'Gofal diwedd oes yn arbennig a rhaid iddo barhau'
- Cyhoeddwyd
Mae sefydliadau sy'n cynnig gofal diwedd oes "cwbl arbennig" yn rhybuddio y bydd yn rhaid cwtogi neu gael gwared ar wasanaethau yn sgil bwriad Llywodraeth y DU i godi treth Yswiriant Gwladol i gyflogwyr.
Un elusen o'r fath ydy Marie Curie yng Nghymru, sy'n disgwyl i gostau godi £258,000 o ganlyniad i'r newidiadau.
Yn ôl Aled Wyn Phillips o Gaerdydd roedd y gofal a gafodd ei wraig, Meinir yn hosbis Marie Curie ym Mhenarth "yn gwbl arbennig ac mae mor bwysig bod y math yma o ofal diwedd oes yn cael ei gynnig i bawb sydd ei angen".
Ar drothwy cyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn galw ar y llywodraeth i dalu mwy am y gwasanaethau y mae sefydliadau gwirfoddol yn eu darparu i'r sector gyhoeddus.
Yng nghyllideb y Deyrnas Unedig ym mis Hydref fe gyhoeddwyd y bydd yna £1.7bn yn ychwanegol i Gymru - £774m ar gyfer y flwyddyn hon, a £930m ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Beth yw’r newidiadau?
Yn ei chyllideb ddiwedd Hydref fe gyhoeddodd Canghellor y DU, Rachel Reeves, y bydd y gyfradd y mae cyflogwyr yn talu ar enillion gweithwyr yn codi o 13.8% i 15%, a bod y trothwy yn gostwng o £9,100 i £5,000.
Bydd y newid yn dod â £25bn yn ychwanegol i'r coffrau, medd Llywodraeth y DU.
Ni fydd y newidiadau yn effeithio ar y Gwasanaeth Iechyd, awdurdodau lleol na gwasanaethau cyhoeddus eraill gan y byddan nhw'n cael ad-daliad.
"Yr hyn sy'n eironig yw bod nifer o sefydliadau o'r sector wirfoddol yn darparu gwasanaethau pwysig i'r GIG a chynghorau lleol er mwyn iddyn nhw gwrdd â thargedau ond y sector wirfoddol ac elusennau sy'n cael eu heffeithio gan y newidiadau yma," medd Charles Whitmore, Pennaeth Partneriaethau Strategol y CGGC.
"Ry'n ni'n gofyn i Lywodraeth Cymru dalu mwy am yr hyn ry'n ni'n ei ddarparu iddyn nhw ac yn gofyn i Lywodraeth y DU drin y sector wirfoddol yn yr un ffordd â'r sector gyhoeddus."
'Digon o amser i Meinir' yn ei dyddiau olaf
Wrth ymhelaethu am y gofal a gafodd ei ddiweddar wraig Meinir yn hosbis Marie Curie ym Mhenarth eleni dywedodd Aled Wyn Phillips bod cymorth o'r fath yn hanfodol.
"Allen nhw ddim wedi 'neud mwy a fydden ni ddim wedi dymuno am well gofal.
"Mae'r lle dipyn yn wahanol i ysbyty - yn fwy cartrefol ac roedd rhywun yn cael mynd a dod yn ôl y galw," meddai.
"Roedd digon o amser rywsut i gwrdd â gofynion Meinir. Roedd hi wedi colli'i thafod yn sgil y canser ond roedden nhw'n 'neud yn siŵr bod ei llais hi yn cael ei glywed a'n dymuniadau ni fel teulu.
"Doedd dim byd yn drafferth. I ddweud y gwir mae'n biti nad oes mwy o lefydd fel hyn yn bodoli ar draws Cymru.
"Mae hi mor bwysig nad yw gwasanaethau fel hyn yn cael eu cwtogi."
'Newid yn y lwfans cyflogaeth yn gymorth'
Wrth drafod y mater yn y Senedd yn ddiweddar, dolen allanol pwysleisiodd Eluned Morgan mai mater i Lywodraeth y DU yw Yswiriant Gwladol, ac ychwanegodd y byddai'r newid yn y lwfans cyflogaeth o £5,000 i £10,500 yn "gymorth mawr".
