Trydariad arweinydd y Torïaid am 20 mya wedi niweidio'r Senedd - dyfarniad
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd wedi cael ei gyhuddo o ddwyn anfri ar y sefydliad drwy alw'r terfyn cyflymder 20mya yn bolisi “blanced” ar gyfryngau cymdeithasol.
Roedd Andrew RT Davies wedi mynnu mai "mater o farn" oedd ei ddewis o eiriau ond fe fydd yn cael ei geryddu'n swyddogol yr wythnos nesaf ym Mae Caerdydd.
Dywedodd Comisiynydd safonau'r Senedd, Douglas Bain, ei bod hi'n ddyletswydd ar yr aelod fel "arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig a chyn aelod profiadol o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad i osod esiampl dda".
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn gyson fod y disgrifiad "blanced" - hynny yw, cyffredinol - yn anghywir oherwydd bod y terfyn rhagosodedig, oedd yn 30mya yn flaenorol, yn destun eithriadau.
Derbyniodd Mr Bain ddwy gŵyn wahanol mewn perthynas ag Andrew RT Davies yn defnyddio'r ymadrodd ar gyfryngau cymdeithasol.
Roedd y trydariad – a bostiwyd ar ôl i Bwyllgor Safonau Ymddygiad y Senedd ddod i’r casgliad bod y term “blanced” yn “anfanwl ac anghywir” – yn dweud: “Torrwyd llwybr bws arall diolch i derfynau cyflymder 20mya cyffredinol Llafur a Phlaid Cymru.”
Ystyriodd y Comisiynydd a oedd yr aelod wedi torri’r rheolau a ganlyn o’r cod ymddygiad:
Rheol 1 – Rhaid i aelodau gynnal yr egwyddorion cyffredinol.
Rheol 2 – Rhaid i aelodau weithredu'n onest.
Rheol 3 – Ni chaiff aelodau ymddwyn mewn modd sy'n dwyn anfri ar y Senedd neu ei haelodau yn gyffredinol.
Cytunodd y pwyllgor safonau trawsbleidiol â chanfyddiad y comisiynydd bod Mr Davies wedi torri rheolau 1 a 3, ond nad oedd yn torri rheol 2 oherwydd bod y comisiynydd wedi dod i'r casgliad "nad oedd unrhyw fwriad i dwyllo".
Dywedodd y pwyllgor bod "achos o dorri'r cod ymddygiad gan unrhyw Aelod o’r Senedd yn fater difrifol... Mae enw da Senedd Cymru, a ffydd a hyder y cyhoedd yn y sefydliad, yn dibynnu ar allu'r aelodau i ddangos uniondeb ac arweinyddiaeth drwy eu gweithredoedd."
Bydd Davies yn cael ei geryddu gan y Senedd brynhawn dydd Mercher.
Yr adroddiad yw'r cyntaf gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ers i Hannah Blythyn ddod yn gadeirydd.
Roedd hi’n weinidog Llafur cyn iddi gael ei diswyddo gan y prif weinidog ar y pryd, Vaughan Gething, a oedd wedi honni mai hi oedd ffynhonnell stori a ddatgelodd ei fod wedi dweud wrth weinidogion ei fod yn dileu negeseuon o sgwrs grŵp yng nghyfnod y pandemig.
Gwadodd Blythyn hynny.
Mae un o gydweithwyr Davies, Natasha Asghar hefyd wedi cael ei cheryddu’n swyddogol am alw’r terfyn cyflymder 20mya yn bolisi “blanced”.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Medi 2024
- Cyhoeddwyd14 Medi 2024
- Cyhoeddwyd6 Medi 2024