Cau safle ailgylchu ym Môn ar ôl canfod bom mortar posib

PenhesgynFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Cafodd canolfan ailgylchu ar Ynys Môn ei chau i'r cyhoedd ddydd Llun wedi i fom mortar posib gael ei ganfod ar y safle.

Wedi cyngor gan yr heddlu fe wnaeth y cyngor sir gau Canolfan Ailgylchu Penhesgyn ger Porthaethwy er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd, medd llefarydd.

Fe gafodd y darganfyddiad ei symud i "fan diogel o fewn y safle", cyn i Uned Gwaredu Bomiau Heddlu Gogledd Cymru ffrwydro'r ddyfais yn ddiogel.

Dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn y bydd y ganolfan ailgylchu yn ailagor fore Mawrth.

Roedd y cyngor wedi pwysleisio nad oedd unrhyw fygythiad uniongyrchol i'r cyhoedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.