Newid costau parcio Caerdydd am 'chwalu busnesau lleol'

Mae Cyngor Caerdydd yn ceisio annog pobl i fod yn "llai dibynnol ar eu ceir"
- Cyhoeddwyd
Mae cynigion Cyngor Caerdydd i newid trefniadau parcio y tu allan i ganol y ddinas yn "annheg" ac am "chwalu busnesau", yn ôl pobl leol.
Mae Alwen Marshall, perchennog siop yn yr Eglwys Newydd, yn poeni y bydd pobl yn gyrru trwy'r Eglwys Newydd ac yn dewis siopa mewn archfarchnadoedd yn sgil y newidiadau.
Ar hyn o bryd, mae modd parcio am ddim am hyd at ddwy awr, ond fe allai hynny newid yn dilyn ymgynghoriad.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd eu bod nhw'n annog pobl i fod yn "llai dibynnol ar eu ceir" trwy "fuddsoddi'n sylweddol mewn llwybrau beicio a cherdded".

Mae'r cynigion yn cynnwys newid amseroedd gweithredu rhai meysydd parcio
Mae'r cynigion yn cynnwys:
newid amseroedd gweithredu rhai meysydd parcio;
diweddaru costau parcio a chael gwared ar y cyfnod parcio am ddim;
newid sut mae cynlluniau talu ac aros yn gweithio;
cyflwyno rheolau newydd ar gyfer trwyddedau busnes;
cynnig mwy o fathau o docynnau tymor.

"Yn amlwg mae'n mynd i effeithio ar ein busnesau ni," meddai Alwen Marshall
Yn berchennog ar siop Iechyd Da yn yr Eglwys Newydd yng ngogledd y ddinas, mae Alwen Marshall yn poeni y bydd llai o bobl yn ymweld â'r ardal petai newid yn y tâl parcio.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast dywedodd ei bod yn ofni fod busnesau lleol yn "mynd i gael eu chwalu".
"Yn amlwg mae'n mynd i effeithio ar ein busnesau ni," meddai.
"Ma' nhw mynd i gael eu chwalu a fydd pawb yn dreifo trwy'r pentre' ac yn mynd i'r archfarchnadoedd, felly 'da ni'n poeni'n arw.
"Y gwirionedd ydy, mae'n ganran uchel o gost pan 'da chi'n cymharu efo rhywun yn dod i'r pentre' ac yn prynu cerdyn pen-blwydd - chi'n prynu cerdyn pen-blwydd ac mae 50c ar ben hwnna yn swm sylweddol."

Mae Alwen Marshall yn rhedeg siop Iechyd Da yn yr Eglwys Newydd yng ngogledd Caerdydd
Yn ôl y cyngor, y bwriad yw helpu'r amgylchedd, ond mae Ms Marshall o'r farn bod "ffyrdd gwahanol i edrych ar ôl yr amgylchedd".
"Ma' pobl yn cael eu hannog ond dydi pawb ddim yn gallu [cerdded yma]," meddai.
"'Da ni jest yn teimlo fel does dim llais i ni fel busnesau."
'Byrdwn ychwanegol'
I Eurof James, cadeirydd Clwb Rygbi Cymry Caerdydd, mae'r cynigion yn "annheg" i aelodau a theuluoedd y clwb.
Dywedodd bod y clwb yn ddibynnol ar y cyngor, a bod perthynas agos gyda'r bobl sy'n paratoi caeau ym Mhontcanna.
Esboniodd bod y clwb eisoes yn talu i ddefnyddio'r caeau ac y byddai tâl i ddefnyddio'r maes parcio yn "newid enfawr".
"Ar hyn o bryd ar brynhawn Sadwrn ma' tîm y dynion yn chwarae ma'r tâl am ddim," meddai.
"Bydd rhaid i'r dynion yna dalu am bedair awr trwy gydol y gêm a chael cawod, ac i dalu £4.50 - sydd yn dipyn o naid.
"Ond yn fwy byth i'n teuluoedd ni gyd - ein holl blant ar fore dydd Sul."

Dywed Eurof James y gallai'r newidiadau greu "byrdwn ychwanegol" i'r clwb
Ychwanegodd: "'Da ni'n gwybod bod Cymru am fod ar y blaen o ran chwaraeon – ma' 'na fynediad i fod i gaeau gwyrdd a chyfleusterau hamddena.
"'Da ni'n gweld hwn fel treth ar chwaraeon - i dimau criced, pêl-droed Cymric.
"'Da ni isio plant yn rhan o chwaraeon ac i'r gêm ddatblygu yn ein prifddinas, ond ma' hyn yn rhwystr i chwaraeon Cymru."
Bydd yr ymgynghoriad ar y newidiadau yn dod i ben ddydd Sadwrn yma.

Dywedodd Eurof James y byddai gorfod talu i ddefnyddio maes parcio caeau Pontcanna yn "newid enfawr"
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r sefyllfa o ran cyllideb y cyngor dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn heriol.
"Mae penderfyniadau anodd wedi gorfod cael eu gwneud, gan gynnwys cael gwared ar y mannau parcio am ddim am awr neu ddwy mewn ardaloedd siopa preswyl.
"Bydd y newid hwn yn dod i rym yn ddiweddarach eleni yn dilyn y broses gyfreithiol a bydd unrhyw incwm dros ben yn cael ei ailfuddsoddi mewn cynlluniau priffyrdd a thrafnidiaeth."
Ychwanegodd bod y cyngor yn annog pobl i fod yn "llai dibynnol ar eu ceir" trwy "fuddsoddi'n sylweddol mewn llwybrau beicio a cherdded".
"Trwy fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, byddwn yn cynnig dewis arall realistig i deithio mewn car preifat, sydd yn ei dro'n cynnig manteision sylweddol, gan roi opsiynau gwell ac iachach i drigolion ac ymwelwyr deithio o amgylch y ddinas."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Chwefror
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2023