Lansio rhwydwaith 'cyffrous' i fagu hyder fferyllwyr Cymraeg

FferyllyddFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Bydd rhwydwaith newydd yn cael ei lansio nos Fercher, gyda'r nod o ddarparu fforwm i fferyllwyr sy'n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyma'r cyntaf o'i fath i fferyllwyr, ac mae wedi cael ei drefnu ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a phrifysgolion Abertawe, Bangor a Chaerdydd.

Bydd y Rhwydwaith Fferylliaeth yn cael ei lansio yng ngwesty Morgans yn Abertawe, ac fe fydd hi'n bosib dilyn y lansiad ar-lein hefyd.

Esboniodd Delyth James, Athro Fferylliaeth ym Mhrifysgol Abertawe, mai sbardun y syniad oedd "pan ddaeth grantiau bach cydweithredol y Coleg Cenedlaethol mas yn gynharach yn y flwyddyn, a meddwl be' allwn ni 'neud gyda bach o'r cyllid hwn?"

Delyth JamesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Delyth James ei bod hi'n bwysig bod cleifion yn gallu gweld fferyllydd yn eu hiaith gyntaf, gan fod "perthnasrwydd trwy'r famiaith yn creu ymddiriedaeth"

Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Delyth James fod gan grwpiau eraill o fewn y byd iechyd sefydliadau tebyg yn bodoli ers amser maith.

"Mae'r meddygon 'da cymdeithas sy'n mynd ers 50 mlynedd erbyn hyn, i gefnogi'r iaith Gymraeg," meddai.

"Felly o'n i'n meddwl - does dim rhwydwaith tebyg i fferyllwyr a phobl sy'n gweithio o fewn fferylliaeth a meddyginiaethau."

Eglurodd Ms James bod cyfle da felly "i ddechrau'r rhywbeth cyffrous a newydd hyn, gyda'r nod o ddod a phobl at ei gilydd ar draws Cymru".

Ychwanegodd bod cyfle hefyd "i fagu hyder wrth ddefnyddio'r iaith Gymraeg yn y gweithle gyda chleifion a falle i ddod yn fwy cyfarwydd â geirfa i wneud gyda meddyginiaethau a dod yn fwy hyderus yn ddwyieithog wrth weithio".

'Amseru perffaith'

Mae modd astudio pwnc fferylliaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, meddai Ms James, gan ychwanegu bod y ddarpariaeth Gymraeg wedi bod yn cynyddu ym Mhrifysgol Caerdydd a bod cwrs cymharol newydd yn Abertawe hefyd.

"Wrth gwrs ni moyn cynyddu'r ddarpariaeth 'na, a hefyd mae Prifysgol Bangor newydd ddechrau cwrs fferylliaeth blwyddyn yma, gyda 30 myfyriwr," meddai.

"Felly mae'r amseru yn berffaith i'r tair prifysgol weithio gyda'i gilydd."

Ychwanegodd Ms James ei bod hi'n bwysig bod cleifion yn gallu gweld fferyllydd yn eu hiaith gyntaf, gan fod "perthnasrwydd trwy'r famiaith yn creu ymddiriedaeth".

"Mae'n creu sefyllfa lle ble mae mwy o gred yn yr ymgynghorwr."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.