Fferyllfeydd cymunedol yn wynebu'r cyfnod 'anoddaf erioed'

Fferyllfa Rhosneigr
Disgrifiad o’r llun,

Mae fferyllwyr cymunedol yn prosesu presgripsiynau a gwerthu meddyginiaeth dros y cownter

  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd bod fferyllwyr cymunedol yn wynebu “mwy o bwysau nag unrhyw bryd arall yn y 40 mlynedd diwethaf”.

Ar gyfartaledd, caeodd 18 fferyllfa gymunedol bob wythnos yn y DU rhwng Ionawr a Mehefin 2024, yn ôl ymchwil gan gwmni cyfrifeg PwC.

Yn ôl Mark Griffiths, cadeirydd Fferylliaeth Gymunedol Cymru - corff sy'n cynrychioli 700 o fferyllfeydd annibynnol ar draws y wlad - mae dyfodol rhai o fferyllfeydd Cymru'n ansicr oherwydd costau uwch a phwysau cynyddol i ddarparu mwy o wasanaethau.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud bod gan fferyllwyr cymunedol rôl hanfodol i'w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol y Gwasanaeth Iechyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jenny White yn teimlo bod sefyllfa bresennol fferyllfeydd yn “dorcalonnus”

Mae fferyllwyr cymunedol - sy'n cael eu cyflogi gan GIG Cymru - yn prosesu presgripsiynau, gwerthu meddyginiaeth dros y cownter ac yn trin rhai cyflyrau.

Mae Jenny White wedi rhedeg ei fferyllfa yn Rhosneigr, Ynys Môn, gyda’i gŵr ers 2019.

Mae hi’n teimlo bod sefyllfa bresennol fferyllfeydd yn “dorcalonnus”.

“Fe ddes i’n fferyllydd oherwydd o’n i eisiau helpu pobl, ond mae’n teimlo fel ei bod yn mynd yn anoddach ac yn anoddach gwneud hynny," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jenny White a'i gŵr wedi bod yn rhedeg Fferyllfa Rhosneigr ers 2019

Mae'r gwasanaethau ychwanegol mae Jenny yn cynnig i gleifion, fel cynnal clinig, yn golygu bod ganddi lai o amser i brosesu presgripsiynau.

"Rwy'n hoffi bod Llywodraeth Cymru wedi gofyn i ni ddarparu gwasanaethau ychwanegol," meddai.

"Rwy'n hoffi gwneud y pethau dwi wedi hyfforddi i'w gwneud a darparu gofal i'r gymuned."

Yn ôl Jenny, byddai modd cynyddu a thyfu'r gwasanaethau yn ei fferyllfa hi, ond "dyw hynny ddim yn bosib gyda'r cyllid" sydd ar gael iddi ar hyn o bryd.

“Nid heb gael unrhyw arian ychwanegol eleni, ond mae ein costau ni wedi codi.

"Dwi a fy ngŵr yn aml yn gweithio dros ein horiau erbyn hyn er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau sylfaenol ni ar gael i bobl, ond tydi hynny ddim yn gynaliadwy."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Griffiths yn credu mai dyma’r cyfnod "anoddaf erioed i fferyllfeydd"

Mark Griffiths yw cadeirydd Fferylliaeth Gymunedol Cymru, ac mae wedi gweithio yn y diwydiant ers dros 40 mlynedd.

Mae’n credu mai dyma’r cyfnod "anoddaf erioed i fferyllfeydd".

“Ry’m ni wedi gweld cyflogau staff yn codi’n gyflym, costau cyffredinol fel biliau ynni yn codi a galw i ddarparu gwasanaethau ychwanegol, ond yn anffodus dydyn ni ddim wedi gweld y cyllid sydd ar gael yn cyfateb â hynny oll,” meddai.

Dywedodd bod llawer o fferyllfeydd wedi dweud eu bod wedi gorfod edrych ar lefelau staffio neu gwtogi ar eu horiau agor i arbed arian.

“Yn syml, mae hon yn sefyllfa anghynaladwy," meddai.

"Rydyn ni'n gwneud y gorau gallwn ni, ond dwi'n credu y gallen ni wneud yn well os ydyn ni'n cael ein hariannu i'r lefel cywir."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Arfon Bebb fod y sefyllfa bresennol "yn teimlo’n annheg iawn"

Ers bron i flwyddyn mae Arfon Bebb wedi bod yn fferyllydd yn Llanberis.

Mae'n dweud bod diffyg cyflenwad a phrisiau uchel meddyginiaethau'n "peri pryder".

"'Da ni am hanner cynta' pob mis gydag ansicrwydd mawr, o ran y meddyginiaethau 'da ni yn gallu cael gafael ynddyn nhw - bod y prisiau wedi codi ond 'da ni ddim yn cael ein had-dalu prisiau sy’n cyfro’r costau yna," meddai.

"Mae’r ansicrwydd yna - a ydyn ni’n gallu darparu meddyginiaethau heb wneud colled - yn teimlo’n annheg iawn."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gan fferyllwyr cymunedol rôl hanfodol i'w chwarae wrth ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol y Gwasanaeth Iechyd.

Yn ogystal, maen nhw’n dweud eu bod wedi cynyddu’r cyllid sydd ar gyfer y Fframwaith Cytundebol Fferylliaeth Gymunedol fwy na £25m ers i’r diwygiadau eang i drefniadau cytundebol fferylliaeth gymunedol ddechrau yn 2016/17.

Dywedodd y llefarydd fod hyn yn cefnogi fferyllfeydd cymunedol i ddarparu gwasanaethau clinigol, gan alluogi mwy o bobl yng Nghymru i gael mynediad at y gofal sydd ei angen arnyn nhw.