhwng 20 Ionawr ac 11 Ebrill ar gyfer gwaith ffordd sylweddol.

Yn wreiddiol roedd y gwaith atgyweirio rhwng Talerddig a Dolfach fod i ddigwydd ym mis Hydref, ond cafodd ei ohirio wedi'r gwrthdrawiad rhwng dau drên yn y canolbarth.

Bu farw Tudor Evans, 66 oed o Gapel Dewi ger Aberystwyth, wedi'r ddamwain ac anafwyd 15 o bobl eraill.

Bydd y dargyfeiriad swyddogol yn mynd â cherbydau ar lwybr hir ar hyd ffyrdd 'A' cyfatebol, drwy Gaersws, y Drenewydd a'r Trallwng.

mapFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Traffig Cymru yn dargyfeirio teithwyr tua'r gorllewin drwy Gaersws, Y Drenewydd (A483), Y Trallwng a Mallwyd (A458)

Mae cyfnod y gwaith wedi'i estyn er mwyn galluogi gwyriad mawr o'r system ddŵr.

Ym mis Tachwedd 2023 fe gwympodd rhan o wal o dan yr A470 ger Talerddig i mewn i afon, gan adael twll ar ochr y ffordd.

Cafodd y ffordd ei chau am tua wythnos bryd hynny, wrth i fesurau dros dro gael eu rhoi mewn lle cyn caniatáu i un lôn agor gyda goleuadau traffig.

Gwyriad
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y gwaith yn hanfodol fel bod y ffordd yn aros ar agor yn y dyfodol

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd y gwaith yn gwneud yr A470 yn fwy cydnerth ac yn golygu na fydd y gofyn i gau'r ffordd mewn argyfwng, a'r tarfu yn sgil hynny, mor debygol o ddigwydd.

"Mae'r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall y ffordd aros ar agor yn y blynyddoedd i ddod.

"Rydym yn deall y bydd hyn yn achosi tarfu yn y tymor byr tra bo'r gwaith yn mynd rhagddo, ac rydym yn diolch i yrwyr am eu hamynedd."

Pynciau cysylltiedig