Murray the Hump: Oedd y gangster Cymreig yn rhan o lofruddiaeth JFK?
- Cyhoeddwyd
Mae Donald Trump wedi addo, ar ôl iddo ddod yn Arlywydd, y bydd yn rhyddhau ffeiliau sydd wedi bod dan glo ers degawdau, gan gynnwys dogfennau sy'n trafod llofruddiaeth yr Arlywydd John F Kennedy yn 1963.
Mae si wedi bod ar led ers blynyddoedd fod Mafia Chicago wedi bod â rhan yn y cynllwyn; criw a oedd yn cynnwys y gangster o dras Cymreig, Murray the Hump, perthynas o bell i'r Arglwydd Dafydd Wigley, drwy ei dad.
Ond tybed beth yw cysylltiad y byd troseddu tanddaearol â'r gŵr a oedd yn y Tŷ Gwyn? Mae Dafydd Wigley wedi bod yn ymchwilio:
Datgelu cyfrinachau
Dwi wedi’m dychryn gan etholiad Donald Trump. Ond gall un datblygiad pwysig darddu o’i fuddugoliaeth - un o ddiddordeb i Gymru.
Mae Trump yn gaddo 'carthu’r buarth' yn Washington: Drain the swamp! ydi’r slogan. Bydd y sefydliad lywodraethol yn crynu yn eu sgidiau, gan ddisgwyl corwynt Trump i sigo sefydliadau mwya' pwerus y wlad, megis y CIA a’r FBI. Ers yr Ail Ryfel Byd, bu ganddynt ddylanwad aruthrol, a hynny heb ateboldeb tryloyw.
Os ydi Trump o ddifri am agor y sefydliadau dirgel hyn i lygaid y cyhoedd, y man cychwyn amlwg fyddai datgelu gweddill y ffeiliau cudd sy’n ymwneud â llofruddiaeth yr Arlywydd Kennedy ym 1963.
Byddai hyn yn amserol, gan fod nai JFK, Robert Kennedy Jr, newydd ei benodi yn Weinidog Iechyd yn Llywodraeth Trump; mae yntau wedi galw’n gyson am agor y ffeiliau cudd.
Cadwyd elfennau sensitif o dystiolaeth Pwyllgor Ymchwiliol Senedd America i lofruddiaeth JFK o olwg y cyhoedd, hyd heddiw, i warchod 'diogelwch y wlad'.
Adeg arlywyddiaeth cyntaf Trump, rhyddhawyd 35,000 o ddogfennau am lofruddiaeth JFK; ond parhaodd 17,000 o ddogfennau eraill yn ddirgel. Disgwylir i Trump gwblhau’r gwaith nawr.
Llofruddio'r Arlywydd
Saethwyd Kennedy wrth deithio drwy Dallas, Texas yn Nhachwedd, 1963. Taniwyd bwledi o wahanol gyfeiriadau, felly rhaid bod cynllwyn. Honna Lywodraeth America, hyd heddiw, y lladdwyd Kennedy gan Lee Harvey Oswald, yn gweithredu ar ei liwt ei hun; gosodiad cwbl anghredadwy.
Cyhoeddwyd dwsinau o lyfrau gyda damcaniaethau ynglŷn â’r llofruddiaeth. Ceir awgrym y lladdwyd Kennedy ar gais Rwsia, wedi iddo rwystro taflegrau niwclear Rwsia rhag ddod i Ynys Ciwba; awgrym o gynllwyn arall gan Fidel Castro, i ddial am ymosodiad (aflwyddiannus) Kennedy ar Ciwba ym 1961; a chynllwyn gan y Dirprwy-Arlywydd, Lyndon Johnson, oherwydd bwriad JFK i ddod â Rhyfel Vietnam i derfyn.
Awgrymir mewn sawl cyfrol mai’r Mafia – gangsters Chicago yn benodol – a drefnodd y llofruddiaeth (ar eu liwt eu hunain, neu gan gydweithio â’r CIA).
