Lluniau: Gŵyl Fwyd Caernarfon
- Cyhoeddwyd
Roedd tre'r Cofi dan ei sang ar 11 Mai ar gyfer Gŵyl Fwyd Caernarfon.
Roedd yna rywbeth at ddant pawb; bwyd, diod, cerddoriaeth, anifeiliaid, adloniant, cynnyrch Cymreig, celf, cwmni da a thywydd braf.
Dyma flas o'r diwrnod gan y ffotograffydd Iolo Penri.

Y dyrfa ger Wal yr Anglesey

Digon o bysgod i borthi'r pum mil

Y gwirfoddolwyr wrth eu gwaith

Mmm... pizza!

Amer canu nid amser bwyd oedd hi i Gôr Dre

Gymerwch chi gacen?

Y ddau dal yn mwynhau crwydro o amgylch y Maes

Roedd Stryd y Plas yn llawn lliw a hwyl

Arogl selsig poeth yn tynnu dŵr o ddannedd

Tair bodlon ar Wal yr Anglesey

Roedd yna ddigwyddiadau o bob math dros Bont yr Aber hefyd

Dawnsio gwerin ar ôl llond bol

Danteithion di-ri ar stondin Mari

Ci bach hapus a'i berchennog

Fel mae Bwncath yn ei ganu, 'Fel hyn 'dan ni fod'
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mai 2023
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd16 Mai 2022