'Mae dur yn ein gwaed ac yn rhan o'n hunaniaeth ni'
- Cyhoeddwyd
"Y dre dur - mae dur yn ein gwaed."
Bu'n rhaid i'r cyn-weithiwr dur, Steven Partridge, fethu sawl penblwydd a nifer o ddathliadau eraill oherwydd ei oriau gwaith a'r ffaith ei fod yn gorfod gweithio oriau hirach.
Roedd yna "bwysau mawr" i osgoi unrhyw ddamweiniau tra'n gweithio mewn lle peryglus yn cynhyrchu dur o'r safon uchaf, meddai Steven.
"Erbyn hyn rwyt ti'n gweld tacsis a'r enw tref dur, caffis a siopau - y dref dur. Mae dur yn rhan o'n hunaniaeth ni," dywedodd Steven.
- Cyhoeddwyd19 Ionawr
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd16 Awst
Ers mwy na chanrif, mae miloedd o deuluoedd wedi dibynnu ar waith dur Port Talbot am gyflogaeth.
Ar ddiwedd y mis, fe fydd yr ail o ddwy ffwrnais chwyth ar y safle yn cau ac fe fydd bron i ddwy fil o swyddi yn cael eu colli o ganlyniad.
Mae rhan fwyaf aelodau côr meibion y dref - Côr Cymric - wedi mwynhau degawdau o gyflogaeth yng ngweithfeydd yr Abaty, a gafodd ei brynu gan Tata Steel yn 2007.
Yn ystod eu hymarfer wythnosol mewn neuadd tu ôl i Eglwys Fethodist Taibach, fe rannodd rhai o aelodau'r grŵp eu hatgofion o'u hamser yn y gwaith dur.
Mae Steve Williams, 72, yn un o chwe chenhedlaeth yn ei deulu i weithio ar y safle. Mae ei ferch a'i ŵyr yn gweithio yna o hyd.
"Fy mhrofiad cyntaf o'r gwaith dur oedd pan oeddwn i'n 7 oed. Roed fy mam o Ferthyr a buodd yn rhaid iddi ddychwelyd ar hast oherwydd trasiedi.
"Roedd fy nhad yn gweithio yn y prynhawn a doedd neb i edrych ar fy ôl.
"Fe es i gyda fy nhad i'r gwaith ar ei feic modur ac roeddwn i'n eistedd ar ei beiriant tra roedd e'n gweithio, ac wedyn ar ddiwedd y dydd fe aethon ni i'r ffreutur a chwarae cardiau."
Ymhlith holl aroglau a synau'r gwaith dur, yr un sy'n sefyll mas yng nghof Steve yw'r arogl o "wyau yn pydru" - sy'n cael ei greu yn ystod y broses o gynhyrchu dur.
"Dwi wastad yn cofio'r arogl. Roedd fy nhad yn defnyddio ei beiriant i dorri'r slag oedd ar ôl yn y torpedos. Mae'r arogl hynny wedi aros gyda fi trwy gydol fy oes."
Pan oedd y gwaith dur ar ei anterth yn y 1960au, roedd mwy na 18,000 o bobl yn cael eu cyflogi ym Mhort Talbot.
Ond mae'r safle wedi bod yn dyst i nifer o newidiadau dros y blynyddoedd, sydd wedi arwain at streiciau a diswyddiadau ar adegau.
'Gwaith anodd, brwnt a swnllyd'
"Yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ôl i fi gwblhau fy mhrentisiaeth fe ges i fy nghloi allan o'r gwaith am 26 wythnos gyda dau o blant bach a dim cyflog.
"Fe wnaethon ni stryglan i arbed yr arian bach oedd gennym ni. Roedd yn rhaid i fy ngwraig chwilio am swydd rhan amser," meddai Steve.
Daeth tad Peter Sharp o'r Alban i chwilio am waith ym Mhort Talbot.
Mae'r gŵr 72 oed yn byw ar ystâd Sandfields, a gafodd ei godi ar gyfer gweithwyr dur yn yr 1940au a '50au.
"Gweithiais i ar y llinell pigo. Dyna ble maen nhw'n golchi'r rholiau dur mewn asid.
"Mae'n waith anodd, brwnt a swnllyd ond roedd y cyfeillgarwch rhwng y gweithwyr yn wych," meddai Peter.
Mae cyfeilydd y côr, Angharad Young, yn athrawes yn un o ysgolion cynradd y dref.
Yn ogystal â'i chysylltiad â'r gwaith dur trwy ei thad-cu, mae gan nifer o ddisgyblion yr ysgol rieni sy'n cael eu cyflogi ar y safle hefyd.
Mae'r hyn sy'n digwydd yn y gwaith dur yn "peri llawer o ofid i fi", meddai Angharad.
"Chi’n gweld e bob nos, chi’n clywed e, weithiau chi’n arogli fe. Mae’n rhan annatod heb sylwi bron a bod. Enw’r ysgol gyfun leol yw ysgol Bro Dur - ni moyn hwnna i fod yn enw cyfoes, nid un hanesyddol.
"Dwi’n gwybod dyw e ddim wedi bod y lle glanaf erioed ond mae wedi gwella dros y blynyddoedd a rydyn ni’n falch o Bort Talbot," ychwanegodd Angharad.
Er nad yw David Lewis, 79 oed, o Gwmafan erioed wedi cael swydd yn y gwaith dur, mae fe'n teimlo agosatrwydd at y lle gan fod aelodau o'i deulu a nifer fawr o'i ffrindiau wedi gweithio yna ar ryw adeg.
"Ar un adeg roedd bron i hanner y dre yn gweithio yna.
"Pan rwy’n dod gartref a gweld y ffwrneisi yn yr awyr, rwy’n gallu dweud bod fi gartref.
"Mi fydd e’n od iawn heb y ffwrneisi chwyth yna - mae’n druenus," meddai David.