Elusen yng Ngheredigion 'mor ddibynnol ar roddion wrth i gostau ddyblu'
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan elusen hosbis y cartref Ceredigion yn llawn bwrlwm ond wrth i'r gost o addasu'r adeilad ddyblu, mae galw am fwy o arian a gwirfoddolwyr.
Dyw elusen HAHAV (Hospice at Home Volunteers) ddim yn cael unrhyw arian craidd ac felly maen nhw'n dibynnu'n llwyr ar grantiau penodol, incwm y siop, rhoddion ariannol a'r hyn sy'n cael ei adael i'r elusen mewn ewyllysiau.
Ddechrau 2023, fe wnaeth yr elusen brynu canolfan Plas Antaron ar gyrion Aberystwyth ac yn ystod y misoedd nesaf, y gobaith yw codi £200,000 er mwyn ei adnewyddu a diogelu'r adeilad a datblygu gwasanaethau.
Yn ddiweddar, mae rhan gyntaf y gwaith o addasu'r adeilad wedi dod i ben sef creu ystafell therapi celf ond gan bod pris y gwaith wedi dyblu, doedd dim modd cwblhau'r gwaith i gyd.
"Roedd hi'n fwriad cael lifft ond yn sgil prisiau uwch, dim ond llwyddo i adeiladu stafell ry'n ni wedi ei wneud," meddai Rhian Dafydd, Prif Swyddog HAHAV.
"Ry'n ni wedi gorfod rhannu'r cam cyntaf felly yn 1a ac 1b - a'r peth nesaf yw cael lifft fel bod pobl sy' ddim yn gallu cerdded y grisiau yn cyrraedd yna.
"Ni'n falch ofnadwy o'r grant o'r Gronfa Ffyniant Bro a gawson ni ond ni'n apelio am roddion ariannol a byddai'n braf hefyd petai rhyw gwmni yn fodlon rhoi nawdd i ni i ddodrefnu'r ystafell newydd.
"Mae'r cyfan jyst yn dangos pa mor anodd yw hi ar elusennau fel ni ac mae pob ceiniog yn cyfrif."
Mae canolfan HAHAV wedi'i lleoli ym Mhenparcau ger Aberystwyth ond mae'r elusen yn pwysleisio ei bod yn gwasanaethu y sir gyfan.
Ceredigion yw'r unig sir yng Nghymru heb hosbis.
Wrth i HAHAV ehangu, maen nhw hefyd yn galw am fwy o wirfoddolwyr - mae ganddyn nhw oddeutu cant ar hyn o bryd.
Ganol Rhagfyr fe enillodd yr elusen un o wobrau ysbrydoliaeth Caru Ceredigion - gwobr sy'n cydnabod mentrau sy'n codi arian ar gyfer achosion da neu sy'n helpu'r gymuned yn ehangach trwy waith gwirfoddoli.
"Byw'n dda yw'n nod, er ein bod yn wasanaeth hosbis, ac mae'n bwysig cofio hynny," medd Susie Scott, un o reolwyr HAHAV, sydd wedi cael diagnosis o ganser yr ymennydd ei hun.
"Ein prif wasanaeth yw rhoi cymorth i bobl sydd â salwch cronig, seibiant i'w gofalwyr a sesiynau cwnsela i'r rhai sy'n galaru.
"Yn ogystal, mae nifer o weithgareddau byw'n iach yn cael eu cynnal yn y ganolfan ym Mhenparcau - te prynhawn i bobl sydd â dementia sef Caffi Cofion, gweithdai celf a chrefft, sesiynau canu ac amrywiol therapïau.
"Dwi'n cofio bod ag ofn fy hun pan ges i wybod bod gen i ganser terfynol ond mae siarad am fyw tan ddiwedd oes wedi bod yn rhywbeth positif mewn amgylchedd gyfeillgar."
Mae galw cynyddol wedi bod am wasanaeth galar yr elusen.
Un o'r gwirfoddolwyr yw Gwen Aaron ac wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd ei bod yn cael boddhad mawr o'r gwaith.
"Dwi'n cwrdd â'r cleientiaid sydd gen i unwaith yr wythnos ac mae gen i ddau ar hyn o bryd - dwi wedi dewis peidio cael mwy.
"Fel arfer mae rhywun yn cwrdd â rhywun sy'n galaru ryw chwe gwaith - dim mwy na hynny - gan nad ydych chi eisiau i neb fod yn ddibynnol arnoch chi."
'Bod yn angor a ffrind'
Ychwanegodd: "Cwmni ydych chi mewn galar. Mae'n waith diddorol - mae'r marwolaethau yn wahanol, mae pobl yn ymateb i'r marwolaethau yn wahanol a 'dach chi yna i'w helpu i symud ymlaen.
"Os oes rhywun am gymorth, y ffordd orau yw mynd at y meddyg ac yna fe all y meddyg basio nhw ymlaen wedyn at HAHAV.
"Does dim yn well na'r teimlad 'na o fod yn angor ac yn ffrind."
"Rwy'n meddwl wrth i bobl fyw'n hŷn bod gofal diwedd oes yn dod yn fwy pwysig ac hefyd mae'r mesur hawl i farw wedi ysgogi trafodaeth am hynny hefyd," ychwanegodd Susie Scott.
"Ry'n ni'n awyddus i bobl fod yn ymwybodol o ba wasanaeth sydd ar gael. Ar ôl cael lifft, ymhlith y camau nesaf mae cael cegin lle gellir addysgu pobl i fyw'n iach a ni'n bwriadu datblygu'r ardd.
"Ry'n ni yma i ddarparu gwasanaethau hanfodol am ddim - ac felly'n gwerthfawrogi pob ceiniog."
Un sydd wedi codi arian sylweddol i'r elusen yw Megan Jones Roberts.
Yn ddiweddar, sicrhaodd bod hanner elw cyngerdd John ac Alun yn dod â channoedd i'r coffrau.
"Mae gwasanaeth HAHAV yn un cwbl unigryw yng nghefn gwlad. Does yna ddim hosbis yng Ngheredigion ac ry'n ni'n ddibynnol ar y gwasanaethau yma," meddai.
"Pan ro'n i'n gofalu am fy ngŵr ges i fudd mawr o fynd i'r Caffi Cofion - roedd rhannu profiadau yn codi calon.
"Dwi hefyd newydd gael gwybod bod y canser sy gen i wedi lledu ymhellach ac mae gwybod bod y gwasanaeth yma ar gael yn help anferth," ychwanegodd.
Un arall sydd yn hynod o ddiolchgar am gefnogaeth HAHAV yw Rachel Huggett – cyn uwch-nyrs iechyd meddwl sy'n ddibynnol ar ddialysis yn sgil ei harennau diffygiol.
"Mae'r sesiynau therapi celf wedi fy helpu gymaint," meddai.
"Un diwrnod dyma fi'n penderfynu mynd i'r dosbarth sy'n cael ei gynnal bob dydd Mawrth ac er fy mod 20 mlynedd yn iau na phawb arall, ro'n i'n teimlo'n gartrefol a ddim yn teimlo bod neb yn fy meirniadu.
"Mae blinder ac iselder yn fy llethu weithiau ond mae'r grŵp yma a'r gweithgareddau amrywiol yn fy nghynnal.
"Dwi wedi 'neud lot o ffrindiau newydd ac fe fydden i'n annog unrhyw un i fynd yno - mae'r staff yn gwbl wych a dwi mor ddiolchgar."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2024