Iddewiaeth, Cymreictod a fi
- Cyhoeddwyd
“Nes i chwarae’r shofar – offeryn o gorn maharen – sy’n gneud i mi chwerthin, achos yr unig reswm dwi’n gallu gneud ydi achos dwi’n Gymraes a ’nes i dyfu fyny yn chwarae cornet mewn band pres!”
Cafodd Rebecca Wilson ei magu fel Iddewes ym mhentref bach Dinorwig yng Ngwynedd, gan fam Iddewig a thad Cristnogol.
Mae’r diwylliannau Iddewig a Chymraeg wastad wedi byw law-yn-llaw i Rebecca, ond fel un o’r unig Iddewon yn yr ardal, roedd hi’n dyst i’r diffyg gwybodaeth yn ei chymuned am ei chrefydd.
Mae hi wedi ysgrifennu llyfr i blant sydd wedi ei ysbrydoli gan ddathliadau’r ŵyl Iddewig Hannukah a sut eu bod, yn eu hanfod, yn debyg i ddathliadau nifer o’r crefyddau eraill.
Cartref Iddewig-Gymreig
Roedd cartref Rebecca yn cyfuno diwylliannau Iddewig a Chymreig, ac mae dwy ochr ei hunaniaeth wedi cydfyw’n gytûn dros y blynyddoedd, meddai.
“’Nath Mam a Dad gyfarfod ym Mhrifysgol Bangor. Pan ’naethon nhw briodi, ’naethon nhw seremoni efo ficer a rabbi. O’dda ni’n lwcus iawn fod yna ddim problemau efo’u teuluoedd, er o’dd Mam wastad yn deud, os fyddai ei thaid hi dal yn fyw, byddai o byth wedi siarad efo hi eto.
“Dwi ddim yn Gristion o gwbl, ond roedden ni dal yn mynd i’r capel efo Nain – dwi ’mond yn gwybod Gweddi’r Arglwydd yn Gymraeg – er doedd Mam ddim am adael i mi wneud y cymun! Mae Dad wedyn wastad wedi ymuno mewn pan ’da ni’n gneud prydau bwyd Shabbat ar nos Wener.
“Nes i chwarae’r shofar – offeryn o gorn maharen – dros Rosh Hashanah (blwyddyn newydd Iddewig), sy’n gneud i mi chwerthin, achos yr unig reswm dwi’n gallu ei ’neud o ydi achos dwi’n Gymraes a nes i dyfu fyny yn chwarae cornet mewn band pres! A dwi’n gallu deud y sain ‘ch’ mewn Hebraeg, wrth gwrs.”
Fodd bynnag, doedd ei hochr Iddewig ddim o reidrwydd yn cael ei ddeall gan y gymuned Gymraeg o’i hamgylch, meddai, gyda’i chrefydd yn teimlo “bach mwy Saesnig” gan ei bod hi a’i theulu yn gorfod teithio i Lundain i addoli mewn synagog dros wyliau mawr fel Rosh Hashanah a Yom Kippur.
Anwybodaeth
Doedd plant eraill yr ysgol gynradd ddim yn deall pam fod Rebecca a’i chwaer ddim am fod yn yr ysgol, felly penderfynodd ei mam fynd i siarad â’r disgyblion am y peth:
“Dwi’n cofio bod braidd yn embarrassed,” cofiodd Rebecca. “Oedd pawb yn rili neis amdano fo ac isho gwybod mwy, ond ti dal yn teimlo bach yn wahanol. Pan o’n i ’di tyfu fyny o’n i ’di sylwi, yr unig reswm oedd Mam ’di teimlo ei bod hi’n gorfod mynd i fewn oedd achos doedd y wybodaeth ddim yna mewn ffordd hawdd i’r athrawon siarad amdano fo.”
Mae anwybodaeth yn gallu arwain at hiliaeth, meddai, ac mae hi wedi profi nifer o sylwadau hiliol yn ei herbyn dros y blynyddoedd.
“Dwi ddim yn meddwl fod pobl yn deall pa mor greiddiol ydi o – hyd yn oed pan o’n i’n tyfu i fyny yn y gogledd, o’dd pobl yn defnyddio ‘Jew’ fel insult.
“Dwi’n cofio rhywun yn deud fod gen i Jew curls... doedd o ddim wedi sylweddoli ei fod o'n offensive.
“Dwi wastad wedi gorfod esbonio amdana i a fy marn i, ac mae hynny wedi mynd yn waeth dros y flwyddyn ddiwetha. Dwi’n gwybod fod anti-semites yn y byd, ond oedd o’n teimlo fel ei fod o’n dechrau mynd yn well... a rŵan mae o’n teimlo fel mae o ’di mynd yn ôl."
Effaith rhyfel Israel-Palestina
Oherwydd yr ymladd parhaus rhwng pobl Israel a Phalestina, mae hi wedi bod yn “flwyddyn anodd” meddai Rebecca. A hithau â chysylltiad gref ag Israel, mae hi’n cael ei thynnu bob ffordd, ac yn teimlo pwysau gan eraill i gynrychioli barn Iddewon.
“Yn amlwg dwi’m yn cytuno efo beth mae Israel yn ei wneud, ac wrth gwrs does ’na ddim cwestiwn fod gormod o fywydau diniwed wedi'u colli ar y ddwy ochr. Ond mae o ’di bod yn rili cymhleth i balansio allan y ffaith fod gen i deulu yn Israel, ac Israel ydi’r unig le lle dwi wedi teimlo yn y mwyafrif.
