Herio'r syniad bod 'dim celf Gymreig' mewn arddangosfa newydd

'Marquis of Anglesey'Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 'Marquis of Anglesey' gan John Roberts yn rhan o'r arddangosfa

  • Cyhoeddwyd

Mae hanesydd celf yn ceisio herio’r syniad bod "dim celf Gymreig" yn bodoli.

Ers y 1980au, mae Peter Lord wedi bod yn archwilio’r myth a wnaed 75 mlynedd yn ôl, gan ddarganfod a chofnodi hanes celf ac artistiaid Cymreig.

Ddydd Sadwrn, bydd arddangosfa newydd ganddo yn agor am y tro cyntaf yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, sy’n addo "datgelu stori’r genedl".

Yn 1950, dywedodd y nofelydd, bardd a chyfieithydd Dr Llewelyn Wyn Griffith: “So much for the past. No patron, no critic, therefore no painter, no sculptor, no Welsh Art. It is as simple as that.”

Cafodd y syniad nad oes celf Gymreig yn bodoli ei ailadrodd gan sawl un arall ers hynny hefyd.

Ond mae arddangosfa newydd, sydd wedi ei guradu gan yr hanesydd celf, Peter Lord, yn herio’r farn honno.

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r celf yn "dangos perthnasedd delweddau gweledol i lwybr hanesyddol y genedl Gymreig” medd Peter Lord

Wedi ei lleoli yn Oriel Gregynog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae’r arddangosfa yn cyfuno casgliad helaeth Peter Lord o ddarluniau ac arteffactau Cymreig ag eitemau o’r Casgliad Celf Genedlaethol yn y llyfrgell.

Mae dros 250 o weithiau celf o "arwyddocâd cenedlaethol" yn rhan o’r arddangosfa, gyda nifer o’r eitemau ar gael i’r cyhoedd weld am y tro cyntaf erioed.

‘Adnodd diwylliannol cyfoethog’

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith y Llyfrgell Genedlaethol yw rhannu rhywfaint o hanes cymdeithasol a gwleidyddol Cymru

Yn ôl Mr Lord, dylai lluniau gael eu gwerthfawrogi nid yn unig yn weledol ond am yr hyn maen nhw’n ei ddweud am stori’r genedl.

“Yn hytrach na dilyn confensiynau estheteg hanes celf y traddodiad Seisnig, mae’r arddangosfa newydd yn ystyried fel man cychwyn perthnasedd delweddau gweledol i lwybr hanesyddol y genedl Gymreig,” meddai.

“Wrth ddilyn y methodoleg radical hwn, mae’n datgelu adnodd diwylliannol cyfoethog nad yw wedi cael ei werthfawrogi’n llawn o’r blaen.

"Ond mae’r arddangosfa’n dangos nid yn unig anwiredd datganiad Dr Llewelyn Wyn Griffith, a wnaed 75 o flynyddoedd yn ôl, ond mae’n arwain i ni ystyried oblygiadau’r meddylfryd a orweddai y tu ôl iddo i’r genedl heddiw.”

Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae llun 'Elizabeth Gwynne Taliaris' ymhlith y rhai yn yr arddangosfa

Gyda naratif canolog yn rhedeg drwyddi, mae’r arddangosfa yn dechrau gyda byd gweledol y bonedd, y dosbarth canol a phobl gyffredin Cymru, a symud ymlaen wedyn at bortreadau gwahanol o hunaniaethau Cymreig.

‘Addo gwledd i ymwelwyr’

Yn ôl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae’r arddangosfa newydd yn datgelu stori am gyfoeth diwylliant gweledol Cymru yn ogystal â hanes cymdeithasol a gwleidyddol y wlad.

Dywedodd y prif weithredwr, Rhodri Llwyd Morgan, bod yr arddangosfa'n "cynnig profiad cyfoethog tu hwnt sy’n llawn straeon difyr a themâu amserol am ein perthynas gyda chelf weledol".

"Mae gwybodaeth ddofn ac arbenigedd Peter a’r paru effeithiol rhwng ei gasgliad hynod a chasgliadau’r llyfrgell yn addo gwledd i ymwelwyr.”

Mae rhai o eitemau’r arddangosfa yn cynnwys hunan-bortread o Edward Owen, Penrhos; llun Elizabeth Gwynne, Taliaris gan John Lewis; Hen Walia, Marquis of Anglesey gan John Roberts; Tŷ Haf gan Beca (Peter Davies); Conway Castle from the Shore gan Clara Knight a Vase of Flowers gan Gwen John.

Bydd yr arddangosfa yn agor Ddydd Sadwrn 16 Tachwedd 2024.

Pynciau cysylltiedig