'Annheg' rhoi dirwyon parcio ysbyty pan nad oes llefydd ar gael

Ceir wedi parcio ar ymyl y ffordd yn yr ysbyty
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r bwrdd iechyd yn cydnabod bod y sefyllfa'n "rhwystredig"

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a gafodd ddirwy am barcio ger un o ysbytai mwyaf y gogledd wedi galw'r sefyllfa'n "annheg a llawn strach".

Yn ôl Griffith Jones o Walchmai, doedd dim opsiwn arall ond parcio tu hwnt i ardal benodedig yn Ysbyty Gwynedd wrth iddo nôl ei bartner a babi newydd-anedig, gan nad oedd unman arall ar gael.

Mae 'na alw am ddatrys y sefyllfa barcio yn yr ysbyty, gyda chwynion nad oes lle yno i'r holl gleifion, ymwelwyr a staff sydd yn gweithio ar y safle.

Mae'r bwrdd iechyd yn cydnabod bod y sefyllfa'n "rhwystredig" ac yn dweud eu bod yn gweithio gyda'r awdurdod lleol.

Griffith Jones a'i deuluFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Talodd Griffith Jones y ddirwy, ond mae'n dweud nad yw'r sefyllfa'n deg

Yn ôl Griffith Jones, 33, mi yrrodd am 20 munud o gwmpas safle Ysbyty Gwynedd ym mis Rhagfyr y llynedd gan chwilio am le parcio addas.

Ond ar ôl methu a dod o hyd i le ag yntau angen casglu ei deulu, mi barciodd ar ochr y pafin gan dderbyn dirwy maes o law.

"Mi oedd na gwpl o geir 'di parcio yn yr un lle ac mi oedd ceir yn gallu dod heibio heb broblem", meddai.

"Doeddwn i ddim yn rhwystro neb. Pan ddes i i nôl y sêt o'r car mi oedd 'na diced ar y sgrin.

"Mae'n strach 'da chi'm angen ac yn teimlo bod o'n annheg."

'Cyfyngiadau ariannol a diffyg tir'

Er i Mr Jones herio'r gosb o £50, sy'n cael ei haneru os yn talu'n brydlon, mi dalodd yn y pendraw, ond mae'n mynnu nad yw'r sefyllfa yn deg.

Mae'n achos y mae'r Aelod Ceidwadol o'r Senedd, Janet Finch-Saunders hefyd yn codi pryderon yn ei gylch.

"Ma'n rhaid bod modd iddyn nhw godi rhagor o lefydd parcio", meddai.

"Mae'n effeithio mwy na dim ond y cleifion ac ymwelwyr, mae 'na staff hefyd ac maen nhw'n diolch i mi am godi'r achos."

Mae'r aelod dros Aberconwy yn galw ar Gyngor Gwynedd i atal rhoi rhagor o ddirwyon nes y bydd ateb parhaol i'r trefniadau parcio.

Ceir wedi parcio yn yr ysbyty

Cyngor Gwynedd sydd yng ngofal trefniadau gorfodaeth parcio, ond mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - sydd berchen â'r safle - yn cydnabod bod parcio'n gallu "bod yn her ar safle Ysbyty Gwynedd", gan dderbyn pa mor "rwystredig" y gallai fod i gleifion, ymwelwyr a staff.

"Nid oes ffordd gyflym na hawdd o ychwanegu lleoedd parcio oherwydd cyfyngiadau ariannol a'r diffyg tir sydd ar gael gerllaw'r ysbyty lle gellid gosod lleoedd parcio ychwanegol", meddai llefarydd.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol i sicrhau bod gwaith gorfodaeth parcio yn canolbwyntio ar sicrhau bod y safle'n ddiogel i gerddwyr a cherbydau hanfodol neu frys."

Yn ôl Cyngor Gwynedd "y bwriad yw sicrhau bod eu meysydd parcio yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch i bob ymwelydd a modurwyr".

"Cydnabyddir y gallai'r galw am barcio ar adegau fod yn uwch na'r ddarpariaeth mewn nifer o leoliadau, ac am nifer o resymau.

"Gall unrhyw un sy'n credu eu bod wedi derbyn tocyn parcio yn annheg apelio drwy ddilyn y cyfarwyddiadau a roddir ar eu tocyn.

"Mae Ysbyty Gwynedd hefyd yn cael ei wasanaethu'n dda gan wasanaethau bws a all fod yn ffordd i ymweld â'r safle."