Rali Machynlleth: 'Teimlo'n gryf y dylai tai fod yn gartrefi'

rali
  • Cyhoeddwyd

Daeth dros 300 o bobl ynghyd mewn rali ym Machynlleth brynhawn Sadwrn i alw ar y llywodraeth i ymateb i’r "argyfwng tai yng Nghymru" a sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg.

Cafodd y rali ei chynnal ddeuddydd cyn Diwrnod Owain Glyndŵr, sy’n nodi 624 mlynedd ers ei goroni yn dywysog Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Bethan Roberts mai nad mewn trefi glan môr yn unig mae argyfwng tai

Roedd Bethan Roberts, sy’n dod o Fachynlleth, yn rhan o’r trefniadau ar gyfer y rali.

Dywedodd: “Dwi’n teimlo’n gryf dros y syniad bod tai yn gartrefi ac nid llefydd gwyliau yn unig neu llefydd i wneud arian.

"Mae’n glir bod 'na argyfwng tai mewn cymunedau ar y môr fel Aberdyfi neu Abersoch ond mae 'na broblem yma ym Machynlleth hefyd. Felly mae’n bwysig cyfathrebu hynny a dangos bod angen newid.”

Ychwanegodd: “Mae’n wych gallu gwneud hynny mor agos i ddiwrnod Glyndŵr hefyd.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae gan Gymru gymaint i’w gynnig i ymwelwyr ac rydym am sicrhau ein bod yn gwireddu’r potensial hwnnw mewn ffordd sy’n sicrhau cydbwysedd cynaliadwy rhwng ein cymunedau, busnesau, tirweddau ac ymwelwyr.

"Credwn fod gan bawb hawl i gartref teilwng, fforddiadwy i'w brynu neu i'w rentu yn eu cymunedau eu hunain fel y gallant fyw a gweithio'n lleol."

'Gweithredu cyn bod hi'n rhy hwyr'

O dan y rheolau newydd, fe all cynghorau godi premiwm o hyd at 300% ar ben y lefel arferol i geisio mynd i'r afael â'r argyfwng tai.

Fe gyflwynodd Llywodraeth Cymru, fel rhan o gytundeb cydweithio Llafur a Phlaid Cymru, y premiwm yn rhannol er mwyn ei gwneud yn haws i bobl leol allu fforddio prynu tai yn yr ardaloedd y cawson nhw eu magu.

Disgrifiad o’r llun,

“Dwi’n teimlo’n gryf dros yr angen am Ddeddf Eiddo," medd Siôn ap Dafydd

Teithiodd Siôn ap Dafydd o Ffos y Gerddinen yn Sir Caerffili i gymryd rhan yn y rali.

Dywedodd: “Dwi’n teimlo’n gryf dros yr angen am Ddeddf Eiddo. Dwi’n ifanc ac yn edrych i brynu tŷ ond mae’n anodd iawn ffeindio tai yn yr ardal dwi’n dod ohoni ac mae gyda fi ffrindiau sy’n dweud union yr un peth.”

Mae Mr ap Dafydd yn falch bod y llywodraeth wedi rhoi’r pŵer i gynghorau godi treth premiwm ar ail dai. Ond, mae’n teimlo bod angen mynd ymhellach eto.

“Mae gan y llywodraeth mwy o bwerau eto sy’n gallu gwneud gwahaniaeth. Mae angen iddyn nhw weithredu cyn mae’n rhy hwyr.”

Disgrifiad o’r llun,

"Mae’r tai haf yma yn sicr yn effeithio ar yr iaith Gymraeg," medd Meredith Millar

Mae Meredith Millar yn dod o Efrog Newydd yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghymru.

“Mae’n hynod o drist gweld y Gymraeg yn diflannu o fy nghymuned i. Dwi wedi dysgu’r iaith achos mae pob un iaith yn bwysig ac yn drysor.

"Ond mae’r tai haf yma yn sicr yn effeithio ar yr iaith Gymraeg ac felly mae angen gwneud rhywbeth fel bod modd i bobl sy’n cefnogi’r iaith a’r diwylliant fyw yn lleol,” meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Ffred Ffransis bod y sefyllfa bresennol "yn argyfwng"

Roedd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith yn un o’r rhai oedd yn rhan o’r trefniadau.

Fe ddisgrifiodd y sefyllfa bresennol fel “argyfwng” gan ychwanegu bod “angen Deddf Eiddo i fynd at wraidd y broblem".

Dywedodd: “Nid yw’r llywodraeth yn dangos unrhyw ymwybyddiaeth o’r argyfwng ‘da ni ynddi.

"Mae’r rali yma yn cyd-fynd â diwrnod Owain Glyndŵr ac mae’r awydd yna, yr awydd oedd efo’n tywysogion ond sydd bellach efo’r werin bobl i sicrhau rhyddid yn ein cymunedau ni yn gryf ac yn glir iawn.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r newidiadau i'r rheolau treth lleol ar gyfer llety hunanarlwyo ac ail gartrefi wedi'u cynllunio fel eu bod yn gallu datblygu marchnad dai decach a sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i’r cymunedau lle maent yn berchen ar gartrefi neu’n rhedeg busnesau.

“Byddwn yn parhau i fonitro effeithiau’r ddeddfwriaeth hon i sicrhau ei bod yn cyflawni’r hyn a fwriadwyd.”

Pynciau cysylltiedig