Ymgais cymuned i brynu capel 'Cwm Rhondda' wedi llwyddo

capel
Disgrifiad o’r llun,

Roedd trigolion Trehopcyn yn poeni y byddai rhan bwysig o hanes yr ardal yn mynd ar goll os na fydd modd cadw'r capel yn nwylo rhywun lleol

  • Cyhoeddwyd

Dywed Undeb Bedyddwyr Cymru eu bod yn falch o gadarnhau "eu bod yn derbyn cynnig y gymuned" i brynu Capel Rhondda yn Nhrehopcyn ger Pontypridd.

Mae gan Gapel Rhondda le pwysig yn hanes cerddorol Cymru oherwydd yno y cafodd yr emyn-dôn Cwm Rhondda ei pherfformio am y tro cyntaf yn 1907.

Wedi ei magu yn Nhrehopcyn roedd Rhian Hopkins yn poeni y byddai rhan bwysig o hanes yr ardal yn mynd ar goll.

Mewn neges ar wefan casglu arian yng Ngorffennaf fe ofynnodd am help i geisio sicrhau fod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gymunedol.

Doedd Rhian Hopkins ddim eisiau gweld y capel yn cael ei brynu gan rywun o'r tu allan i'r ardal
Disgrifiad o’r llun,

Doedd Rhian Hopkins ddim eisiau gweld y capel yn cael ei brynu gan rywun o'r tu allan i'r ardal

Nos Wener ar ei gwefan dywedodd Undeb Bedyddwyr Cymru: "Bydd y capel hanesyddol hwn, a restrwyd fel Gradd II, gyda'i gysylltiad arbennig fel man geni'r emyn-dôn annwyl "Cwm Rhondda" yn aros yn nwylo'r gymuned, sy'n gwbl briodol.

"Cawsom ein cyffwrdd yn ddwfn gan yr ymateb eithriadol i'r ymgyrch hon, a oedd yn fynegiant o'r cyswllt pwerus rhwng pobl Cymru ac yn fyd-eang â'r capel hwn.

"Mae'r apêl ariannu torfol, a ddechreuodd gyda chefnogaeth gan gymunedau lleol, wedi ennill calonnau.

"Mae'r ymateb cadarnhaol hwn yn adlewyrchu apêl eang yr emyn-dôn a ganwyd yn gyntaf o fewn muriau'r capel ym mis Tachwedd 1907.

"Rydym yn cydnabod ac yn cymeradwyo'r weledigaeth a fynegwyd gan Rhian Hopkins a'r gymuned leol i ddiogelu'r 'llinyn gwerthfawr hwn sy'n ein cysylltu ni â'n cyndeidiau'.

"Rydym hefyd yn cydnabod ac yn dathlu'r angen parhaus am ofod lle gall cymunedau ymgynnull, myfyrio, a dod o hyd i gyswllt ysbrydol."

"Mae'r ymgyrch hon yn enghraifft ragorol o ysbryd cymunedol ac o weithredu ar y cyd," medd llefarydd.

"O'r sylw cyntaf ar Facebook gan Rhian Hopkins i'r ymateb rhyngwladol yn dilyn ei osod ar lwyfan cyfryngau ehangach, rydym wedi bod yn dyst i'r hyn y gall ymrwymiad a rennir i ddiogelu ein treftadaeth Gristnogol uno pobl ar draws terfynau daearyddol a diwylliannol.

"Rydym yn cydnabod yn arbennig gyfraniad cefnogwyr lleol, cerddorion Cymreig a roddodd eu lleisiau i'r ymgyrch, a'r unigolion niferus a welodd y gwerth mewn diogelu Capel Rhondda.

"Fel Undeb Bedyddwyr Cymru, rydym yn ddiolchgar am flynyddoedd o wasanaeth ffyddlon y cynulleidfaoedd a addolai yng Nghapel Rhondda.

"Er i'r dirywiad yn y nifer o aelodau ffyddlon arwain at y penderfyniad anodd o gau'r capel ym mis Rhagfyr 2024, rydym yn falch bod ei ddyfodol bellach wedi'i ddiogelu trwy berchnogaeth gymunedol."

Yn y capel y cafodd yr emyn dôn Cwm Rhondda ei pherfformio am y tro cyntaf yn 1907
Disgrifiad o’r llun,

Yn y capel y cafodd yr emyn dôn Cwm Rhondda ei pherfformio am y tro cyntaf yn 1907

"Trwy'r fenter hon bydd Capel Rhondda yn parhau i wasanaethu fel goleudy gobaith ac yn dystiolaeth i rym parhaol ffydd, cerddoriaeth, yr iaith Gymraeg a'r ysbryd cymunedol.

"Bydd neges geiriau Williams Williams Pantycelyn yn parhau i atseinio," ychwanegodd Undeb Bedyddwyr Cymru.