Cydweithio rhwng y celfyddydau a gwyddoniaeth i hybu'r amgylchedd?

Manon AwstFfynhonnell y llun, Manon Awst/India Hobson
Disgrifiad o’r llun,

Manon Awst yng Nghors Crymlyn, Abertawe

  • Cyhoeddwyd

Mae artist o Gymru yn dweud bod yn rhaid i'r celfyddydau a'r byd ymchwil gwyddonol gydweithio mwy er mwyn helpu'r frwydr amgylcheddol.

Mae Manon Awst yn creu celf gyhoeddus ac mae ei gwaith, sy'n defnyddio deunyddiau cynaliadwy, yn ymwneud â byd natur a'r amgylchedd.

Roedd hi'n arfer byw a gweithio yn Berlin, lle mae un darn celf ganddi yng nghanol y ddinas yn cynnwys miloedd o gregyn gleision o'r Fenai.

Wal gyda miloedd o gregyn gleisionFfynhonnell y llun, Awst & Walther
Disgrifiad o’r llun,

Cregyn gleision Cymru yn Rosa-Luxemburg-Platz, yng nghanol Berlin

Fe wnaeth hi hefyd greu wal enfawr o rew yng nghanol Llundain er mwyn nodi 20 mlynedd ers dymchwel wal Berlin.

Bellach yn byw yng Nghaernarfon, mae hi'n cyfuno gwaith ymchwil a chelf er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r sefyllfa amgylcheddol.

Wal rewFfynhonnell y llun, Awst & Walther
Disgrifiad o’r llun,

Work in progress tu allan i lysgenhadaeth Yr Almaen yn Llundain yn 2009

"Mae'n rhaid i ni gydweithio a dwi'n meddwl i fi, mae pontio celfyddydau a meysydd ymchwil gwyddonol hefyd yn ffordd ymlaen," meddai ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.

"Fedrwn ni ddim jest byw yn ein fframweithiau bach sydd ar wahân ac ar wasgar.

"Mae'n rhaid i ni gydweithio a ffeindio ffyrdd newydd o neud petha'."

Yn ddiweddar mae'r artist wedi bod yn gwneud gwaith ar fawndiroedd, sy'n chwarae rôl bwysig er mwyn storio carbon yng Nghymru ac yn hybu bioamrywiaeth.

Manon AwstFfynhonnell y llun, Manon Awst/India Hobson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Manon Awst wedi bod yn gweithio yng Nghors Gyfelog, Eifionydd, a Chors Crymlyn, Abertawe

Er mwyn gwarchod corsydd mae gwair yn cael ei dorri'n flynyddol er mwyn gwneud yn siŵr nad ydy'r mawn a mwsog yn sychu.

Dywedodd Ms Awst: "Ro'n i'n gweld y pentyrra' o'r gwair gwastraff yma ar un ochr i'r gors a meddwl 'sgwn i ydy hwnna'n ddeunydd faswn i'n gallu defnyddio ar gyfer castio cerfluniau ar gyfer troi'n ddarnau celf?'

"Felly nes i gydweithio efo'r ganolfan biogyfansoddion ym Mhrifysgol Bangor - a dyna'n union ma' nhw'n gwneud.

"Maen nhw'n gweithio i gwmnïau a thrio dod i fyny efo deunyddiau ecogyfeillgar allan o bethau fel plastig gwastraff neu gregyn gleision, ac wedyn ro'n i - efo'u help nhw - yn trio troi'r gwair yma i ddeunydd call.

"'Naethon ni drio creu papur allan ohono fo drwy dorri fo'n fân ac wedyn ei gymysgu fo efo gwahanol bethau eraill fel bio-char ac alginate, sy'n dod allan o wymon."

Manon Awst ar y llwyfan yn trafod ei gwaith mewn cynhadleddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Manon Awst yn trafod ei gwaith mewn cynhadledd

Dywedodd Ms Awst mai rhan o'i gwaith ydy codi ymwybyddiaeth drwy ei chelf, gan gynnwys gwneud cyflwyniadau creadigol mewn cynadleddau, a rhan arall yw'r gwaith ymchwil i greu gwaith amgylcheddol.

Eglurodd: "Y nod i fi ydy, wrth greu cerfluniau, yn lle bod fi jest yn rhoi'r cerflun yn rhywle mewn safle penodol neu mewn man cyhoeddus a bod o jest yna i bobl edrych arno a gwerthfawrogi yn weledol, [ydy meddwl] 'sgwn i os fasa'r deunydd ei hun yn gallu cyfrannu at y broses o adfer neu hybu bywyd gwyllt?'

"Ella bod 'na anifeiliaid yn dod i nythu neu i fyw o fewn y cerfluniau neu rywbeth felly - mae 'na ddau ochr i'r gwaith a dyna lle mae'r ymchwil i ddeunyddiau yn dod yn bwysig."

Hold On - darn celfFfynhonnell y llun, Manon Awst
Disgrifiad o’r llun,

Ar gyfer Hold On (chwith) fe wnaeth Manon Awst greu rhan o'r gwaith gydag argraffydd 3D ac ailgylchu neilon mewn rhwydi pysgota

Mae'r artist bellach yn un o wyth sydd wedi derbyn grant Cymrodoriaeth Cymru'r Dyfodol er mwyn treulio 16 mis yn ymchwilio'n greadigol ar y thema "cysylltiad â byd natur".

Dywedodd bod rhaid cydweithio gan fod sefyllfa'r amgylchedd yn argyfyngus a bod gwarchod mawndiroedd yn hanfodol i'r dyfodol.

Meddai: "O ran cynllun y Senedd i fod yn sero net erbyn 2050, mae gennym ni lot o waith i'w wneud, ond mae adfer mawndiroedd yn un o'r pethau pwysig sydd yn cael effaith, achos dwi'n meddwl bod traean o holl garbon y pridd yng Nghymru yn y mawndiroedd.

"Felly'r mwya' o'r tiroedd yma fedrwn ni adfer a chadw nhw fel maen nhw yn lle gadael iddyn nhw sychu, mae hynny'n un ffordd ymlaen.

"Ond wrth gwrs mae 'na lot o bethau eraill allwn ni neud hefyd."

Gallwch wrando ar Beti a'i Phobol am 18:00 dydd Sul, 22 Mehefin neu ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.