Gohirio adroddiad hirddisgwyliedig ar y pedoffeil Neil Foden

Neil Foden
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd Neil Foden yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin pedair merch yn rhywiol dros bedair blynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae Bwrdd Diogelu Plant Gogledd Cymru wedi gohirio cyhoeddi adolygiad o sut roedd prifathro yng Ngwynedd wedi gallu cam-drin plant yn rhywiol.

Roedd disgwyl i ganfyddiadau'r ymchwiliad i Neil Foden gael eu cyhoeddi ddydd Mercher, ond daeth cadarnhad brynhawn Mawrth na fyddai hyn yn digwydd tra bod y bwrdd yn "ystyried ei rwymedigaethau cyfreithiol a rhannu gwybodaeth ymhellach".

Cafodd Foden - a oedd yn bennaeth ar Ysgol Friars, Bangor ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - ei garcharu am 17 mlynedd ym mis Gorffennaf 2024.

Dywedodd cyfreithiwr sy'n cynrychioli dioddefwyr Foden ei bod yn "ddig" o glywed am ohirio cyhoeddi'r adolygiad.

Roedd Foden wedi ei ganfod yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin merched ifanc yn rhywiol dros gyfnod o bedair blynedd rhwng 2019 a 2023.

Fe wnaeth y dyfarniad sbarduno Adolygiad Ymarfer Plant, o dan reolaeth Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru ac wedi'i gadeirio gan Jan Pickles.

Bwriad yr adolygiad yw ystyried rôl yr asiantaethau a pha wersi sydd i'w dysgu.

Ond mewn e-bost brynhawn Mawrth daeth cadarnhad gan y bwrdd "na fydd cyhoeddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant yn mynd rhagddo", ond nad oedd modd darparu unrhyw wybodaeth bellach ar hyn o bryd.

'Canolbwyntio ar les dioddefwyr'

Mewn datganiad ddydd Mercher, ychwanegodd y bwrdd eu bod, gyda gofid, wedi "gwneud y penderfyniad anodd i ohirio cyhoeddi'r Adolygiad Ymarfer Plant 'Cyfiawnder trwy ein Dewrder' er mwyn ystyried ei rwymedigaethau cyfreithiol a rhannu gwybodaeth".

"Rydym yn sylweddoli bod hyn yn siom enfawr i bawb dan sylw, yn enwedig y merched a'r plant dewr hynny sydd wrth wraidd yr adolygiad hwn. Byddwn yn ymdrechu i ddarparu amserlen ddiwygiedig cyn gynted ag y bydd yn bosibl."

"Mae'r rhai sy'n arwain yr adolygiad yn parhau â'u cyfrifoldebau o ganolbwyntio ar les dioddefwyr yn ystod yr amser anodd hwn, fel sydd wedi bod yn digwydd drwy gydol cyfnod yr adolygiad."

Wrth ymateb i'r adroddiad yn cael ei ohirio, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Cawsom ein hysbysu am 16:30 heddiw gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru na fydd adroddiad yr Adolygiad Ymarfer Plant yn cael ei gyhoeddi fory (24 Medi), fel y cynlluniwyd.

"Ni chawsom unrhyw ragrybudd ac ni fu trafodaeth gyda Chyngor Gwynedd am hyn. Rydym ar hyn o bryd yn disgwyl am eglurhad pellach gan y Bwrdd Diogelu.

"Ar ôl disgwyl am yr adroddiad ers cymaint o amser a pharatoi ar gyfer gweithredu ar y casgliadau a'r argymhellion yn ddi-oed, rydym yn eithriadol o siomedig na fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi fory."

'Pobl angen atebion'

Dywedodd y cyfreithiwr Katherine Yates, sy'n cynrychioli dioddefwyr Foden, nad oedd "siom" yn cyfleu'r hyn roedd hi'n ei deimlo o glywed am ohirio cyhoeddi'r adolygiad.

"Rwy'n ddig. Mae pobl wedi bod yn aros am yr adroddiad yma, ac mae bron yn rhan o'r broses o 'wella' ar ôl yr hyn sydd wedi digwydd," meddai.

"Sut gall gael ei dynnu y diwrnod cyn ei gyhoeddi? Dydi o ddim yn deg. Mae'n ail-fyw'r loes i bobl."

Ychwanegodd fod llawer o bobl angen atebion: "Dydyn ni ddim eisiau i'r math yma o beth ddigwydd yn ein hysgolion.

"Os gall yr adroddiad yma daflu goleuni ar yr hyn ddigwyddodd, pam yr aeth pethau o'u lle, beth ellir ei wneud yn y dyfodol, yna rydyn ni angen ei weld o."

Pynciau cysylltiedig