Llafur yn methu ymrwymo i gyllid HS2 i Gymru
- Cyhoeddwyd
Dyw'r Blaid Lafur heb ymrwymo i ddarparu cyllid canlyniadol i Gymru am y cymal cyntaf o HS2, yn dilyn y penderfyniad i ganslo ail ran rhwng Birmingham a Manceinion.
Roedd Llywodraeth y DU wedi dynodi HS2 fel prosiect Lloegr a Chymru oherwydd roedd Cymru yn cael ei ystyried fel elwa o reilffordd cyflym i orsaf Crewe.
Oherwydd rheolau datganoli fformiwla Barnett, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon wedi derbyn arian o ganlyniad i'r gwariant ar HS2, ond nid felly i Gymru.
Yn siarad ar raglen BBC Politics Wales dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru, Jo Stevens, y byddai llywodraeth Lafur yn San Steffan yn "gweithio allan anghenion Cymru o ran trafnidiaeth."
Ond ni wnaeth gadarnhau a fyddai Cymru'n derbyn canran o'r arian a'i wariwyd eisoes rhwng Llundain a Birmingham.
Mae wedi ei amcangyfrif y byddai'r cyllid canlyniadol am gymal cyntaf HS2 tua £2biliwn.
Dywedodd Ms Stevens: "Diddordebau pobl Cymru'n sy'n teithio a phobl sy'n teithio ar draws y ffin bydd ein blaenoriaeth."
Cafodd ail gymal HS2, rhwng Birmingham a Manceinion, ei ganslo gan y Prif Weinidog, Rishi Sunak, yng nghynhadledd y Ceidwadwyr ddydd Iau.
Cyhoeddodd y byddai £1biliwn yn cael ei roi tuag at drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru yn ei le.
Mae'n siŵr bod Llafur wedi derbyn hwb arall i'w hyder wrth edrych tuag at yr etholiad nesaf wedi iddynt ennill sedd Rutherglen a Gorllewin Hamilton yn ddiweddar.
Ond mae rhai wedi cyhuddo arweinwyr Llafur o wthio allan aelodau ar adain chwith y blaid
Mae'r AS Llafur, Beth Winter, a oedd yn gefnogol o Jeremy Corbyn, wedi galw am adolygiad o'r ffordd cafodd yr ymgeisydd am yr etholaeth newydd Merthyr Tydfil a Cynon uchaf ei ddewis, wedi iddi golli mewn gornest yn erbyn Gerald Jones.
Dywedodd Ms Stevens fod y broses yn deg a bod aelodau wedi "gwneud eu penderfyniad."
Ychwanegodd: "Gwnaeth aelodau yn yr etholaeth newydd yna cymryd rhan, gyda'r niferoedd uchaf rydyn ni wedi'u gweld, ac mi wnaethon nhw eu dewis. Yn anffodus i Beth, hi ddaeth yn ail.
"Dwi'n teimlo trueni drosti... ond roedd yn broses deg."
Mae BBC Politics Wales ar gael i'w wylio ar BBC iPlayer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd20 Medi 2023
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2021