Hyfforddwr ceffylau llwyddiannus yn gwadu ymosod ar ddyn

Clywodd y llys fod y cyhuddiadau yn ymwneud ag ymosodiad honedig ar 4 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd
Mae hyfforddwr ceffylau sydd wedi cael llwyddiant yn y Grand National wedi gwadu ymosodiad difrifol ar ddyn.
Fe wnaeth Evan Williams, 54 o Fferm Fingerpost, Llancarfan ym Mro Morgannwg, ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd o dan ei enw llawn - Richard Evan Rhys Williams.
Roedd yn gwisgo siwt las tywyll a thei, ac fe siaradodd i gadarnhau ei enw a gwadu dau gyhuddiad o niwed corfforol difrifol.
Clywodd y llys fod y cyhuddiadau yn ymwneud ag ymosodiad honedig ar 4 Rhagfyr 2024 yn erbyn dyn o'r enw Martin Dandridge.
Cafodd Mr Williams ei ryddhau ar fechnïaeth amodol ac mae disgwyl i'r achos ddechrau ym mis Mawrth 2026.