Dyn wedi marw o anafiadau niferus ar ôl disgyn ar Grib Goch

- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio yn achos dyn 36 oed fu farw ar ôl disgyn o grib ger copa mynydd uchaf Cymru.
Roedd Thomas Alan Smith o ardal Bolton wedi teithio i ogledd Cymru ddydd Sadwrn, 16 Awst i ddringo'r Wyddfa.
Ond tua 11:30 y bore, fe ddisgynnodd o Grib Goch.
Daeth timau achub mynydd yn gyflym, ond roedd Mr Smith wedi marw cyn roedd modd ei drin.
- Cyhoeddwyd19 Awst
Clywodd y gwrandawiad byr yng Nghaernarfon dydd Mercher fod Mr Smith yn gweithio fel plastrwr a'i fod wedi teithio i Gymru ar y bore y bu farw gyda'r nod o gyrraedd copa'r Wyddfa.
Ond ychydig oriau'n ddiweddarach, tua 11:30, derbyniodd y gwasanaethau brys sawl galwad bod dyn wedi disgyn o Grib Goch.
Dywedodd y crwner Sarah Riley wrth y gwrandawiad: "Cafodd Thomas Alan Smith ei ganfod gan dimau chwilio ac achub, ond cadarnhaodd meddyg ar yr hofrennydd achub ei fod wedi marw yn y fan a'r lle."
Fe wnaeth archwiliad post mortem ganfod ei fod wedi marw o ganlyniad i nifer o anafiadau.
Cafodd y cwest ei ohirio tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal i'r hyn a ddigwyddodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.