Lena Mohammed: Islam, Cymru a Fi

lena tu allan i'r mosg
  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n fis Ramadan i Fwslemiaid ar draws y byd, sef cyfnod o ymprydio rhwng y wawr a'r machlud.

Ac mewn rhaglen arbennig i Radio Cymru, 'Islam, Cymru a Ni', mae Lena Mohammed o Wrecsam yn mynd ar daith i archwilio perthynas Mwslemiaid Cymraeg â'u hunaniaeth.

Yma, mae Lena yn rhannu rhai o'i phrofiadau ei hun a'i chanfyddiadau ar ôl holi Mwslemiaid eraill.

Tyfu i fyny'n Fwslim yn Wrecsam

Un o fy atgofion cyntaf oedd siarad â fy nhad am ffydd a gofyn, 'pwy wyt ti'n caru fwyaf - dy deulu neu Duw?'

A dyna pryd nes i ddysgu bod ei grefydd yn dod cyn unrhyw un neu unrhywbeth arall. Mae Dad yn credu mai Duw oedd wedi rhoi ei deulu iddo i'w garu yn y lle cyntaf.

Ar y pryd, doeddwn i ddim yn rili deall os oeddwn i'n gallu caru unrhywbeth mwy na brechdanau falafel, gwylio Tracy Beaker a mynd allan i chwarae gyda fy ffrindiau.

Ces i a fy chwiorydd ein magu yn Fwslemiaid yn Wrecsam gan Dad Fwslemaidd a Mam Gristnogol.

Disgrifiad,

Lena yn ein tywys o amgylch mosg yn Wrecsam

Mae tyfu fyny fel Mwslim wedi bod yn rhan fawr o fy hunaniaeth. Islam sydd wedi dysgu popeth dwi'n ei wybod am heddwch, cymuned a bod yn anhunanol.

Ond yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn cwestiynu fy mherthynas i â'r ysgrythur. Os ydw i'n dilyn rhannau o'r ysgrythur ond nid y cyfan - ydw i'n dal i fod yn Fwslim?

Roedd yn gwestiwn wnaeth godi wrth recordio fy rhaglen radio newydd 'Islam, Cymru a Ni'.

Drwy gyfarfod â Mwslemiaid Cymreig eraill cefais i fy atgoffa bod ffydd yn edrych yn wahanol i bawb. Does dim un ffordd yn unig o gyflwyno ac actio fel Mwslim.

Yn yr un modd mae llawer ohonom ni yn cwestiynu ein Cymreictod. Ydw i'n ddigon 'Cymraeg' os ydw i'n rhugl yn Wenglish ac heb acen fel cymeriad Gavin and Stacey neu Rownd a Rownd?

Er bod un yn grefydd ac un yn genedligrwydd - mae'r ddau wedi croesdorri'n aml i mi wrth dyfu i fyny.

'Da' chi wedi clywed am yr heddlu iaith mae'n siŵr. Gyda Mwslemiaid mae pobl debyg, sy'n cael eu galw yn 'haram police' - grŵp o bobl arlein, dynion fel arfer, sy'n ceisio pardduo eu 'chwiorydd' o fewn y ffydd.

Dydyn nhw ddim yn ffysi o ran pa ddynes i ymosod arni, gall hi wisgo gorchudd dros ei gwallt, dim gorchudd, gall hi fod yn briod, yn sengl, yn Arabaidd, yn fenyw Desi neu'n ddu.

A byddan nhw'n targedu eu sylwadau at unrhyw fenyw Fwslimaidd maen nhw'n meddwl sydd ddim yn glynu at eu dehongliad nhw o fenyw Islamaidd 'dda.'

Rwy'n cofio'r adeg yn fy arddegau pan faswn i'n osgoi trafodaethau am grefydd ac yn peidio â bod yn agored am fod yn Fwslim fy hun. Dwi'n meddwl 'mod i wedi gwyro oddi wrth y ffydd fel babi post-9/11. Ges i ddim profiad gwych yn tyfu i fyny mewn ardal heb unrhyw ffrindiau Mwslimaidd eraill.

