Cynnal angladd Geraint Jarman yng Nghaerdydd

Roedd lluniau o gloriau recordiau Geraint Jarman yn gorchuddio ei arch
- Cyhoeddwyd
Mae angladd un o ffigyrau mwyaf dylanwadol canu Cymraeg, Geraint Jarman, wedi cael ei gynnal yng Nghapel y Wenallt yng Nghaerdydd.
Bu farw yn sydyn ddechrau Mawrth yn 74 oed.
Yn dilyn ei farwolaeth, cafodd ei alw'n "gawr diwylliannol Cymru" ac "un o'r mwyaf dylanwadol erioed".
Wedi'r angladd mae digwyddiad cerddorol i ddathlu bywyd Geraint yn cael ei gynnal yn y Tramshed yn y brifddinas.
Mae'n gadael ei wraig, Nia a'i ferched Lisa, Hanna a Mared.

Cafodd ei albwm cyntaf, Gobaith Mawr y Ganrif, ei ryddhau yn 1976.
Cyhoeddodd sawl albwm arall fel artist unigol a gyda'i fand 'Geraint Jarman a'r Cynganeddwyr', gan gynnwys Tacsi i'r Tywyllwch, Hen Wlad Fy Nhadau a Diwrnod i'r Brenin.
Ymhlith ei ganeuon mwyaf adnabyddus mae Gobaith Mawr y Ganrif, Tacsi i'r Tywyllwch, Methu Dal y Pwysau a Gwesty Cymru.
Fe ddaeth tua 250 o bobl ynghyd i gofio am Geraint Jarman brynhawn Iau, yn eu plith enwogion o'r byd teledu, cerddoriaeth a barddol yng Nghymru.
Cafodd y gwasanaeth ei arwain gan Dafydd Rhys gynt o S4C ond sydd bellach yn Brif Weithredwr Cyngor y Celfyddydau.
Fe aeth yr arch i mewn i gyfeiliant 'Heart Like a Wheel' gan Kate & Anna McGarrigle ac ar y ffordd allan un o ganeuon Jarman ei hun 'Ethiopia Newydd' oedd y gerddoriaeth a gafodd ei chwarae.
Teyrnged Cleif Harpwood i'r diweddar Geraint Jarman
Wrth roi teyrnged i Mr Jarman, dywedodd y cerddor Cleif Harpwood y bydd yn cofio am ei gerddoriaeth a'i ymroddiad i'r byd roc Cymraeg a diolchodd iddo "am symud y byd roc ymlaen".
"Mi oedd themâu Geraint yn wahanol i ni, yn perthyn i'r gymuned ddinesig ac roedd hwnna'n rhywbeth ffres, newydd ar yr un pryd.
"Oedd Geraint yn ddyn ffein iawn, oedd e'n dawel iawn, yn weithgar iawn, yn ymroddgar i bob dim oedd e'n ei wneud.
"Beth sy'n wych yw'r gwaddol sydd ar ei ôl, y catalog eang iawn 'ma o ganeuon.
"Bydd pawb yn cofio am Geraint, bydd y caneuon yna yn byw am byth."
"Roedd e'n disgleirio" - Eurof Williams yn cofio Geraint Jarman
Un arall fu'n cofio amdano oedd ei gyfaill Eurof Williams.
Dywedodd y byddai'n "gweld eisiau trafod cerddoriaeth gydag e" a bod reggae mor bwysig iddo. Roedd yna deimlad bo' chi gyda rhywun arbennig pan yn ei gwmni, ychwanegodd.
"Mae'r golled i ni heddiw yn fwy na mae unrhyw un yn gallu ei ddychmygu."
Dywedodd iddo gwrdd â Geraint mewn angladd hanner can mlynedd yn ôl a bod y cyfeillgarwch wedi tyfu ers hynny.
"50 mlynedd o gerddoriaeth, o farddoniaeth, o gynhyrchu rhaglenni teledu... a'r miwsig, roedd e'n byw am ei gerddoriaeth."
Aeth ymlaen i ddweud: "Pan dwi'n meddwl am Geraint fi'n meddwl am y gwallt cyrliog, hyd yn oed yn fwy na'n un i, ei wên fawr a'r gobaith yn ei gariad ef."

Dywedodd Eddie Ladd fod gan Geraint Jarman "weledigaeth am y sîn roc Gymraeg"
Dywedodd Eddie Ladd mai Geraint Jarman a roddodd ei swydd gyntaf iddi ar y teledu.
"Beth dwi'n cofio yn fwy na dim yw bod e wedi cymryd sîn oedd wastad yn fywiog a'i gwneud hi'n berthnasol i'r cyfnod 'na yn yr wythdegau pan oedd fideo mor ganolog i'r ffordd roedd rhywun yn meddwl am gerddoriaeth bop."
Dywedodd ei fod wedi "rhoi cyfle i gymaint o gyfarwyddwyr ifanc" yn ystod ei yrfa.
"Fel cynhyrchydd teledu oeddwn i'n ei nabod e, ac roedd yn un oedd â gweledigaeth am y sîn roc Gymraeg.
"Roedd e'n feddylgar iawn, ac yn teimlo ei fod yn gofalu ar fy ôl i."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth
- Cyhoeddwyd13 Mawrth