'Methu credu' y gefnogaeth i'r ymgais i brynu capel Cwm Rhondda

Rhian Hopkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhian Hopkins yn dweud bod pobl o bedwar ban byd wedi cefnogi'r ymgyrch

  • Cyhoeddwyd

Mae grŵp sy'n ceisio codi digon o arian i brynu capel enwog ble ganwyd emyn 'Cwm Rhondda' am y tro cyntaf wedi pasio'r targed ariannol gwreiddiol.

Cafodd tôn John Hughes, Cwm Rhondda, ei chanu am y tro cyntaf yng Nghapel Rhondda yn Nhrehopcyn ger Pontypridd ym 1907.

Dros y bythefnos ddiwethaf mae 'na ymgyrch codi arian wedi bod i geisio prynu'r capel, er mwyn ei gadw at ddefnydd y gymuned leol.

Dywedodd Rhian Hopkins, sy'n arwain yr ymgyrch, fod y gefnogaeth wedi bod yn "anghredadwy".

Cefnogaeth byd-eang

Mae'r capel wedi bod ar werth ers i'r drysau gau yno am y tro olaf ym mis Rhagfyr, 2024 ac mae Undeb y Bedyddwyr yn gofyn am bris o £47,500 i'w brynu.

Cwta bythefnos yn ôl dechreuodd Rhian Hopkins gasglu arian gyda'r bwriad o gadw'r capel yn rhan o'r gymuned yn hytrach na'i weld yn cael ei brynu gan ddatblygwr tai.

"Ni methu credu faint o gefnogaeth ni wedi cael o Gymru, gan y gymuned leol ac ar draws y byd. Pobl o Norwy, Rwsia, Patagonia, Yr Unol Daleithiau, mae'n anghredadwy i fod yn onest," meddai wrth raglen Dros Frecwast.

Er i'r cyfanswm basio'r nod gwreiddiol o £47,500 mae Rhian wedi gosod targed newydd o £60,000.

"Ry'n ni'n agos iawn at £57,000 nawr, mi fase fo'n hyfryd cyrraedd y nod."

Capel Rhondda
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd emyn 'Cwm Rhondda' ei pherfformio yn gyntaf yn 1907

Roedd John Hughes wedi ysgrifennu'r dôn "Rhondda" ar gyfer digwyddiad i ddathlu fod yna organ newydd yn y capel.

Y cyfansoddwr ei hun oedd ar yr organ. Geiriau Saesneg "Guide me o thou great redeemer" gafodd eu canu ar yr achlysur hwnnw.

Fe gafodd enw'r emyn ei newid i "Gwm Rhondda" maes o law i osgoi dryswch gan fod yna alaw arall o'r enw Rhondda.

"Mae llawer o bobl wedi defnyddio'r emyn dôn yn angladd rhywun o'r teulu neu briodas, neu rywun falle oedd gyda Mam-gu neu Dad-cu oedd yn dod o'r Cymoedd neu o Gymru yn wreiddiol ac yn eu cofio nhw yn canu'r dôn," ychwanegodd Ms Hopkins.

"Ni'n obeithiol iawn, ni'n aros i gael cadarnhad ond ni wir yn gobeithio bydd Undeb y Bedyddwyr yn edrych yn ffafriol ar ein cynnig ni, achos dwi'n siŵr eu bod nhw eisiau i'r capel aros yn y gymuned ond dwi ddim yn siŵr pryd byddwn ni'n clywed os ydyn ni wedi bod yn llwyddiannus.

"Dwi'n credu fod ganddyn nhw gyfarfod dydd Gwener, dwi ddim yn siŵr os byddwn ni'n clywed cyn hynny."

Costau ychwanegol

Os bydd y cais yn llwyddiannus, mae Rhian yn credu bydd costau ychwanegol ac y bydd rhaid iddi wedyn wneud cais am grantiau i adnewyddu peth o'r adeilad.

"Mae llawr y festri wedi pydru, dwi wedi clywed fod hynny yn mynd i gostio lan at £50,000, felly bydd angen trio am grantiau ac ati," meddai.

"Dwi'n credu y byddai'n hyfryd i gadw'r capel fel y ma' hi.

"Falle bydd pensaer yn dod i mewn ac awgrymu cwpwl o bethau ond yn amlwg ni eisiau i bobl weld y capel fel oedd e yn ystod y perfformiad cyntaf yna o Gwm Rhondda nôl yn 1907."

Pynciau cysylltiedig