'Celf ar bresgripsiwn': Prosiect newydd am wella lles meddyliol pobl ifanc

Disgrifiad,

Doedd Ryan Scott Welham ddim yn ystyried ei hun yn berson creadigol cyn mynychu'r cynllun peilot

  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun newydd yng Ngwynedd yn cynnig sesiynau celfyddydol i geisio cefnogi iechyd meddwl oedolion ifanc.

Y Stiwdio Lles ydy enw'r prosiect peilot sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc fynd i'r afael â gorbryder a diffyg hyder mewn modd mwy creadigol.

Mae'r sesiynau yn bartneriaeth rhwng sawl sefydliad, ac yn cael eu cynnal yn Nyth, Bangor - cartref cwmni theatr Frân Wen.

Yn ôl Elgan Rhys, Pennaeth Ymgysylltu Frân Wen, mae'r cynllun yn "cynnig cymuned ddiogel i bobl ifanc i fynegi eu hunain yn greadigol".

'Dwi'n caru'r lle'

Un sydd wedi elwa o'r prosiect newydd ydy Ryan Scott Welham, myfyriwr 23 oed o Fangor.

"Nath o ddechra' efo fi'n mynd at y staff cefnogi [yn y brifysgol] ym Mangor, o'n i'n stryglo lot efo y gwaith a trio cael pres, o'n i'n gweithio... o'dd o blwyddyn cyntaf fi'n astudio," meddai.

"Dwi'n dyslecsig ac efo ADHD - o'dd o'n ormod. O'n i'n cael panic attacks a phethau... 'naethon nhw [y staff cefnogi] argymell therapi celf i mi."

Un o sesiynau Stwidio Lles
Disgrifiad o’r llun,

Mae Casi Wyn (ail o'r dde) yn cynnal sesiynau barddoniaeth yn y Stiwdio Lles

Dywedodd Ryan nad oedd yn ystyried ei hun yn berson creadigol, nes iddo fynd i un o sesiynau Y Stiwdio Lles.

"Dwi'n caru bob dim mae'r lle 'ma'n sefyll amdano. Dwi'n cerdded mewn yma a dwi'n gwybod mod i'n gallu peidio meddwl am bob dim oedd yn botheran fi yn ystod yr wythnos.

"Cyn dod i'r sesiynau yma, doeddwn i ddim yn meddwl mod i'n berson creadigol a doeddwn i ddim yn gallu gweld y pwynt.

"Doeddwn i'm yn hyd yn oed gwybod fod y lle yma'n bodoli. Ond mae o wedi bod yn syrpreis i mi a syrpreis da."

'Neidio i feddyginiaethu bob dim'

Mae'r Stiwdio Lles yn bartneriaeth rhwng cwmni theatr Frân Wen, Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd, Adran Llesiant Myfyrwyr Prifysgol Bangor, a Meddygfa Bodnant.

Mae'r cynllun yn peilota'r cysyniad o 'gelf ar bresgripsiwn' i bobl rhwng 18-30 oed, gan ddarparu gweithgareddau creadigol i wella lles meddwl.

Mae'r gantores a'r bardd Casi Wyn yn un o'r artistiaid proffesiynol sydd wedi bod yn rhan o gynnal y sesiynau peilot ym Mangor.

Dywedodd fod y cynllun yn cynnig "gofod saff a chyfforddus i bobl ifanc sydd yn byw gyda gorbryder neu ddiffyg hyder ac yn cael arbrofi gydag amrywiaeth o ddisgyblaethau a mynegiannau amrywiol i gysylltu gyda'i gilydd a gobeithio i herio'i gilydd i dyfu ychydig".

Casi WynFfynhonnell y llun, CASI WYN
Disgrifiad o’r llun,

Mae Casi Wyn yn un o'r artistiaid sydd wrth y llyw yn ystod sesiynau Y Stiwdio Lles

Ychwanegodd fod sawl artist yn cynnal y sesiynau ac yn cynnig sesiynau amrywiol o wythnos i wythnos.

"Dwi yma dan het bardd ac yn gobeithio tynnu ychydig o farddoniaeth a cherddi allan o'r unigolion yma, a hefyd yn edrych ar storïo fel ffordd o brosesu profiadau amrywiol ac eto cysylltu gyda'n gilydd.

"Mae 'na beintiwr, mae 'na berfformiwr, mae 'na ddylunydd sain, ac y nod wrth gwrs ydy ceisio taenu golau ar y ffaith bod celfyddyd a mynegiant yn ffordd o ddal cyflyrau penodol yn hytrach na'n bod ni fel cymdeithas yn neidio i feddyginiaethu bob dim ac i gategoreiddio bob dim fel problem."

Ychwanegodd pa mor bwysig oedd "cydio ac ymfalchïo mewn amrywiaeth niwrolegol pobl ifanc".

Mae tystiolaeth i brofi pa mor fuddiol gallai'r celfyddydau fod i rywun sy'n wynebu heriau gyda iechyd meddwl, meddai Dr Nia WilliamsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae tystiolaeth i brofi pa mor fuddiol gallai'r celfyddydau fod i rywun sy'n wynebu heriau gyda iechyd meddwl, meddai Dr Nia Williams

Dywedodd Dr Nia Williams o Brifysgol Bangor fod prosiectau o'r fath yn hollbwysig.

"Mae ymchwiliadau wedi profi fod y celfyddydau yn gallu bod o fudd a chael effaith bositif iawn o ran iechyd meddwl," meddai.

"Mae o'n rhyddhau pethau, falla profiadau hynod o negyddol maen nhw wedi wynebu yn y gorffennol ond yn rhyddhau'r emosiynau yna mewn ffordd saff ac mewn ffordd lle does neb yn eu beirniadu nhw.

"'Da ni'n gweld mwy a mwy o bobl yn diodda efo problemau iechyd meddwl ac yn sicr, yn bendant o ran plant a phobl ifanc yn enwedig yn dilyn Covid."

Mae Elgan Rhys yn un o aelodau staff cwmni'r Frân Wen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elgan Rhys yn un o aelodau staff cwmni'r Frân Wen

Ar gyngor y feddygfa a'r brifysgol, mae unigolion yn gallu hunan-gyfeirio i'r sesiynau dwys gyda gwahanol artistiaid i ymdrin â symptomau sy'n deillio o gorbryder ac anawsterau cymdeithasu.

Yn ôl Elgan Rhys, Pennaeth Ymgysylltu Frân Wen: "Mae hwn yn gyfle i bobl ifanc sy'n wynebu heriau iechyd meddwl ac unigrwydd i brofi effaith gadarnhaol a phŵer y celfyddydau.

"Fel canolfan greadigol yng nghanol Bangor mae'n lleoliad delfrydol ar gyfer y prosiect, a'r cynllun yn cyd fynd â'n gweledigaeth ni fel cwmni o fod yn cynnig cymuned ddiogel i bobl ifanc i fynegi ei hunain yn greadigol."

Mae'r cynllun peilot yn mynd dros gyfnod o chwe mis ond mae bwriad cynnal rhagor o sesiynau dros yr haf.