Pwynt yr un i Abertawe a Chaerdydd yn y gêm ddarbi

Liam Cullen yn sgorioFfynhonnell y llun, David Davies/PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Liam Cullen i roi Abertawe ar y blaen wedi 10 munud o chwarae

  • Cyhoeddwyd

Cyfartal oedd gêm ddarbi fawr gyntaf y tymor newydd rhwng Abertawe a Chaerdydd yn Stadiwm Swansea.com brynhawn Sul.

Fe fethodd y tîm cartref ag adeiladu ar fantais gynnar, gan ildio'r posibilrwydd o sicrhau buddugoliaeth ddwbwl dros yr hen elynion yn y Bencampwriaeth y tymor hwn.

1-1 oedd y sgôr terfynol, gan olygu bod Caerdydd wedi ennill eu pwynt cyntaf o'r ymgyrch.

Ar ôl colli eu dwy gêm gyntaf yn y gynghrair fe gafodd yr Adar Gleision ddechrau addawol o flaen torf o 21,000.

Ond fe fethodd y golwr Ethan Horvath ag ymateb yn fwy cadarn i ymgais Ronald ar y gôl.

Mater hawdd oedd hi wedyn i Liam Cullen gyferio'r bêl i'r rhwyd i roi'r tîm cartref ar y blaen wedi 10 munud o chwarae.

A chynnal y pwysau weddill yr hanner cyntaf wnaeth yr Elyrch gan ddangos yn glir pam eu bod wedi ennill pump o'r chwe gêm ddiwethaf rhwng y ddau dîm.

Ffynhonnell y llun, David Davies/PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Caerdydd yn dathlu gôl Callum Robinson a ddaeth â nhw'n gyfartal yn yr ail hanner

Ond yn raddol fe ddaeth Caerdydd yn ôl i'r gêm yn yr ail hanner.

Fe gysylltodd Callum Robinson â chwip o groesiad gan Ollie Tanner a rhwydo i ddod â'r ymwelwyr yn gyfartal wedi 78 o funudau.

Fe drodd saith munud o amser ychwanegol yn 10 munud wrth i densiynau godi.

Cafodd rheolwr Caerdydd, Erol Bulut, gerdyn coch wedi ffrae gyda Kyle Naughton ar yr ystlys, ac fe welodd pedwar o chwaraewyr gerdyn melyn, gan gynnwys Joe Allen a Rubin Colwill.

Ond aros yn gyfartal wnaeth y sgôr sy'n golygu bod Abertawe'n dal yn ddiguro yn y Bencampwriaeth.

Mae Caerdydd yn dal ar waelod y tabl ond maen nhw o leiaf wedi bachu pwynt cyntaf y tymor.