Torri record gneifio ym Machynlleth

MEIRION
  • Cyhoeddwyd

Ar ddydd Sadwrn, 13 Gorffennaf, cafodd record gneifio ei chwalu yn Llanwrin ar gyrion Machynlleth.

Mewn naw awr o gneifio fe gneifiodd Meirion Evans 791 o ddefaid, ac drwy wneud hynny fe dorodd record Ynysoedd Prydain.

Dechreuodd y gŵr 25 oed am bump y bore, gan gneifio tan bump yn y prynhawn, gyda chyfres o gyfnodau o seibiant.

'Dipyn bach o boen cefn'

Felly, sut mae Meirion yn teimlo cwpl o ddyddiau wedi'r her? “Dwi’n teimlo’n well na o’n i’n feddwl fyswn i i ddweud gwir – dipyn bach o boen cefn, ond dim rhy ddrwg."

Dywed Meirion mai gwaelod y cefn, y breichiau a'r garddynau sydd fwyaf poenus yn dilyn sesiynau hir yn cneifio.

Gan yr oedd yn dechrau'r her am bump y bore roedd rhaid i Meirion wneud yn siwr bod y corff yn cael digon o orffwys.

“Es i i’r gwely noson cynt tua 9.30pm a nes i gysgu’n well na beth o’n i’n ddisgwyl."

Disgrifiad,

Gwaith paratoi

Roedd yr her yn Llanwrin yn dilyn misoedd o waith paratoi i Meirion - yn gorfforol ac hefyd wrth reoli'r maeth roedd yn ei fwyta.

“O’n i’n trio gwneud 300-400 o ddefaid y sesiwn yn gynnar yn y tymor, ac oedd gen i personal trainer ers Hydref.

"Dwi’n mynd i’r gym tua pum gwaith yr wythnos, ac wedi newid tipyn ar y deiet ers dod nôl o Seland Newydd mis Chwefror – yn torri allan bara a pasta a petha fel ‘na, a chwrw hefyd.

“'Nes i stopio cneifio rhyw wythnos cyn mynd am y record, jest gwneud rhyw awr neu ddwy er mwyn cadw’r cyhyrau fynd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Meirion wedi bod allan yn Seland Newydd yn cneifio ar saith achlysur – yn mynd diwedd Tachwedd a dod nol ganol Chwefror neu dechrau Mawrth.

Cymro arall oedd gan y record flaenorol - fe gneifiodd Nicky Beynon 670 o ddefaid mewn naw awr yn 2003.

“Mae lot wedi newid ers hynny, fel y wool weight ac ati – lle mae rhaid pwyso’r gwlân cyn gwneud y record," esboniai Meirion.

"Doedd ‘na neb wedi trio’r record yn ddiweddar oherwydd y rheol ar bwysa’r gwlân, ond fe 'nathon nhw ostwng y pwysau rhyw ddwy flynedd yn ôl, felly wedi hynny mae’n bosib ffeindio’r defaid i fynd am y record.”

Disgrifiad o’r llun,

Rhywfaint o'r dorf oedd yno'n cefnogi Meirion

Cawodydd a massages

Gyda'r her yn ymestyn dros oriau roedd rhaid i Meirion ffeindio ffyrdd i gadw'r corff rhag gorboethi a'r cyhyrau rhag gorflino.

“Y pedwerydd run oedd yr anodda’," meddai Meirion.

"Es i fewn i’r cawod ac o’n i’n chwil braidd, ddim yn siŵr iawn ble o’n i. Ond ges i rhyw chwarter awr i ddod at fy hun ac o’n i'n iawn.”

“O’n i’n cael cawod ar ôl bob brêc a rhyw massages bach – 'nes i drio cael cawodydd oer i ddechrau ond cal rhai cynnes wedyn!"

Fe wnaeth Meirion y sialens ar fferm Hendreseifion yn Llanwrin, rhyw bedair milltir i'r gogledd o Fachynlleth.

“Nes i sôn iddyn nhw bo fi’n mynd am y record - mae hi’n fferm reit hwylus i gario defaid yna, ac mae ‘na ddigon o le i bobl barcio felly’n leoliad ideal ar gyfer hyn.”

Roedd y fferm yn un addas i ddal gymaint o dorf hefyd.

“O’n i byth yn disgwyl gymaint o bobl i fod yno. ‘Nes i’m edrych i fyny’n iawn tan tua’r diwedd ac o’n i wedi’n synnu gweld gymaint o bobl yno i ddweud gwir."

Sut 'nath Meirion ddathlu torri'r record? “Ges i beint o gwrw, odd yn bach yn sioc i'r system achos dwi ddim yn meddwl odd fy nghorff i 'di arfer efo fo, ond o’n i'n iawn wedi hynny.”

Mynd am record arall?

Ag yntau ond newydd dorri'r record mae Meirion yn edrych mlaen at y cyfle i geisio ei dorri unwaith eto.

“Gennai awydd rhoi ambell i go arall ar y record dwi newydd dorri.”

Ni fydd Meirion yn cystadlu yn Y Sioe Fawr y flwyddyn yma gan mai'r record oedd ei brif ffocws am eleni.

“Fydda i ddim yn y Sioe – mae’r haf ‘di bod mor brysur yn paratoi at y record, felly gai gyfle i gael ambell gwrw yn y Sioe.”

Beth sy’n gwneud cneifiwr da yn ôl Meirion?

“Rhaid ti fod yn mwynhau’r job, teimlo’n angerddol i'w wneud, gweithio’n galed a ffitrwydd.”

Mae'n siwr y cawn glywed eto am hanes Meirion yn rhoi'r agweddau yna ar waith i dorri record arall yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Meirion Evans

Pynciau Cysylltiedig