"Rydym ni'n gwybod bod tua 40,000 o fudiadau gwirfoddol yn gweithredu ledled Cymru. Ond er mwyn cydnabod ac amddiffyn y busnesau a'r elusennau lleiaf, fe wnaethon nhw [Llywodraeth y DU] ddyblu'r lwfans cyflogaeth i £10,500," meddai.
"Felly, bydd hanner y busnesau â rhwymedigaethau cyfraniadau yswiriant gwladol naill ai ar eu hennill neu'n gweld dim newid y flwyddyn nesaf.
"Roedd y Canghellor yn eglur iawn am yr heriau a oedd yn wynebu cyllid cyhoeddus yn y cyfnod cyn yr etholiad, ac yn amlwg, bu'n rhaid gwneud dewisiadau anodd."
Dywed Llywodraeth y DU eu bod nhw wedi gwneud penderfyniadau "anodd er mwyn trwsio'r sylfeini ac i sicrhau bod cynnydd o £22bn i'r gwasanaeth iechyd" ledled Prydain.
Er y cynnydd yn y lwfans cyflogaeth dywed elusennau y bydd eu costau'n cynyddu yn aruthrol.
Dywed sefydliad Mirus sy'n cefnogi pobl ag anableddau dysgu, salwch meddwl, pobl awtistig a’u teuluoedd bod y newidiadau i'r dreth a chyflogau byw yn golygu cost ychwanegol o £1.6m.
Mae Gofal Canser Tenovus wedi rhybuddio y bydd y newidiadau yn gost ychwanegol o £250,000 y flwyddyn, bydd costau ychwanegol Wastesavers yn £107,000, St John Ambulance Cymru yn £50,000 ac Age Connects Morgannwg yn £47,000.
Wrth siarad â Cymru Fyw dywedodd y Parchedig Irfon Roberts, un o ymddiredolwyr cartref Glyn Nest yng Nghastellnewydd Emlyn y bydd y newidiadau yn "effeithio'n drwm iawn ar y cartref" gan ei fod yn cael ei gyfrif yn gartref preifat.
"Mae'r cartref yn cyflogi rhwng 30 a 35 ac mae yma 26 o ddeiliaid. Yn sicr mae'n mynd i gael effaith fawr iawn arnom.
"Mae'n gartref sy'n darparu gofal hynod o bwysig yng nghefn gwlad ac yn cyfrannu i'r economi yn lleol.
"Ry'n ni'n cael ein cyfrif fel cartref preifat ond cartref elusennol ydyn ni wrth gwrs - a dydyn ni ddim yn gnweud dim elw. Ni'n teimlo y dylen ni gael ein trin yr un fath â chartrefi awdurdodau lleol."
Bydd y newid i yswiriant gwladol yn "cael effaith andwyol ar faint o ofal y gallwn ei ddarparu", meddai Rachel Jones o elusen Marie Curie.
“Mae Marie Curie yn darparu gwasanaethau hosbis ledled Cymru – o’n Hosbis Caerdydd a’r Fro ym Mhenarth, i ein gwasanaethau Hosbis yn y Cartref ac ry'n ni'n cefnogi miloedd o bobl yn flynyddol i farw lle maent yn dymuno bod."
Ychwanegodd: "Bydd cynyddu'r yswiriant gwladol i gyflogwyr, i elusen sydd eisoes yn ddibynnol ar roddion gan y cyhoedd, yn cael effaith andwyol ar faint o ofal y gallwn ei ddarparu.
"Mae angen i ni weld darparwyr gwasanaethau'r GIG nad ydynt yn rhan o'r GIG yn cael eu hariannu'n llawn - yn enwedig o ystyried y codiadau yswiriant gwladol hyn i gyflogwyr."
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2024
Dywed y Cyngor Gweithredu Gwirfoddol bod y newidiadau yn sicr o gael effaith ar wasanaethau y mae pobl fregus yn ddibynnol arnyn nhw.
"Ry'n ni'n meddwl yn benodol am wasanaethau fel iechyd meddwl, nyrsio, gofal diwedd oes - gwasanaethau ry'n ni'n eu darparu i'r sector gyhoeddus" ychwanegodd Charles Whitmore.
"Eisoes mae elusennau a chyrff gwirfoddol yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd ac mae nifer wedi gorfod gwario eu cynilon.
"Heb os, bydd y newidiadau yma yn golygu y bydd llai o bobl yn cael eu cyflogi i ddarparu gwasanaethau hanfodol i gymdeithas."