Pentyrru gormodol: 'Fyddwn i ddim yn dymuno hyn ar fy ngelyn pennaf'

Jayne yn ei chartref gyda'i chi.
Disgrifiad o’r llun,

"Fi'n meddwl 'mod i wedi crio bob dydd am flynyddoedd," meddai Jayne

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Gallai rhai manylion yn y stori isod beri pryder.

Aeth celcio, neu bentyrru gormodol, i'r eithaf i fenyw o Gasnewydd ar ôl i'w gŵr farw, ac fe aeth pethau mor wael fel mai dim ond ar hanner ei gwely y gallai gysgu ynddo.

"Roedd rhwng tair a phedair troedfedd o uchder o focsys," meddai Jayne, mam i ddau a ddechreuodd gasglu i lenwi'r bwlch a gafodd ei adael ar ôl i'w gŵr ladd ei hun.

Mae 'na amcangyfrif fod Jayne ymhlith un ym mhob 20 o bobl yn y Deyrnas Unedig sydd ag anhwylder celcian, ac mae'n rhoi cynnig ar dechneg newydd i geisio delio â'r cyflwr.

Gyda chyfraddau celcian yn uchel iawn, mae Jayne yn cael cymorth i ail-ddefnyddio ei phethau, fel nad yw'n dechrau casglu mwy o eitemau.

Jayne a'i diweddar wr.Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw gŵr Jayne bron i 30 mlynedd yn ôl

Dywedodd y fenyw 75 oed fod celcian wedi dod yn ffordd fach o ddod o hyd i bleser mewn bywyd eto, ar ôl cael ei gadael yn fam sengl weddw gyda dau o blant yn eu harddegau.

Bron i 30 mlynedd ers marwolaeth ei gŵr, mae'r eitemau sydd gan Jayne - gan gynnwys ei chasgliad mawr o gathod addurniadol - yn rhoi mwynhad iddi hi.

Ond roedd yn cydnabod ei fod yn broblem.

"Rwy'n meddwl fy mod wedi crio bob dydd am flynyddoedd," meddai'r llyfrgellydd sydd wedi ymddeol.

"Fyddwn i ddim yn dymuno hyn ar fy ngelyn pennaf."

Staer Jayne.

Dywedodd Jayne fod mynd ar deithiau siopa a phrynu "pethau neis" wedi helpu ei galar.

"Roeddwn i'n edrych am bleser yn fy mywyd," meddai.

"Roedd gen i arian ac roedd yn rhaid i mi gadw fy hun yn brysur... byddwn i'n mynd i lefydd ac yn teimlo mor hapus wrth ddod adref gyda chymaint o bethau yn fy nghar fel na allwn i gael unrhyw beth arall ynddo.

"Rwy'n hoffi bargen felly mae'r rhan fwyaf o'r stwff wedi bod yn eithaf rhesymol.

"Roedd yn gwneud i mi deimlo'n dda ac yn rhoi rhyw fath o bleser i mi."

Cartref Jayne.
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Jayne gasgliad mawr o gathod addurniadol yn ei chartref

Ond pan ddechreuodd gysgu ar hanner ei gwely am fod yr hanner arall wedi ei bentyrru gyda bocsys oedd yn cyrraedd uchder o bedair troedfedd [1.2m], meddyliodd fod angen i bethau newid.

"Roedd y cyfan yn faich," meddai Jayne.

Mae hi bellach yn cael cymorth gan sefydliad sy'n dod o hyd i ddefnydd newydd ar gyfer eitemau, a'u hatal rhag mynd i safleoedd tirlenwi.

Mae ei chariad at anifeiliaid, ei chathod a'i chi wedi dechrau cymryd lle y nwyddau mae hi wedi eu casglu, ac mae hi wedi dechrau eu rhoi i bobl eraill neu i ysgol sy'n lleol iddi hi yn ne Cymru.

Dosbarth yn Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen yng Nghaerdydd.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen yng Nghaerdydd ymhlith y rhai sydd wedi derbyn eitemau gan Jayne

Mae Ysgol Gynradd y Ddraenen Wen yng Nghaerdydd yn un o'r rhai sydd wedi derbyn eitemau gan Jayne ac mae eu hathro Gareth Davies wedi dweud ei fod yn caniatáu i'r ysgol ddarparu "offer na fydden nhw byth yn gallu ei fforddio o fewn y gyllideb" i blant.

Heb ymyrraeth â chymorth, mae arbenigwyr yn amcangyfrif y bydd bron pob person sy'n tueddu i bentyrru'n ormodol yn cael eu gorfodi i glirio eu cartrefi, ond na fyddai hynny'n helpu yn y pendraw.

"Rydyn ni'n edrych ar gyfradd o 97% o eitemau'n cael eu clirio os oes ymyrraeth therapiwtig," meddai sylfaenydd Holistic Hoarding, Kayley Hyman.

Jayne yn ei chartref.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jayne bellach yn cael gwared ar eitemau yn wythnosol

Cafodd Jayne ei chyfeirio at Holistic Hoarding ddwy flynedd yn ôl i'w helpu, ac mae hi bellach yn cael gwared ar eitemau yn wythnosol - rhywbeth y mae'r elusen yn dweud fyddai wedi bod yn "amhosib" iddi flwyddyn yn ôl.

"Os ydych chi'n prisio pob eitem yn eich cartref a bod rhywun yn dod i mewn heb unrhyw ofal ac yn ei daflu i'r bin - sut fyddai hynny'n gwneud i chi deimlo?" meddai'r swyddog cynaliadwyedd, Celeste Lewis.

"Dydyn nhw ddim eisiau i bethau gael eu taflu i'r domen sbwriel.

"Os gallwn ni ddangos iddyn nhw y gall pobl eraill ddod o hyd i werth yn eu heitemau, mae ganddyn nhw falchder yn lle cywilydd."

Tîm Holistic Hoarding yn sortio eitemau i'w rhoi i ffwrdd.
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Jayne ei chyfeirio at dîm Holistic Hoarding ddwy flynedd yn ôl i'w helpu i gael gwared ag eitemau

Gall gweithwyr cymorth dreulio hyd at ddwy flynedd yn gweithio gyda rhywun, ac mae Holistic Hoarding - sy'n gweithio gyda phobl mewn rhannau o dde-ddwyrain Cymru - yn cael o leiaf ddau atgyfeiriad newydd am gymorth bob dydd.

"Mae hon yn boblogaeth anodd iawn ei chyrraedd," meddai'r Athro Mary O'Connel, darlithydd ym Mhrifysgol De Cymru sy'n ymchwilio i gelcio.

"Mae'n anhwylder ac yn ymddygiad preifat iawn.

"Rwy'n meddwl fod yna ddamcaniaeth, os na allwch chi ymdopi â thipyn o olchi llestri, daliwch ati i gadw'ch tŷ yn lân yna rhywsut, rydych chi'n methu."

Dywedodd Jayne fod cael help gyda'i chelcio yn achubiaeth a'i bod yn gobeithio y gall pobl ddeall mwy am bentyrru'n ormodol a pham fod pobl yn gwneud hynny.

"Rydych chi'n ceisio goroesi yn y ffordd orau y gallwch chi a chadw'ch hun mor hapus ag y gallwch chi dan yr amgylchiadau," meddai.

"Rwy'n teimlo'n fwy positif erbyn hyn."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Pynciau cysylltiedig