'Ges i bresgripsiwn i syrffio er mwyn helpu fy iselder'
- Cyhoeddwyd
Yn ystod misoedd llwm y gaeaf mae'r rhan fwyaf ohonom eisiau swatio'n gynnes, ond nid felly Laura Truelove sy'n byw ym Menrhyn Gŵyr.
Fwy na thebyg, bydd Laura sy'n 30 ac o'r Rhondda'n wreiddiol yn rhoi ei siwt wlyb, ei menig a'i hesgidiau ymlaen ar y traeth, yn barod i fynd i syrffio - camp sy'n cael ei gysylltu gan amlaf â misoedd yr haf.
Yn ôl Laura, sy'n rhannu ei hangerdd am syrffio mewn cylchgrawn a phodlediad o'r enw Daughters of the Sea, mae syrffio wedi ei helpu "i olchi ei hiselder a'i gorbryder i ffwrdd."
Mae hi hefyd wedi gweld cynnydd yn y nifer o syrffwyr sy'n ferched dros y ddegawd ddiwethaf, diolch i glybiau syrffio i ferched.
- Cyhoeddwyd3 Ionawr
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2023
Syrffio trwy gydol y flwyddyn
"Dwi ddim yn credu bod pobl yn sylweddoli fod y tonnau'n well yn y gaeaf, dyna pam ry'n ni'n syrffio trwy gydol y flwyddyn," meddai Laura.
"Yn aml dros yr haf, bydda i'n mynd i'r traeth a bydd y dŵr yn fflat - dydyn ni ddim yn cael yr un systemau gwasgedd ac ymchwydd i greu tonnau da yn yr haf."
Ychwanegodd, oherwydd ei bod hi'n feichiog, ei bod wedi derbyn sylwadau na ddylai fynd i syrffio oherwydd ei bod hi'n aeaf.
"Ond i fi, 'dyma'r amser gorau o'r flwyddyn'."
Mae hi hefyd yn credu fod yr arfordir "ar ei mwyaf gwefreiddiol" yn y gaeaf, gyda "thonnau gwyllt a thywydd garw".
"Ry'n ni wrth ein boddau pan ry'n ni yn ein wetsuits a'n cit llawn, dyw e ddim yn teimlo'n oer i ni. Ry'n ni gyda'r dillad a'r cyfarfpar cywir ar gyfer yr amodau," meddai.
Camp i ferched
Pan ddechreuodd Laura syrffio ddegawd yn ôl teimlai "nad oedd llawer o ferched yn y dŵr".
"Gall y dŵr neu'r lineup (fel fydd syrffwyr yn ei ddweud) gynnwys llawer o egni gwrywaidd , mae'n gallu bod yn diriogaethol iawn ac yn anghyfeillgar - ond rwy'n credu bod hynny'n dibynnu ar le ry'ch chi'n mynd."
Ond mae hi wedi gweld "newid sylweddol" yn y ddegawd ddiwethaf gyda mwy o ferched yn dechrau syrffio. Yn ôl Laura mae'n bwysig bod gan ferched glybiau syrffio i deimlo'n saff ac er mwyn teimlo'n rhan o gymuned.
Dechreuodd Laura ei phodlediad Daughters of the Sea - enw sy'n tarddu o'r chwedl Gymraeg Merched y Môr am dair merch sy'n cael eu dwyn gan dduw y môr, ar ôl mynychu sgwrs gan gymdeithas i syrffwyr benywaidd sef Institute for Women Surfers.
Yma y sylweddolodd bod syrffwyr benywaidd eraill yn teimlo yr un fath â hi, yn rhwystredig bod cylchgronau syrffio i ferched "llawn lluniau o ferched mewn bikinis ac mewn llefydd cynnes o hyd".
"Ro'n i jest yn teimlo nad oedden nhw'n cynrychioli fi a fy ffrindiau sy'n syrffio trwy gydol y flwyddyn mewn dŵr oer a wetsuits."
Dal tonnau yn lle meddyginiaeth
Ar ôl cyfnodau o iselder a gorbryder tra'n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth Laura i weld y meddyg, gan ddweud ei bod "yn teimlo wedi torri".
Gofynnodd y meddyg iddi beth oedd hi'n fwynhau ei wneud, a dywedodd Laura ei bod wedi ymuno â chlwb syrffio yn ddiweddar a'i bod yn mwynhau bod o gwmpas dŵr.
"Wnaeth y doctor rhoi presgripsiwn o syrffio i fi," meddai, a'i hannog i syrffio bob dydd cyn ystyried ei rhoi ar feddyginiaeth.
"Fe wnaeth hynny helpu yn bendant, wnes i ddim gorfod mynd ar feddyginiaeth," meddai.
"Rwy'n gwybod erbyn hyn, os rwy'n dechrau teimlo gorbryder, fy mod i angen mynd i nofio neu fynd i syrffio a'i olchi i gyd i ffwrdd."
Ychwanegodd Laura: "Mae gan bawb ei stori i'w dweud pan mae hi'n dod i garu'r môr.
"Ar ôl dal ton, ry'ch chi eisiau ei wneud eto ac eto, ond mae hyd yn oed bod yn agos at ddŵr yn rhoi'r ysfa i chi fynd yn ôl."
Pynciau cysylltiedig
Gwrandewch ar Laura'n sgwrsio ar Dros Ginio:
- Adran y stori