Cyn-hyfforddwr Cymru, Kevin Bowring, wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-hyfforddwr Cymru, Kevin Bowring, wedi marw yn 70 oed.
Bowring oedd hyfforddwr llawn amser cyntaf Cymru pan ddechreuodd y swydd yn 1995.
Bu'n arwain Cymru mewn 29 o gemau lle welodd y tîm yn ennill 15 gêm, cyn ymddeol yn 1998.
Ym mis Medi 2001, fe wnaeth corff rygbi Lloegr, Yr Undeb Rygbi Pêl-droed (RFU), benodi Bowring fel eu pennaeth datblygu hyfforddwyr elitaidd.
Fe arhosodd Bowring gyda'r RFU hyd nes iddo ymddeol yn 2016 ond bu'n mentora hyfforddwyr ifanc, gan gynnwys treulio cyfnodau gyda hyfforddwyr rhanbarthol Cymru.
Cafodd ei eni yng Nghastell-nedd gan dderbyn ei addysg yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd.
Fe chwaraeodd ambell gêm i dîm profiadol Castell-nedd yn y rheng ôl gyda'i arwr Dai Morris, cyn-flaenasgellwr Cymru.