“Mae hwnna’n rhywbeth dwi’n methu ei esbonio i bawb. Os ti’n tyfu fyny fel Cristion ym Mhrydain, does gen ti ddim syniad sut mae o’n teimlo i dyfu fyny’n Iddewig ym Mhrydain, heb sôn am yng Nghymru. Wedyn ti’n mynd i wlad lle mae pawb yn edrych fel ti, mae pawb yn gwybod sut ti’n meddwl a sut mae bywyd.
“Ond wrth gwrs, mae Israel wedi ymateb yn erchyll. Dwi ddim rili wedi teimlo fel mod i’n gallu cael barn. Pan ti yn y lleiafrif, mae’n teimlo fel bod ’na lot o bwysau i dy farn di fod yn farn Iddewon ym mhobman.
“Dydi beth mae Netanyahu yn ei deimlo ddim yn cynrychioli sut mae pob un Iddew yn ei deimlo. ’Di pobl ddim yn gweld bod rhan fwyaf o Israel yn protestio be’ mae o'n ’neud.
“Mae hwnna ’di bod yn rili anodd i gael drwodd ar y cyfryngau cymdeithasol pan ti’n gorfod deud neges byr. Dyna pam dwi’n hoffi gneud pethau creadigol, lle ti’n trio bod yn llais Iddewig mewn ffordd greadigol.”
Creadigrwydd
Mae Rebecca yn gweithio fel actores, awdur a choreograffydd ymladd, sydd yn gweithio’n gyson yn Gymraeg a Saesneg, ynghyd ag ar gynyrchiadau dwyieithog.
Dydi rhan helaeth o’i gwaith ddim i’w wneud â bod yn Iddewes, meddai, ond mae ei hunaniaeth Iddewig-Gymreig wrth galon popeth.
“Dwi’n trio dangos pwy ydi Iddewon a phwy ydi Cymry drwy fy ngwaith. ’Da ni yma, ’da ni’n bodoli.
“Dwi isho bod yn agored am pwy ydw i, achos dwi’n gobeithio fydd pobl lleiafrifol eraill yn teimlo bod nhw’n gallu bod yn greadigol hefyd. Dydyn nhw ddim wastad yn teimlo bod ’na le iddyn nhw yn y diwydiant.”
Un o’i phrosiectau diweddaraf ydi’r llyfr i blant, Gŵyl y Gaeaf, stori ffuglen i blant dan saith oed sydd yn cyflwyno’r syniad fod yr un egwyddorion wrth wraidd y rhan fwyaf o grefyddau.
“Dwi wastad wedi tyfu fyny yn gweld y tebygrwydd rhwng y crefyddau. I fi, oedd o’n teimlo rili du a gwyn.
“Mae’r crefyddau i gyd yn siarad am yr un pethau; bod yn ffeind a bod yn obeithiol ar adegau tywyll. Drwy’r nos, mae’n teimlo’n dywyll, ’da ni’n mynd drwy amseroedd anodd, ond mae dy deulu a ffrindiau yn dy helpu di drwy bethau. Dyna beth yw gwyliau’r gaeaf.
“Mae o’n teimlo lot mwy poignant na beth o’n i’n meddwl oedd o’n mynd i deimlo. O’n i’n meddwl bod ni gyd angen meddwl am sut mae crefyddau gwahanol yn gallu dod at ei gilydd, ond achos ei fod o’n dod allan eleni, mae o’n teimlo’n bwerus iawn.”
Cynrychiolaeth drwy'r Gymraeg
Ac wrth gwrs, roedd o’n gwneud perffaith synnwyr i Rebecca i gyhoeddi fersiwn Gymraeg a fersiwn Saesneg o’r llyfr, meddai, â’i neges mor bwysig a pherthnasol yn y ddwy iaith.
“O’dd o’n bwysig i’w ’neud o yn y Gymraeg i ’neud yn siŵr fod pobl leiafrifol yn gyfforddus i fod nhw eu hunain yn yr iaith Gymraeg.
“Dwi wedi teimlo lot mwy agored bod yn Iddewig yn yr iaith Gymraeg, achos bod yr iaith Gymraeg wedi cael ei gwasgu lawr. Os ti’n Iddew, ti hefyd wedi profi hynny, felly mae’r ddwy gymuned yn gallu deall pa mor bwysig ydi hi i gadw’r iaith Gymraeg a’r crefydd yn fyw, achos mae gymaint o bobl yn trio’i gymryd o i ffwrdd gen ti, hyd yn oed heddiw.”
I Rebecca mae cael cynrychiolaeth gadarnhaol o'r holl grefyddau yn y Gymraeg yn bwysig iawn, ac mae hi eisiau i blant weld eu hunain yn y llyfr.
Mae'n dweud am nad oes llawer o bobl Iddewig a Chymreig, “dim ond pocedi bach”, ac mae gan lawer o bobl gwestiynau am ei hunaniaeth.
“Mae o mor syml i mi, bod yn Gymraeg ac yn Iddewig. Ond ti'n gorfod esbonio dy hun lot... felly fy swydd i ydi rhannu.”
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd18 Medi 2018
- Cyhoeddwyd24 Medi 2023
- Cyhoeddwyd6 Awst