Llyfr ryseitiau sy'n defnyddio sbarion yn ennill gwobrau

  • Cyhoeddwyd

Ydych chi’n ansicr am beth i wneud gyda’r bananas sy’n raddol troi’n ddu yn y bowlen neu'r hen dorth o fara sy' wedi caledu?

Os felly, dydych chi ddim ar eich pen eich hunain gyda theulu o bedwar ym Mhrydain yn gwastraffu £60 o fwyd ar gyfartaledd bob mis.

Fel ymateb i broblem sy’n effeithio’r amgylchedd a’r argyfwng costau byw mae grŵp o blant yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth, wedi penderfynu cyhoeddi llyfr ryseitiau arbennig sy’n mynd i’r afael â’r pwnc.

Mae’r llyfr, Sbarion, yn cynnig tua 40 o ryseitiau i ysbrydoli cogyddion i ddefnyddio beth sy’n weddill yn yr oergell yn lle taflu’r bwyd i’r bin sbwriel.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Penweddig
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion Ysgol Penweddig sy' wedi creu cwmni Llanw

Dechreuodd y syniad fel rhan o gystadleuaeth Menter yr Ifanc, fel mae Nela sy'n un o'r criw yn esbonio: “Mae un person ar gyfartaledd yn gwastraffu 100kg o fwyd mewn blwyddyn, gyda 75% o hwnna yn hollol fwytadwy.

“Mae lot o bobl yn gorwario ar fwyd ac yn taflu bwyd achos maen nhw’n meddwl sdim pwrpas i’r bwyd 'ma eto. Ond allwch chi roi lot o bethau at ei gilydd a chreu pryd neu ddau bryd ychwanegol allan o’r bwyd chi’n taflu.

“Felly ar ddiwedd y dydd chi’n gallu prynu llai o fwyd a gwario llai ar fwyd. Mae teulu o bedwar yn gwastraffu £60 o fwyd mewn mis – mae hwn yn ffordd o arbed ar brynu a thaflu hefyd.”

Ffynhonnell y llun, Ysgol Penweddig
Disgrifiad o’r llun,

Llyfr Sbarion

Llwyddiant

Mae Nela, ynghyd â grŵp o ddisgyblion o Flwyddyn 10 a 12, wedi datblygu’r syniad a sefydlu cwmni o'r enw Llanw ar gyfer cystadleuaeth Menter yr Ifanc.

Mae'r tîm wedi ennill dau wobr Menter yr Ifanc wythnos yma fel canlyniad i'w hymdrechion sef am yr effaith orau ar economi a chymdeithas Cymru a chwmni gorau Cymru. Maen nhw'n mynd ymlaen nesaf i rownd derfynol y Deyrnas Unedig ar y 6ed o Fehefin.

Y briff oedd datblygu busnes ac mi wnaeth y grŵp weld fod adnoddau am wastraff bwyd yn brin yn y Gymraeg, fel mae Nela’n esbonio: “Rhywbeth oedden ni wedi sylwi oedd fod cwpl o recipe books Saesneg ar gael oedd yn canolbwyntio ar wastraff bwyd ond oedd e’n rhywbeth eitha’ prin yn yr iaith Gymraeg.

"Felly dyna’r pwynt gwerthu unigryw, oedden ni’n teimlo fod ni’n gallu dod â’r iaith Gymraeg.”

Ffynhonnell y llun, Ysgol Penweddig

Mae’r grŵp wedi casglu noddwyr lleol ac wedi argraffu’r llyfr dwyieithog gan ei werthu yn siop llyfrau Inc yn Aberystwyth ac ar stondin ym marchnad ffermwyr Aberystwyth.

Meddai Nela: “Mae ganddo ni QR codes ar dudalen blaen y llyfr sy’n mynd â ti i flog gyda fideos ar y cyd 'da aelodau o’r grŵp – mae hwnna’n rhywbeth unigryw oedden ni’n gallu cynnig. Mae’r tudalen blog yn cael ei updateio bob hyn a hyn gyda fideo newydd le ti’n gallu cydgoginio gydag aelodau’r tim.

Ffynhonnell y llun, Ysgol Penweddig
Disgrifiad o’r llun,

Llun o rysáit o lyfr Sbarion

Gwastraff bwyd

“Mae bob rysáit yn template ac mae bob un yn rhywbeth gallech chi newid i gydfynd gyda pa wastraff sy’ gyda chi.

“Mae quiche gyda leftovers – mae cig ynddo fe ac allwch chi newid y cig am gig moch, sosej, cyw iâr a phethau fel 'na. Maen nhw gyd yn defnyddio gwastraff bwyd ond chi’n gallu newid nhw i beth sy’n siwtio chi.

“Fy hoff rysáit yw sut chi’n gallu troi croen tatws mewn i crisps. Mae un gyda hen fara’n troi mewn i gacennau bach.

“Mae cwpl o ryseitiau yn rhai personol teuluol hefyd.”

Felly beth mae Nela wedi ei ddysgu am gychwyn a rhedeg busnes?

Meddai: “Amser nes i rhoi’n enw i lawr i fod yn ran o’r tîm nes i ddim meddwl fydden i’n dysgu cymaint a bod e’n broses mor hir. Mae ‘di cymryd o Medi a buo ni yng Nghaerdydd yn gwerthu cynnyrch Nadoligaidd.

“Mae’r broses o gynllunio a dylunio yn broses dwi wir wedi mwynhau a wedi dysgu lot. Mae wedi agor llygaid fi i faint o waith sy’ wrth datblygu busnes newydd ac wrth ddatblygu cynnyrch.

“Mae wedi bod yn brofiad da a dyw e heb rhoi fi off dechrau busnes."

Mae'r grŵp yn gobeithio am lwyddiant yn y rownd nesaf ond hefyd yn benderfynol o fwrw ymlaen gyda'r busnes: "Os na ni’n cael unrhyw beth ni dal eisiau canolbwyntio ar y busnes a byddwn ni dal yn gwerthu cynnyrch – mae’n rhywbeth allwn ni gario 'mlaen i wneud.

"Beth bynnag ydy'r canlyniadau byddwn ni'n edrych at y dyfodol ac at y cam nesaf."

Ffynhonnell y llun, Ysgol Penweddig

Pynciau cysylltiedig