Ar ffurflenni, basen i bob amser yn ticio "gwell gennyf beidio â dweud" pan oedd rhaid i fi 'ddewis crefydd'.

Mi ddes i deimlo, er bod gan lawer o'r prif grefyddau yr un themâu, gwerthoedd ac arferion cyffredin, mai Islam a Mwslemiaid sy'n cael eu beirniadu fwyaf.

Roeddwn i'n pryderu taswn i'n dweud wrth unrhywun fy mod i'n Fwslim, y basen i'n cael fy rhoi dan chwyddwydr, yn cael fy ngwawdio am wendid oedd ffrindiau eraill crefyddol o grefyddau eraill hefyd yn ei rannu.

Ond dwi'n gwybod nad ydw i ar fy mhen fy hun yn hyn.

Dysgu am brofiadau eraill

Wrth siarad â Mwslemiaid eraill ar draws Cymru ar gyfer y rhaglen, Islam Cymru a fi, mi wnes i glywed amrywiaeth mawr o safbwyntiau. Khadiza Mossabir o Aberteifi oedd y Gymraes gyntaf i fi siarad â hi yn Gymraeg oedd hefyd yn Fwslim. Wrth iddi godi pwysau yn y gym, bu'n dweud wrtha i nad ydi hi'n teimlo'r angen i orchuddio ei phen.

Mewn caffi yn Wrecsam, nath fy chwaer Layla ddweud pa mor bersonol yw crefydd iddi hi. Ac yng Nghaerdydd, nath disgyblion yn Ysgol Bro Edern ddisgrifio profiadau gwahanol iawn i'r hyn ges i fel yr unig Fwslim yn yr ysgol.

Mae'n amser arwyddocaol i gynhyrchu'r rhaglen, wrth i ffigyrau newydd ddangos bod Islamophobia wedi cynyddu yn sylweddol yn ddiweddar. Roedd terfysgoedd yr haf wedi'n atgoffa ni gyd o sut gall teimladau negyddol yn erbyn Mwslimiaid ffrwydro yn dreisgar ar draws Prydain.

Mi wnes i wynebu Islamoffobia hefyd wrth dyfu fyny a mynd i ysgol uwchradd Gatholig ac Anglicanaidd. Wrth guddio fy nghrefydd oddi wrth fy ffrindiau, mae'n hawdd gweld rŵan, sut nath hynny ddatblygu'n identity crisis go iawn i fi fel oedolyn.

Cefais fy atgoffa bod fy identity crisis yn gynnyrch bod mewn sefyllfa mor unigryw o dyfu i fyny yn Fwslim oedd hefyd wedi trochi yn y bywyd Cymraeg. Ond y gwir ydi, nad ydi bywyd Cymraeg yn cynnig llawer o gynrychiolaeth Fwslemaidd - yn ein cyfryngau, ein gwleidyddiaeth heb sôn am fy mywyd ysgol. Doedd gen i ddim unrhyw athro na chyd-ddisgybl oedd yn edrych yn debyg i fi mewn unrhyw ffordd.

Ond wedi dweud hynny, dwi mor ddiolchgar am fy mhrofiad unigryw. Mae'n caniatáu imi wylio hanes yn datblygu o flaen fy llygaid.

Mae'r Qu'ran ar hyn o bryd yn y broses o gael ei gyfieithu i'r Gymraeg gan Laura Jones.

Mae prosiect ar gyfer ysgol uwchradd holl-Fwslimaidd gyntaf Cymru, dolen allanol yn cael ei gynllunio wrth i mi ysgrifennu.

A rŵan dwi fy hun wedi cael y fraint o greu fy rhaglen radio Gymraeg gyntaf am Islam ar gyfer BBC Radio Cymru. Felly, dyma fy anrheg Ramadan i chi.

Pynciau cysylltiedig