Sul y Mamau: 'Diwrnod anodd i ni eleni ond pwysig siarad'

Bu farw Liz Powell - yma gyda'i gŵr Huw a'r plant Caitlin, Jamie a Hannah - ym mis Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd
Bydd dydd Sul yma yn un gwahanol iawn i Hannah Evans eleni am mai hwn fydd y Sul y Mamau cyntaf iddi hi a'i brawd a'i chwaer heb eu mam.
Bu farw Liz Powell, 55 o'r Borth ger Aberystwyth, ym mis Mehefin y llynedd wedi iddi gael diagnosis o ganser y coluddyn yn 2022.
"Fe fydd e'n ddiwrnod anodd ac emosiynol ond fe fyddwn fel teulu yn dathlu bywyd Mam ac yn hel atgofion amdani," meddai Hannah wrth siarad â Cymru Fyw.
"Dwi'n meddwl bod hi mor bwysig siarad amdani - mae hynny yn fy helpu i lot i ddweud y gwir."
Bydd Hannah hefyd yn mynd i'r Amlosgfa yn Aberystwyth, sy'n gwahodd pobl i ymweld â nhw dros gyfnod Sul y Mamau er mwyn treulio amser yn cofio a myfyrio am y perthnasau annwyl y maen nhw wedi'u colli.

Mae'n bwysig hel atgofion, medd Hannah Evans, sydd yn y llun yma gyda'i brawd a'i chwaer a'r ddiweddar Liz Powell
Ers ddydd Iau a than nos Sul mae ymwelwyr yn gallu casglu rhosyn a'i osod ar gofeb yno neu fynd ag ef adref gyda nhw.
Dywedodd rheolwr Amlosga Aberystwyth, Rachel Harrison: "Rydym ni hefyd gyda blwch postio arbennig ar y safle, lle mae pobl yn gallu sgwennu ar gerdyn a phostio cerdyn i'w hanwyliaid yn y nefoedd.
"Mae 'di dod yn boblogaidd iawn ac mae'n outlet da i bobl, yn arbennig plant, sydd ddim cweit yn deall be sy'n digwydd ar y pryd, ond sydd efallai yn helpu gyda'u galar, drwy sgwennu llythyr at Nain neu Mamgu, a'i roi yn y blwch postio sbeshal."

Mae ymwelwyr i Amlosgfa Aberystwyth yn gallu casglu rhosyn a'i osod ar gofeb yno neu fynd ag ef adref gyda nhw
Mae'r Amlosgfa a'r gerddi yn agored i bawb eu mwynhau a rhosynnau ar gael ar Sul y Tadau ac adegau anodd eraill o'r flwyddyn hefyd.
"Mae colli rhiant yn anodd, rydym ni gyd yn gwybod y bydd yn digwydd rhyw ben," meddai Ms Harrison, "ond pan mae'n digwydd go iawn, mae'n anodd ofnadwy.
"Does neb byth yn barod at golli rhiant.
"Be dwi'n ei weld hyd yn oed yn fwy poenus ar Sul y Mamau, ydi pan fo gennoch chi famau sydd wedi colli plentyn, dylai'r un fam fod yn gorfod claddu neu amlosgi eu plentyn."
'Pobl ddim yn gwybod be i ddweud'
"Dwi'n meddwl bod y syniad hwn gan Amlosgfa Aberystwyth yn un gwych," ychwanegodd Hannah Evans.
"Yn aml dyw pobl ddim yn gwybod beth i'w ddweud ar ôl i rywun farw - ond mae rhywbeth fel hyn yn annog sgwrs gyda rhai eraill fydd yno hefyd yn cofio.
"Roedd Mam yn nyrs yn Ysbyty Bronglais a byddai hi'n awyddus iawn i ni gofio amdani mewn ffordd bositif.
"Dwi a fy mrawd Jamie yn mynd i redeg marathon Llundain eleni gan godi arian i elusennau canser a byddai Mam yn falch iawn ohonom dwi'n siŵr."

Liz gyda'i gŵr Huw: 'Mae'n bwysig cofio'r dyddiau da,' meddai eu merch, Hannah
Mae'r Parch Richard Lewis yn weinidog gyda'r Annibynwyr ac wedi bod yn cynnal gwasanaethau yn yr Amlosgfa ers blynyddoedd.
Mae'n teimlo bod yr awyrgylch gymdeithasol a chymunedol yno yn gwneud hi'n lle braf i bobl ymweld a chofio am eu hanwyliaid.
"Mae'n anhygoel y defnydd sy'n cael ei wneud o'r blwch gwyn yn yr Amlosgfa i anfon llythyron at anwyliaid," meddai.
"Ambell waith, mae'n haws rhoi geiriau ar bapur na'u d'eud nhw ar lafar."
'Colli mam fel colli to tŷ'
Mae Nicola Dunkley yn weinydd angladdau ac yn gwnselydd proffesiynol, sy'n aml yn cynnal gwasanaethau yn Amlosgfa Aberystwyth.
"Fe ddywedodd ffrind da wrtha i pan gollodd ei mam ei hun, ei bod hi fel colli to ei thŷ," meddai.
"Ar y pryd roedd fy ffrind yn ei 60au, ac roedd ei mam wedi cael dementia ers tro, felly hyd yn oed pan na fydd eich mam yn gallu eich cefnogi mewn unrhyw ffordd ymarferol mwyach, gall hi ddal i gael y rôl hynod bwysig hon yn eich bywyd.
"Mae pobl arwyddocaol yn rhan o strwythur ein bywydau, a phan fyddant yn marw, gall y strwythur hwnnw deimlo'n sigledig iawn am ychydig."

Mae Nicola Dunkley yn cynnig cyngor a chwnsela yn aml i rai sy'n profi colled a galar
Mae Sul y Mamau yn gallu bod yn her i'r rhai sydd wedi cael perthynas heriol gyda'u mam hefyd.
"I bobl sydd â pherthynas lawer llai sicr neu anhapus â'u mamau, efallai y bydd eu colled yr un mor fawr achos does dim gobaith bellach y bydd y berthynas honno byth yn gwella," meddai Ms Dunkley.
"I rai, mae marwolaeth rhiant yn dod â rhyddhad rhag dyletswyddau gofalu, rhyddhad rhag ceisio bod yn fab neu ferch dda mewn amgylchiadau anodd iawn."
Mae'n bwysig, meddai, nad ydy pobl yn bod yn hunan-feirniadol am y teimladau hyn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2022
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2023