Lluniau: Cofio trychineb Pwll Glo Chwe Chloch

Y cerflun gan Sebastien Boyesen. Mae'n cael ei adnabod fel Y GwarchodwrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y cerflun gan Sebastien Boyesen. Mae'n cael ei adnabod fel Y Gwarchodwr

  • Cyhoeddwyd

Ar 28 Mehefin 1960 fe wnaeth ffrwydrad nwy dan-ddaear ym Mhwll Glo Chwe Chloch ger Abertyleri ladd 45 o lowyr.

Roedd yn ddigwyddiad wnaeth ysgwyd y gymuned ym Mlaenau Gwent a chymoedd diwydiannol de Cymru.

Heddiw, mae cerflun o löwr yn sefyll yn dal dros Barc Arael Griffin fel teyrnged i'r 45 a laddwyd. Cafodd y cerflun ei greu gan yr artist Sebastien Boyesen er mwyn cofio hanner canrif ers y drychineb yn 2010.

 hithau'n 65 mlynedd ers y diwrnod trist yma yn hanes Blaenau Gwent a Chymru, dyma rai golygfeydd o'r diwrnod.

Gwragedd a mamau'n casglu ger y gwaith glo yn byw mewn gobaith bod eu gwŷr a'u meibion am fod yn iawn
Disgrifiad o’r llun,

Gwragedd a mamau'n ymgasglu ger y gwaith glo, yn byw mewn gobaith bod eu gwŷr a'u meibion am fod yn iawn ar ôl clywed bod ffrwydrad wedi bod

Teuluoedd a chyd-weithwyr yn aros am newyddion am y glowyr gafodd ei dal yn y ffrwydriadFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Teuluoedd a chyd-weithwyr yn aros am newyddion am y glowyr gafodd eu dal yn y ffrwydrad

Y tîm achub yn mynd i lawr i'r pwllFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y tîm achub yn mynd i lawr i'r pwll

Pennawd iasol Yr Herald ar ddydd Mercher 29 Mehefin 1960, diwrnod ar ôl y ffrwydriadFfynhonnell y llun, Daily Herald
Disgrifiad o’r llun,

Pennawd iasol Yr Herald ar ddydd Mercher 29 Mehefin 1960, diwrnod ar ôl y ffrwydrad

Pobl yn ymgynnull tu allan i Bwll Glo Chwe Chloch, Abertyleri ar 29 Mehefin Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Pobl yn ymgynnull tu allan i Bwll Glo Chwe Chloch, Abertyleri ar 29 Mehefin gyda'u cwestiynau a'u poen

Fe wnaeth dros bum mil o lôwyr gasglu mewn llinell yn ystod taith yr hers i'r fynwent er mwyn dangos eu parch
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth dros bum mil o lowyr gasglu mewn llinell yn ystod taith yr hers i'r fynwent er mwyn dangos eu parch

Marina Reynolds a'i merch Deborah Glyn a anwyd ar ddydd angladd ei gŵr William Reynolds. Fu farw ei gŵr gyda'i efaill yn y drychineb
Disgrifiad o’r llun,

Marina Reynolds a'i merch Deborah Glyn a anwyd ar ddydd angladd ei gŵr William Reynolds. Fu farw ei gŵr gyda'i efaill yn y drychineb

Cymuned Abertyleri yn cefnogi ei gilydd i gladdu'r glowyr Ffynhonnell y llun, Tracy Burchell
Disgrifiad o’r llun,

Cymuned Abertyleri yn cefnogi ei gilydd i gladdu'r glowyr

Y tai teras gerllaw Pwll Glo Chwe Chloch ym mis Medi 1969, bedair blynedd ar ôl i'r drychineb greithio'r gymuned. Fe wnaeth Pwll Gloch Chwe Chloch gau yn 1988 Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y tai teras gerllaw Pwll Glo Chwe Chloch ym mis Medi 1969, bedair blynedd ar ôl i'r drychineb greithio'r gymuned. Fe wnaeth Pwll Gloch Chwe Chloch gau yn 1988

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig