Mwy o alw am wasanaeth hosbis cartref yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae'r galw am wasanaeth elusen hosbis yn y cartref yng Ngheredigion wedi cynyddu'n sylweddol ac mae angen mwy o wirfoddolwyr ac arian, medd cadeirydd bwrdd yr ymddiriedolwyr, Gwerfyl Pierce Jones.
Ers ei sefydlu yn 2015 mae elusen HAHAV wedi bod yn cynnig help ymarferol, gofal cymdeithasol a chwmni i bobl sydd â salwch cronig - yng ngogledd Ceredigion yn bennaf.
Yn ôl defnyddwyr mae'n wasanaeth sy'n "codi calon mewn cyfnod anodd".
Bellach yn sgil y galw cynyddol, yn rhannol oherwydd prinder gofalwyr, y bwriad yw ehangu'r gwasanaeth ar draws y sir.
"Dydyn ni ddim yn cael unrhyw arian craidd - dim ond grantiau penodol nawr ac yn y man ac felly ry'n ni'n llwyr ddibynnol ar roddion, incwm ein siop yn Aberystwyth a'r hyn sy'n cael ei adael i ni mewn ewyllysiau," meddai Gwerfyl Pierce Jones wrth siarad â Cymru Fyw.
Yn ddiweddar mae'r elusen wedi prynu canolfan Plas Antaron ar gyrion Aberystwyth ac yn ystod y 18 mis nesaf y gobaith yw codi £200,000 er mwyn ei adnewyddu a diogelu a datblygu gwasanaethau.
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2022
Yn ystod mis Mehefin mae Ms Pierce Jones yn cerdded 100 milltir er mwyn rhoi hwb i'r ymgyrch ariannol.
"Rwy'n hoffi mynd am dro ond dwi ddim yn gerddwr o fri ac felly mae hyn yn her i fi'n bersonol ond rwy' wedi pasio hanner ffordd ac yn diolch i bawb sydd wedi fy noddi hyd yma.
"Mae'r elusen yn gwbl ddibynnol ar wirfoddolwyr a dim ond llond dwrn sy' 'na o staff cyflogedig - mae gynnon ni ryw 80 o wirfoddolwyr i gyd, ond ry'n ni angen mwy i gwrdd â'r gofyn ar draws Ceredigion gyfan," meddai.
Mae'r elusen yn cynnig nifer o wasanaethau gan gynnwys rhoi cymorth i bobl sydd â salwch cronig, seibiant i'w gofalwyr a sesiynau cwnsela i'r rhai sy'n galaru.
Yn ogystal mae nifer o weithgareddau byw'n iach yn cael eu cynnal yn y ganolfan ym Mhenparcau - te prynhawn i bobl sydd â dementia, gweithdai celf a chrefft, sesiynau canu ac amrywiol therapïau.
"Mae rhai yn gwnselwyr profiadol ond does dim rhaid bod yn arbenigwr gan bod hyfforddiant ar gael - mae yna ddigon o gyfle i wirfoddoli ar draws Ceredigion wrth i'r galw gynyddu ac mae cyfleon yn ein siop brysur a'n warws hefyd.
"Ar hyn o bryd mae'r gwaith o ddatblygu Plas Antaron fel Canolfan Byw yn Dda yn mynd yn ei flaen ac wrth gwrs mae hynny yn costio.
"Wrth i'r Gwasanaeth Iechyd wynebu mwy o bwysau ry'n ni'n hynod o falch o allu estyn llaw gan gefnogi tîm gofal lliniarol Bwrdd Iechyd Hywel Dda," ychwanegodd Gwerfyl Pierce Jones wrth iddi baratoi ar gyfer ei thaith nesaf.
Ymhlith y rhai sydd wedi bod ym mhrynhawniau te Plas Antaron mae Megan Jones Roberts a'i gŵr Peter sydd ag Alzheimer's.
"Mae Pete mewn cartref bellach ond roedd y pnawniau 'na yn werth y byd - y cyfan yn cael ei baratoi gan wirfoddolwyr," meddai Megan.
"Roedd yn werthfawr i'r gŵr, wrth gwrs, ond i fi fel gofalwr hefyd - mae'n wasanaeth sy'n codi calon mewn cyfnod anodd.
" I ddweud y gwir o'dd e'n rheswm i wisgo lan ac yna ar ôl cyrraedd cael te bendigedig ac adloniant ond yn fwy na hynny roedd e'n gyfle i ni ofalwyr siarad â'n gilydd a rhannu profiadau.
"Rwy'n cofio unwaith rhannu profiad am ostyngiad treth pan mae rhywun yn byw gyda chlaf Alzheimer's - ro'dd hi mor braf siarad â gofalwyr eraill ac yn sicr ro'dd e'n ddigwyddiad ro'n i'n edrych ymlaen ato."
Mae Gwen Aaron yn un o'r gwirfoddolwyr: "Mae meddygon teulu lleol yn gyrru llawer o bobl ymlaen aton ni ac mae'n braf medru eu cefnogi nhw.
"Dwi i fy hun yn rhoi cymorth i'r rhai sy'n cael hi'n anodd delio â galar. Gwrando yw'r peth mawr a rhoi cyfle i bobl siarad - mae'r cyfan yn gwbl gyfrinachol.
"Y gobaith yw lleihau baich y galar a dysgu byw gydag e.
"Mae'n braf gallu gwirfoddoli gyda thîm bendigedig ac fe fydden i'n annog unrhyw un i ymuno â ni."
Gobaith Gwerfyl Pierce Jones, sy'n cerdded yn y bore cynnar ar ei phen ei hun ac yn hwyrach yn y dydd gyda chwmni, yw tynnu sylw at elusen "sy'n gwneud gwahaniaeth" i bobl yng Ngheredigion.