Mae sôn fod y gangster Cymreig, Llywelyn Humphreys, wedi dweud wrth ei ail-wraig, Jeanne, fod Arweinydd y Mob yn Chicago, Sam Giancanno, “...is going to get even with Kennedy” - a hynny cryn amser cyn y saethu yn Dallas.
Ymddengys na soniodd Jeanne am hyn wrth neb, tan oedd ar ei gwely angau yn 2001. Ond – os cywir ei gosodiad – rhaid gofyn y cwestiwn allweddol: “A oedd Humphreys ei hun yn rhan o’r cynllwyn?”
Dylanwad y teulu Kennedy
Roedd yr Arlywydd John Kennedy yn eilun i’m cenhedlaeth i.
Pan gafodd ei ethol yn Arlywydd America yn Nhachwedd 1960 (a hynny o drwch blewyn dros Richard Nixon, y Gweriniaethwr), teimlai fel cyfnod newydd ym myd gwleidyddiaeth.
Yn ei seremoni sefydlu, dywedodd eiriau a gafodd groeso ledled y byd “The torch has been passed to a new generation”. Dyma droi tudalen, wedi cyfnod dieflig dau ryfel byd, ynghyd â “chysgod y cryman” oedd yn deillio o Undeb Sofietaidd Stalin.
Roedd fel pe bae Kennedy yn chwa o awel iach; neu o leiaf dyna oedd ein tybiaeth ni – y genhedlaeth ôl-ryfel, oedd yn awchu am dorri’n rhydd o gysgod trais a gorthrwm; o dlodi dirwasgiad a rheibiodd gymoedd Cymru, o hualau cymdeithas ble oedd cyfoeth a grym yn gosod y drefn, cysgod Hiroshima fel bygythiad parhaol, a grym ymerodrol yn dal i deyrnasu.
Wrth gwrs, roeddem yn naïf. Roedd y teulu Kennedy yn rhan o sefydliad yr Unol Daleithiau. Gwnaeth ei dad, Joe Kennedy ffortiwn ar y farchnad stoc, ond hefyd o fewnforio i’r Unol Daleithiau wisgi gwaharddedig adeg Y Gwaharddiad. Prynodd ei ffordd i mewn i’r sefydliad gwleidyddol.
Y Cymro a ddaeth yn gangster
Pam fyddai gan Llywelyn Humphreys (Murray the Hump) unrhyw ddiddordeb yn ffawd yr Arlywydd?
Ganwyd ef yn Chicago, ym 1899, i deulu o fewnfudwyr Cymraeg eu hiaith: Brian Humphreys o Garno ac Ann Wigley o Benfforddlas, Sir Drefaldwyn. Priodwyd hwy yng Nghapel Cymraeg China Street, Llanidloes ym 1888.
Erbyn diwedd y 20au, roedd Humphreys yn un o aelodau mwyaf dylanwadol o fewn Mob Al Capone, yn Chicago. Dywedir mai ef gynlluniodd y St Valentine Day’s Massacre yn 1929, pan laddwyd saith o’r North Side Gang, Gwyddelig eu cefndir, a phrif elynion Al Capone.
Ar ôl i Capone gael ei garcharu ym 1931, am beidio talu ei dreth incwm, Humphreys ddaeth yn arweinydd y Mob yn Chicago, ac yn 1933 gosodwyd label arno, gan heddlu Chicago, sef Public Enemy No. 1.
Bu gelyniaeth chwyrn rhwng Humphreys a’r teulu Kennedy am ddegawdau. Yn y 20au, gosodwyd 'contract' ar fywyd Joe Kennedy am geisio dwyn tiriogaeth gwerthu alcohol y Purple Gang yn Detroit.
Cafodd Kennedy ar ddeall mai Humphreys oedd yr aelod allweddol o’r Mob, a bu cyfarfod rhyngddynt. Bu i Humphreys a Kennedy ysgwyd llaw ar gytundeb oedd yn codi’r 'contract' ar fywyd Kennedy. Ond torrodd Kennedy ei air; ac, o hynny mlaen, aeth pethau’n ddrwg iawn rhwng Kennedy a Humphreys.
