Trasiedi ddwbl i deulu o Lanelli wedi tân yn eu cartref

Abbie Hughes yn eistedd ar y soffa gyda 3 o'i merched
Disgrifiad o’r llun,

Aeth tŷ Abbie Hughes a'i theulu ar dân fis Awst eleni

  • Cyhoeddwyd

Mae mam sy'n byw ag MS wedi bod yn disgrifio "effaith fawr" y mae tân yn ei chartref wedi ei gael ar ei hiechyd, a hynny ddwy flynedd yn unig ers marwolaeth drasig ei merch.

Fe wnaeth criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ymateb i dân mewn tŷ cyngor ym Mrohawddgar, Llanelli ddiwedd mis Awst eleni.

Dyw'r teulu ddim wedi gallu mynd i'w cartref ers y tân, ac felly nid ydyn nhw'n gwybod eto a yw eitemau gwerthfawr, gan gynnwys ychydig o lwch Lyndee - a fu farw'n ddwy oed yn 2023 - wedi cael ei ddifetha.

Dywedodd y gwasanaeth tân fod achos y tân wedi ei nodi fel un "damweiniol".

Tŷ heb do ym Mrohawddgar, Llanelli yn dilyn difrod tânFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y gwasanaeth tân ac i'r fflamau gychwyn mewn ystafell wely ar lawr cyntaf yr eiddo

Wrth gofio'n ôl i ddiwrnod y tân dywedodd y fam i wyth, Abbie Hughes, 43, bod y teulu wedi mynd i Dŷ Hafan am y diwrnod.

"O fewn awr o fod yn Nhŷ Hafan, fe gafon ni alwad ffôn i ddweud fod y tŷ wedi mynd ar dân. Yna aeth popeth yn blur, yn un anhrefn mawr yn fy mhen," meddai.

Yn byw gyda sglerosis ymledol (MS), dywedodd fod "sioc popeth wedi achosi problemau" i'w chyflwr.

"Oherwydd fy mod mewn cadair olwyn, a nawr does gen i ddim cadair olwyn oherwydd y tân, fi fwy neu lai wedi fy nghyfyngu i'r tŷ.

"Mae'n cael effaith fawr arna i - ac mae hynny'n amlwg yn cael effaith ar fy nheulu hefyd."

Anrhegion Naolig wedi'u difetha

"O'r hyn mae pobl wedi dweud wrtha i, mae lawr grisiau wedi cael llawer o ddifrod, mwg a dŵr," ychwanegodd Ms Hughes.

"Roedd hanner fy anrhegion Nadolig yn y tŷ pan aeth i fyny mewn fflamau" ychwanegodd, "felly rwy'n gorfod dechrau eto, sy'n anodd iawn.

"Dydy hynny ddim yn mynd i fod yn un hawdd."

Sienna a Keira yn eistedd ar y soffa
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sienna (chwith) a Keira (dde) eisiau symud yn ôl i Lanelli

Roedd yr efeilliaid, Sienna a Keira, 16, yn casglu eu canlyniadau TGAU pan ddaethon nhw i wybod am y tân.

Roedden nhw ymhlith dau o'r pedwar plentyn oedd yn byw adref gyda'u mam ar y pryd.

Dywedodd Keira bod y sefyllfa yn anodd iawn: "Y ffaith fy mod wedi colli popeth, ac nad o'n i'n gwybod lle o'n i'n mynd i fynd oherwydd ro'n i'n dechrau yn y coleg rhai dyddiau wedyn."

Mae'r teulu yn byw dros dro yng Nghaerfyrddin.

"Dwi eisiau mynd yn ôl i Lanelli. Dwi eisiau'r gallu i wneud pethau yn hytrach nag eistedd yn y tŷ ond dwi'n methu gwneud hynny," meddai Sienna.

"Mae'n straen oherwydd mae'n rhaid i ni fynd ar fws o'r coleg, yn ôl i fan 'na, a wedyn naill ai aros yn nhŷ rhywun neu ddod o hyd i ffordd adref, lifft, neu fws neu rywbeth," ychwanegodd Keira.

'Sicrhau adfer y cartref i safon uchel'

Mewn datganiad dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Rydym yn cydymdeimlo â sefyllfa'r teulu yn dilyn y tân yn eu cartref ym Mrohawddgar, Llanelli ac mae cefnogaeth gyflym a phriodol wedi'i roi i'r teulu o'r cychwyn cyntaf.

"Cafodd y teulu eu hailgartrefu mewn llety dros dro addas ar ddiwrnod y tân i sicrhau eu diogelwch a'u lles ar unwaith.