Erbyn y 50au, roedd Humphreys yn un o arweinyddion trosedd cyfundrefnol America. Roedd â rheolaeth dros 60 o brif undebau Llafur y wlad, a thrwy hynny yn sugno arian i bocedi yr Outfit (fel yr ail-fedyddiwyd y Mob yn Chicago). Yn anterth ei rym, roedd Humphreys yn cyfeirio dros $600m y flwyddyn o arian llygredig i Chicago.
Ym 1957 daeth Robert Kennedy (brawd bach John Kennedy) yn Brif Ymgynghorydd y Senate Rackets Committee. Rhestrodd chwe dyn - arweinyddion cenedlaethol trosedd cyfundrefnol – roedd eisiau eu gweld dan glo. Ar ben y rhestr oedd Llywelyn Humphreys.
Er fod casineb pur rhwng Robert Kennedy a Llywelyn Humphreys, eto, pan ddaeth etholiad 1960, penderfynodd Gangsters Chicago gefnogi Kennedy yn erbyn Nixon; a rhoddwyd y gwaith o drefnu fod Chicago yn pleidleisio dros Kennedy, i ddwylo Llywelyn Humphreys.
Ymddengys mai Humphreys drefnodd i stumio’r bleidlais yn y 27th Precinct; y blwch honno drodd bleidlais Chicago dros Kennedy; Chicago newidiodd ganlyniad Illinois; ac Illinois – swing-state bryd hynny, fel heddiw - sicrhaodd fod Kennedy yn curo Nixon o drwch blewyn, a dod yn Arlywydd.
Gangsters Chicago wrth galon y cynllwyn?
Ond er gwaethaf y cymorth a gawsant gan y Mob, aeth pethau’n waeth fyth rhwng y Gyfundrefn Droseddol a’r brodyr Kennedy.
Er i Humphreys osgoi cael ei garcharu ganddynt (yr unig dro iddo fod dan glo oedd ym 1934), trodd Robert Kennedy bob carreg i’w ddwyn gerbron y llysoedd ac i’r carchar.
Ond erbyn hynny, yng nghyfundrefn troseddol Chicago, roedd y genhedlaeth iau wedi cymryd drosodd oddi wrth Humphreys fel arweinyddion, ac roeddynt wedi cael hen lond bol ar gael eu herlyn gan y brodyr Kennedy.
Dyna pam mae’r gred ar gerdded fod a wnelo Gangsters Chicago rywbeth â llofruddiaeth Kennedy. Ac mae’n bosib fod Llywelyn Humphreys yn gwybod mwy am y cynllwyn nag oedd yn llesol iddo, pan soniodd am hyn wrth ei wraig Jeanne.
Bu i Humphreys farw 'o drawiad ar y galon' yn Nhachwedd 1965, union ddwy flynedd wedi saethu JFK. Mae llawer o dystiolaeth nad o achosion naturiol y bu farw; a threfnodd yr awdurdodau – yn groes i’w ddymuniad - i’w gorff gael ei losgi. Roedd Humphreys wedi datgan yn ei ewyllys ei fod eisiau gadael ei gorff ar gyfer ymchwil meddygol.
Felly, oedd gan Humphreys unrhyw beth i'w wneud â llofruddiaeth JFK? Pwy a ŵyr!
Os yw Trump yn ddigon dewr i agor y ffeiliau i’r byd, cawn wybod wedyn – efallai – a oedd gan yr arch-gangstar Cymreig, Llywelyn Humphreys, unrhywbeth o gwbl i'w wneud â’r llofruddiaeth.
Gallaf innau ond gobeithio nad oedd yn rhan o’r cynllwyn dieflig a newidiodd hanes America...
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd30 Awst 2024
- Cyhoeddwyd23 Awst 2024
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2023