"Er ein bod yn deall bod cael eu hadleoli i Gaerfyrddin wedi cyflwyno heriau, dyma oedd y dewis gorau ar y pryd i'r teulu.

"Mae gwaith yn cael ei wneud i'w cartref yn Llanelli i'w wneud yn ddiogel ac yn barod i'r teulu ddychwelyd cyn gynted â phosibl.

"Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod y cartref yn cael ei adfer i safon uchel a bod y teulu'n gallu symud yn ôl i Lanelli cyn gynted â phosibl.

"Rydym yn parhau mewn cysylltiad agos â'r teulu ac wedi ymrwymo i'w cefnogi drwy gydol y broses hon."

Lyndee yn gwenuFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Lyndee yn 2023, yn ddwy oed

Ynghyd â methu cymdeithasu fel yr hoffai, dywedodd Keira ei bod yn hiraethu am eitemau o'i chartref - yn benodol, pethau oedd yn ymwneud â'i chwaer fach dwy oed, Lyndee, a fu farw drwy ddamwain ar 4 Mehefin 2023.

"Rwy' wedi colli llawer o bethau fy chwaer fach," meddai.

"Roedd gen i ffrâm gydag olion ei bawd arno, ynghyd ag un pawb arall - yn amlwg, ry'ch chi'n methu cael hwnnw'n ôl oherwydd yr ôl bys.

"Roedd gen i nifer o bethau, roedd gen i luniau ohoni, roedd gen i dedi ac roedd ganddi hi un yn ei chasged pan gafodd ei chladdu.

"Mae'n bosib y gallwn ni ei gael yn ôl, ond dydyn ni ddim yn siŵr…"

'Roedd llwch fy chwaer yn y tŷ'

I Aderyn, sy'n 10 oed, mae peidio gwybod beth wnaeth oroesi yn y tân yn bryder.

"Roedd llwch fy chwaer fach yn y tŷ," meddai.

"Roedd e lawr grisiau, ond mae e fwy na thebyg wedi'i ddifrodi gan ddŵr. Rwy'n gweddïo y bydd yn iawn.

"Fe wnaethon ni gladdu peth, ond cafodd peth ei gadw ar gyfer gemwaith a phethau ac roedd e yn y tŷ…"

Aderyn yn dal tedi o gi
Disgrifiad o’r llun,

Mae Aderyn wedi derbyn sawl tedi gan aelodau o'r gymuned

Ychwanegodd: "Roedd gen i dedi ers yn bump oed ac roedd gen i lawer o dedis fy chwaer fach hefyd.

"I ddechrau, do'n i ddim yn gwybod mai'r llofft oedd wedi mynd, ro'n i'n meddwl bod y cŵn wedi mynd hefyd, tan i mi ddarganfod eu bod yn saff.

"Fe wnaeth hynny i mi deimlo ychydig yn well oherwydd rhain yw un o'r pethau gorau sydd wedi digwydd i mi.

"Heblaw am fy chwaer fach yn cael ei geni, rhain yw un o'r pethau gorau. Rwy'n eu caru nhw gymaint."

Ymateb 'anhygoel' y gymuned

Ymhlith y grwpiau fu'n ceisio cefnogi'r ddau deulu a gafodd eu heffeithio gan y tân roedd Ymddiriedolaeth Llanelli Railway Goods Shed, wnaeth ofyn i'r gymuned am roddion.

Cafodd tudalennau codi arian hefyd eu creu mewn ymateb.

Dywedodd Sarah Davies, cydlynydd y ganolfan, fod ymateb y gymuned wedi bod yn "anhygoel".

"Rwy'n credu fod hyn yn destament i haelioni pobl Llanelli a'u parodrwydd i ddod at ei gilydd i gefnogi pobl mewn angen.

"Fe gafon ni ddillad, gemau, gwisgoedd ysgol… fe wnaethon ni roi eitemau o'n prosiect eco garbon hefyd."

Mae Abbie a'i theulu yn ddiolchgar i bawb sydd wedi eu cefnogi.

Mewn datganiad, dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: "Penderfynwyd mai damwain oedd achos y tân.

"Nid oedd ymchwiliad llawn i'r lleoliad yn bosibl oherwydd difrifoldeb y tân ac roedd yr adeilad mewn cyflwr anniogel.

"Dechreuodd y tân mewn ystafell wely ar lawr cyntaf yr eiddo."

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys nad oedd y tân yn cael ei drin fel un amheus.

Pynciau cysylltiedig